TWL

Sam Macdonald

Mae Sam Macdonald yn fferyllydd gofal sylfaenol sy'n gweithio yn Ne Cymru. Yn raddedig o brifysgol yn Brighton, daeth Sam yn ôl adref i elwa ar y rhaglen hyfforddiant sylfaen 'aml-sector' newydd ar gyfer fferyllwyr dan hyfforddiant ac i ddechrau ei yrfa. Yn dilyn hyn, cwblhaodd Sam raglen ddatblygu ar gyfer fferyllwyr oedd newydd gofrestru a oedd ar ffurf diploma ôl-raddedig amlsector ar y pryd. Ers hynny mae wedi cwblhau ei gymhwyster rhagnodi annibynnol, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel fferyllydd mewn practis. Mae symudiad gyrfa nesaf Sam eisoes ar y gweill - mae newydd sicrhau Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) penodiad arbennig iawn, lle bydd yn cymryd rhan mewn prosiectau mawr i lunio dyfodol fferylliaeth.  

Mae Sam yn esbonio pam ei fod wastad wedi bwriadu dychwelyd i Gymru: 

“Symudais i ffwrdd i Brifysgol Brighton, i astudio ar gyfer fy ngradd fferylliaeth, gan ei fod yn gyfle i ddarganfod dinas newydd.  Roeddwn i wrth fy modd gyda Brighton a mwynheais fy mhrofiad prifysgol yno yn fawr. Fodd bynnag, roeddwn yn falch o ddod yn ôl i Gaerdydd gyda fy MPharm ac yn gyffrous i ddechrau gyrfa yma yng Nghymru. 

Yn ystod fy mlwyddyn fel fferyllydd dan hyfforddiant yng Nghymru, rhannwyd fy amserlen rhwng ysbyty, gweithio yn y gymuned a phractis meddyg teulu, ac roedd gennyf oruchwylwyr addysgol ar y cyd mewn fferylliaeth ysbyty a chymunedol. Cefais amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu unigryw, ym mhob sector, mewn amgylcheddau cefnogol a oedd yn annog dysgu a datblygu. 

Cyn diwedd fy mlwyddyn hyfforddiant sylfaen, roeddwn wedi sicrhau fy swydd fferyllydd gyntaf mewn Bwrdd Iechyd cyfagos, swydd aml-sector 2 flynedd. Ar y pryd, roeddwn yn ansicr i ba gyfeiriad yr oeddwn am fynd iddo, ond un o rinweddau’r swydd oedd fy mod yn parhau i gael cyfleoedd clinigol i reoli meddyginiaethau mewn meddygfeydd teulu ac amgylcheddau ysbytai acíwt.  

Mae cymaint o fanteision i hyfforddi a gweithio yng Nghymru. Mae fferyllwyr dan hyfforddiant yn cael cymorth o ansawdd uchel gan y goruchwylwyr addysgol, ac mae’r rhaglen hyfforddi yn hyblyg a strwythuredig, gan sicrhau ein bod yn ennill profiad aml-sector, sy’n cynnwys cydweithio â llawer o wahanol weithwyr proffesiynol.  

Fel rhan o Safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol newydd y GPhC ar gyfer fferyllwyr, mae cyfleoedd ôl-gofrestru ar gael yng Nghymru i fferyllwyr sydd newydd gofrestru. Mae’r rhain yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’u cefnogi gan gyflogwyr—rwy’n teimlo’n hyderus fy mod wedi cael cymorth na faswn efallai wedi’i gael mewn rhannau eraill o’r DU.  

Darparodd y rhaglen hyfforddiant sylfaen a chyfleoedd hyfforddiant ôl-gofrestru y profiad cyffredinol a alluogodd i mi gael swydd fel fferyllydd clwstwr, yn gweithio yng Nghaerffili yng Ngwent. Fel rhan o’r rôl hon, rwy’n gweithio gyda thîm o fferyllwyr, gan ddarparu cymorth ar draws clwstwr gofal sylfaenol sy’n cynnwys saith practis meddyg teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal. Mae fy nghyfrifoldebau fel arfer yn cynnwys adolygu cleifion ar feddyginiaethau lluosog, gwneud newidiadau i wella eu cyflyrau ac ansawdd bywyd, yn ogystal â gwneud gwaith monitro priodol.  Mae'n gyfle gwych i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, ochr yn ochr â chael cymorth gan uwch fferyllwyr a meddygon teulu.    

