TWL

Melody Saffari Ashtiyani

Melody

Ganwyd Melody yng Nghaerwrangon, Lloegr a chafodd ei magu yn Aberystwyth, Cymru. Wrth astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU, gwelodd mai'r pynciau oedd â’r gwerth a'r mwynhad mwyaf iddi oedd cemeg a mathemateg. Ar ôl edrych ar raddau prifysgol a oedd yn gofyn am y pynciau hyn, sylweddolodd fod y sector gofal iechyd yn addas iawn oherwydd ei fod yn cyfrannu tuag at y sector gyhoeddus ac yn helpu eraill - ffactorau oedd yn rhoi boddhad iddi. 

Dywed Melody: 

Ar ôl mynychu llawer o ddiwrnodau agored prifysgolion ac edrych ar raddau gofal iechyd gwahanol, penderfynais mai Fferylliaeth oedd yr opsiwn gorau. Roedd hyn oherwydd y cyfuniad o wyddoniaeth a’r elfennau o ymwneud â’r claf yn uniongyrchol sydd yn y rôl. Mynychais Brifysgol Caerdydd yn 2018 i gyflawni fy ngradd Meistr Fferylliaeth 4 blynedd, ac yna dychwelais i Aberystwyth ar gyfer fy mlwyddyn hyfforddiant sylfaen mewn aml-sector.  

Gan mai dim ond yn Aberystwyth yn 2021 y cafodd y flwyddyn aml-sector ei lansio i hyfforddeion, fi oedd un o'r bobl gyntaf i gyflawni'r model o hyfforddiant newydd hwn. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys tri chylchdro mewn fferylliaeth a gofal eilaidd yn Ysbyty Bronglais. Yn ogystal, roedd yn cynnwys fferylliaeth gymunedol, gofal sylfaenol yng nghlinig Meddygol Meddygfa Emlyn a gweithio gyda'r tîm Rheoli Meddyginiaethau. Fe wnes i gyflawni fy hyfforddiant ym mis Gorffennaf 2022, ar ôl pasio'r Asesiad Cofrestru Fferyllol Cyffredinol a chymhwyso fel fferyllydd. 

Ar ôl fy mlwyddyn hyfforddiant sylfaen, penderfynais aros yn Aberystwyth. Dechreuais fy rôl bresennol fel fferyllydd yn Ysbyty Bronglais, gan ymgymryd â rhaglen hyfforddiant lefel sylfaen ôl-gofrestru. 

Roedd fy mhenderfyniad i aros yng Nghymru yn ganlyniad i'r hyfforddiant a'r gefnogaeth a gefais fel hyfforddai, ac roeddwn yn teimlo fod hwn yn lle perffaith i ddechrau fy ngyrfa.  

Gan gael fy magu yn Aberystwyth, rwyf bob amser wedi caru’r ymdeimlad o gymuned tref fach. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol ar gyfer cerdded, gydag ardaloedd gwyrdd mawr a mynyddoedd o gwmpas y dref. Gyda'r traeth a'r môr gerllaw, dwi wastad yn ffeindio bod rhywbeth i'w wneud.  

Mae gweithio yn Ysbyty Bronglais yn wahanol i ysbytai eraill dwi wedi gweithio ynddyn nhw. Mae hyn oherwydd gan fod yr ysbyty mor fach - rydych chi'n dod i adnabod eich cydweithwyr a'r tîm gofal iechyd ehangach yn llawer mwy personol. Rydych chi bob amser yn agos at wyneb cyfeillgar!  

Mae fy rôl bresennol am 2 flynedd, sy'n fy ngalluogi i weithio ac astudio'n rhan amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n gobeithio, ar ôl i mi gyflawni fy nghymhwyster, y bydd hyn yn caniatáu imi ddatblygu fy ngyrfa ymhellach a dyfnhau fy ngwybodaeth glinigol.  

Fe fyddwn i'n dweud nad oes lle gwell ar gael i hyfforddi, gweithio a byw na Chymru, gan fod ganddi gyfleoedd diddiwedd, cymunedau cyfeillgar a llawer o gefnogaeth. 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis