Emma McGowan
Penderfynodd Emma ei bod am fod yn nyrs ar ôl i'w thad farw o ganser. Cymhwysodd yn 2007 ac mae wedi datblygu ei gyrfa heb gyfaddawdu ar y pethau a'i denodd at nyrsio yn y lle cyntaf.
Dywedai Emma:
“Roeddwn i wedi bwriadu bod yn athro. Cefais le yn y Brifysgol ond penderfynais beidio â mynd ar ôl gweld fy nhad yn marw o ganser. Roedd symud i nyrsio yn benderfyniad yn seiliedig ar emosiwn. Cymhwysais fel nyrs oedolion i ddechrau ac yna dod yn nyrs gymunedol. Yna cwblheais fy ngradd nyrsio ardal ychydig flynyddoedd yn ôl.
“Cefais gefnogaeth anhygoel gan fy rheolwr llinell i gyrraedd lle rydw i heddiw. Cefnogodd fy mhenderfyniad i gwblhau fy ngradd nyrs ardal mewn llai na 12 mis a chymeradwyodd fy absenoldeb astudio er mwyn cyflawni hyn. Er ei bod yn flwyddyn ddwys, roedd yn opsiwn gwych i mi, gan fod fy mhlant yn yr oedran hwnnw lle'r oedd gen i fwy o amser i ganolbwyntio ar fy ngyrfa.
“Roeddwn wrth fy modd â'r radd, a symudais i fyny o fod yn nyrs ardal Band 6 i Fand 7, a oedd yn golygu fy mod yn Brif Weinyddes Nyrsio gyda'r potensial i symud i faes rheoli, ac fe wnes i hynny. Cododd cyfle i weithio'n rhan-amser ar safoni dogfennaeth nyrsio yn genedlaethol - roedd hyn yn fy ngalluogi i gael profiad o weithio ar lefel Cymru gyfan ac ers hynny rwyf wedi cael fy mhenodi'n nyrs gwybodeg arweiniol glinigol y bwrdd iechyd. Ond, waeth beth fo'r lefel, y peth gorau am fod yn nyrs lle rydw i, yw cael yr amser i ddarparu'r math o ofal o safon a'm denodd i nyrsio yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod lefel y gofal yr ydym yn gallu ei ddarparu yn uchel iawn.
“Rydw i wedi fy lleoli ym Mhowys ar hyd fy ngyrfa. Mae Bannau Brycheiniog ar fy stepen ddrws ac mae'n wych magu'r plant mewn ardal sy'n cynnig cydbwysedd mor wych rhwng bywyd a gwaith. Mae pawb mor gyfeillgar, ac mae gennym ysbryd cymunedol gwych.
“Byddwn yn argymell nyrsio i unrhyw un sydd o ddifrif yn ei gylch, yn enwedig yng Nghymru. Fel rydw i wedi darganfod, mae nyrsio yn opsiwn gyrfa go iawn y dyddiau hyn. Rwyf wedi creu gyrfa dda ar gyflymder sy'n addas i mi, ac rwyf wedi dysgu y gallwch bob amser ddibynnu ar gymorth i'ch helpu i gyrraedd eich nodau.”