Fel rhan o'r swydd hon, roeddwn hefyd yn gallu derbyn cyllid AaGIC i hyfforddi fel rhagnodwr annibynnol. Mae hyn wedi fy nysgu sut i gynnal archwiliadau corfforol ar gleifion ac wedi fy ngalluogi i ragnodi meddyginiaethau mewn maes clinigol arbenigol. Cwblheais fy nghwrs rhagnodi mewn gwrth-geulo ar gyfer ffibriliad atrïaidd ac ar hyn o bryd rwyf yn rhagnodi yn y maes hwn. 

Ers cwblhau fy nghymwysterau rhagnodi annibynnol, rwyf hefyd wedi dechrau gweithio’n annibynnol i un o’r practisau yn fy nghlwstwr. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ehangu cwmpas fy ymarfer rhagnodi a chymryd cyfrifoldebau ychwanegol, gan gynnwys rhedeg fy nghlinig mân salwch fy hun. Rwyf ar hyn o bryd yn rhannu fy amser yn gweithio'n annibynnol ar gyfer y practis hwn, yn ogystal â gweithio fel rhan o'r tîm ehangach o fferyllwyr yn y clwstwr, sydd yn golygi fy mod yn cael amrywiaeth mawr yn ystod fy wythnos waith. 

Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael cyflogaeth ychwanegol fel arweinydd clinigol ar gyfer GIG 111 lle rwyf ar hyn o bryd yn arwain tîm o fferyllwyr yn Ne-ddwyrain Cymru. Yn 111 mae Fferyllwyr yn gweithio fel rhan o dîm ochr yn ochr â meddygon teulu a nyrsys i frysbennu a thrin salwch dros y ffôn ac yn bersonol, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau'r wythnos arferol. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau ychwanegol mewn arweinyddiaeth, ymgynghoriadau ffôn a rheoli salwch acíwt ac mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil, i helpu cleifion yn ystod yr oriau nad ydynt yn gallu cael mynediad at eu meddygon teulu eu hunain. 

Ers pandemig COVID-19, fel rhan o’m rôl clwstwr, rwyf wedi gallu darparu cymorth hanfodol i’r rhaglen frechu. Rwyf i, ynghyd â fferyllwyr clwstwr eraill yn fy Mwrdd Iechyd, wedi bod yn rhan o’r tîm sy’n staffio’r canolfannau brechu torfol. Rwyf wedi bod â nifer o gyfrifoldebau ers i’r rhaglen ddechrau, o frechu cleifion, i reoli’r gwaith o baratoi a storio’r brechlynnau amrywiol sy’n cael eu defnyddio. Rwyf wedi bod yn hynod o falch o fod wedi cael y cyfle i gefnogi’r GIG drwy gydol y pandemig ac yn ddiolchgar i gael rôl sydd wedi fy ngalluogi i fod yn rhan o hyn.  

Yn ddiweddar, cefais fy nerbyn i ddechrau secondiad o’m rolau presennol, lle byddaf yn ymuno â rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) am y flwyddyn nesaf. Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio’n agos gydag Addysg Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Llywodraeth Cymru a bydd yn darparu cyfleoedd gwych i ddatblygu fy sgiliau fel arweinydd a bod yn rhan o brosiectau mawr a fydd yn llywio dyfodol Fferylliaeth a’r GIG ehangach yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle. 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cael llawer iawn o gyfleoedd ac yn teimlo bod y rhaglenni hyfforddi ar gyfer fferyllwyr yng Nghymru wedi rhoi dechrau gwych i fy ngyrfa. Rwy’n ddigon ffodus i weithio oriau weddol gymdeithasol a chael digon o amser i ymlacio a chanolbwyntio ar wneud y pethau rwy’n eu caru, boed hynny drwy fwynhau’r golygfeydd anhygoel o gwmpas fy ardal neu archwilio bwytai newydd a mwynhau’r diwylliant caffi yn y ddinas. Mae popeth ar garreg y drws yma yng Nghaerdydd! Dod i Dde Cymru oedd un o’r penderfyniadau gorau wnes i ar gyfer fy ngyrfa, a nawr fy mod i yma, alla’ i byth ddychmygu gadael.”