Dhimant Patel

Ganed Dhimant Patel yn Amwythig a'i fagu yn Telford, a threuliodd ran o'i blentyndod yn India cyn dychwelyd i'r DU yn 12 oed. Ar hyn o bryd, mae Dhimant yn uwch-arolygydd mewn fferyllfa yng Nghoedpoeth, Wrecsam.
Gyda diddordeb mewn meddygaeth o oedran ifanc, enillodd Dhimant brofiad gwaith mewn fferyllfa leol yn 13 oed ac mae'n dweud nad oedd erioed wedi edrych yn ôl.
Mae'n esbonio:
"Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau bod yn rhan o ofal iechyd, a diolch byth i gynghorydd gyrfa weld fy niddordeb mewn gwyddoniaeth ac awgrymodd ychydig o feysydd gwahanol i mi eu harchwilio, ac un ohonynt oedd fferylliaeth.
"Cwblheais fy ngradd fferylliaeth ym Mhrifysgol Aston ac yna fy mlwyddyn Hyfforddiant Sylfaen yn Ysbyty Amwythig. Ar ôl gweithio fel locwm i ennill profiad, cefais swydd rheolwr fferyllfa gyda chwmni annibynnol, cyn symud i fferyllfa genedlaethol boblogaidd.
"Yna cododd cyfle i mi brynu fy fferyllfa fy hun ac fe neidiais ar y cyfle - allwn i ddim aros i redeg gwasanaeth fferyllfa y ffordd roeddwn i'n teimlo y dylid gofalu am gleifion.
"Symudais i a fy nheulu i weithio yn ein fferyllfa ein hunain yn 2013, ar ôl dewis Coedpoeth, Cymru dros fferyllfa yn Swydd Gaerhirfryn, Lloegr gan ei bod yn agosach at ein teulu.
"Gwelais yn gyflym iawn bod Cymru'n flaengar iawn yn y sector fferylliaeth. Mae wedi gweld newidiadau enfawr dros y 15 mlynedd diwethaf, ac mae'n parhau i esblygu. Rwy'n treulio llai o amser yn gwerthu meddyginiaethau dros y cownter ac yn gwirio presgripsiynau nawr gan fod fy nhîm fferyllol yn fedrus wrth wneud y tasgau hyn. Mae gan y tîm hefyd yr offer i wirio am newidiadau a wneir i feddyginiaethau rheolaidd pobl i'w cadw'n ddiogel pan fyddant yn cael eu rhyddhau adref o'r ysbyty. Ar hyn o bryd rwy'n treulio fy amser yn gwneud yr holl wasanaethau fferylliaeth glinigol newydd. Mae hyn yn golygu treulio amser yn yr ystafell ymgynghori yn gwneud diagnosis a thrin mân gwynion iechyd brys. Mae hyn yn cynnwys profi dolur gwddf, rhagnodi ar gyfer heintiau clust, brest ac wrin yn ogystal â gwneud diagnosis a thrin cyflyrau'r croen. Mae cynlluniau beiddgar ar gyfer symud y sector yn ei flaen, ac er ei fod yn ymddangos yn eithaf gwyro oddi wrth ein rolau cyflenwi traddodiadol, mae'n ymddangos ei fod yn gyfnod heriol ond gwerth chweil o'n blaenau.
"Mae bod yn berchen ar fy fferyllfa fy hun wedi cael ei fanteision a'i anfanteision, ond mae'r profiad wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan ac mae'r dyfodol yn sicr yn ddiddorol. Rydyn ni'n meddwl am lawer o syniadau newydd, rolau newydd, a chyfleoedd newydd - a gobeithio y gallaf barhau i ddarparu gwasanaeth da i'n cleifion.
"Mae'r hyfforddiant dwi wedi ei dderbyn yng Nghymru wedi bod yn ddim llai na rhagorol. Mae strwythur y gefnogaeth yn wych, gyda llawer o gyfleoedd i ddysgu a hyfforddi. Mae gan AaGIC lwyfan lle rydych chi'n cael mynediad at ddeunyddiau i gwblhau eich achrediad ar gyfer gwasanaethau fferylliaeth gymunedol, yr wyf wedi ei chael yn syml ac yn reddfol. Rwy'n ei ddefnyddio i gofrestru fy hun a'm staff ar gyrsiau ar-lein neu wyneb yn wyneb, gan gynnwys y cwrs diweddaraf a gwblheais - Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Yn flaenorol, cwblheais gwrs Mân Anhwylderau a ariannwyd yn ganolog ym Mhrifysgol Bangor, i baratoi ar gyfer fy Nghwrs Rhagnodi ym Mhrifysgol Glyndŵr. Rwyf bob amser wedi gallu gofyn am help pan fo angen, ac mae'r bobl berthnasol bob amser wrth law i'ch gneud i'r cyfeiriad cywir.
"Nawr ein bod wedi setlo yng Nghymru, does gennym ni ddim cynlluniau i symud. Y peth gwych am ble rydyn ni wedi'n lleoli yw nad oes dim yn ymddangos yn rhy bell i ffwrdd. Mae gennym y traeth, llynnoedd, coedwigoedd a pharciau cenedlaethol gerllaw. Yn ein tref enedigol newydd yng Nghoedpoeth, rydym wedi cael croeso mawr ac yn teimlo'n rhan o'r gymuned.
"Mae'r rhagolygon hirdymor yng Nghymru yn wych, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n chwilio am rôl ym maes gofal iechyd i ystyried y wlad hon fel cyrchfan i astudio, gweithio a byw."