James Robinson

Mae James Robinson, o Bont-y-pŵl, yn arweinydd prosiect iechyd meddwl ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru sydd wedi'i leoli yn ne-ddwyrain Cymru.
Cafodd James ei annog gan ei dad-cu i ddilyn gyrfa mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ar ôl cwblhau ei gymhwyster nyrsio ym Mryste, Lloegr - dychwelodd James adref i Gymru i roi ei wybodaeth a'i sgiliau ar waith, gan roi hwb i'w yrfa 15 mlynedd bellach gyda'r GIG.
Mae'n esbonio:
“Pan adewais yr ysgol ar ôl cwblhau fy arholiadau Lefel A, roeddwn yn ansicr beth oeddwn i eisiau ei wneud mewn bywyd. Trois at fy nhad-cu am gyngor, a oedd wedi gweithio yn y gwasanaethau iechyd meddwl drwy gydol ei yrfa, ac awgrymodd fy mod yn gweithio yn y banc staff nyrsio wrth i mi ystyried fy opsiynau. O fewn 6 mis i dderbyn ei gyngor, roedd gen i swydd barhaol fel gweithiwr cymorth gofal iechyd mewn ward asesu acíwt i oedolion. Yn y rôl hon, darganfyddais fy hoffter o weithio gyda thîm deinamig a gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau cleifion.
“Ar ôl 3 blynedd o weithio fel gweithiwr cymorth gofal iechyd, teimlais fy ysbrydoli i gwblhau fy nghymhwyster nyrsio i ddod yn nyrs iechyd meddwl a gwnes hynny ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr; byw a hyfforddi ym Mryste. Pan oedd fy hyfforddiant wedi'i gwblhau, penderfynais fy mod eisiau symud yn ôl i Gymru, lle roeddwn i'n teimlo fwyaf cartrefol.
“Cefais fy nenu yn ôl i Gymru gan y cefn gwlad hardd, yr agosrwydd at draethau a threfi, a'r awydd i aros yn agos at deulu a ffrindiau - ac rwy'n mwynhau byw yng Nghasnewydd, De Cymru.
“Hyd yn hyn yn fy ngyrfa, rwyf wedi bod yn ffodus i weithio mewn amrywiaeth o rolau ac arbenigeddau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed i hyfforddiant Oedolion ac Oedolion Hŷn. Rwyf wedi cwblhau hyfforddiant pellach gan gynnwys: - therapïau siarad, rheoli risg cleifion, dulliau cynllunio gofal, galluedd meddyliol a chymwysterau arweinyddiaeth. Mae'r rhain wedi fy ngalluogi i symud ymlaen o fod yn nyrs gymwysedig i fod yn rheolwr ward. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi cymryd secondiad i ennill profiad pellach mewn rheoli prosiectau.
“Rwyf bellach yn gweithio i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ble rydw i’n Arweinydd Prosiect Iechyd Meddwl y rhaglen Staff Nyrsio. Fy rôl i yw cefnogi Byrddau Iechyd ledled Cymru i gynhyrchu, datblygu a phrofi cyfres o offer i gyfrifo'r lefel staff nyrsio ofynnol ar gyfer wardiau derbyn a thriniaeth Iechyd Meddwl. Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio gyda staff anhygoel ar draws llawer o broffesiynau a dysgu ganddynt. O gydweithwyr i gleifion, rwyf wedi mwynhau ac elwa o ryngweithio â phobl o bob cefndir sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu profiadau, eu gwybodaeth a'u cefnogaeth. Dyna beth rwy'n ei garu am fy swydd — mae gen i rwydwaith cefnogol lle gallaf ddysgu gan gleifion, yn ogystal â chyfoedion. Mae hyn yn fy ngalluogi i feithrin perthynas a datblygu perthnasoedd, tra hefyd yn hyrwyddo ac weithiau'n rhoi llais i bobl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda thîm deinamig a gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau cleifion.
“Mae gweithio i'r GIG yng Nghymru wedi fy ngalluogi i gael mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi pellach o ddysgu seiliedig ar waith i gyrsiau ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth, gan ennill cymwysterau ychwanegol; mae pob un ohonynt wedi fy ngalluogi i symud ymlaen i'r man lle rydw i nawr yn fy ngyrfa. Gyrfa rwy'n falch ohoni a swydd rwy'n ei charu."