Majallel Lorin

Roedd Majallel Turiano-Llorin yn Nyrs Gymunedol newydd gymhwyso yng Nglynebwy, De Cymru pan ddaeth i Gymru o Ynysoedd y Philipinau am y tro cyntaf i sefydlu ei gyrfa nyrsio ym mis Tachwedd 2016. Bu’n gweithio fel Nyrs Staff yn Ysbyty Aneurin Bevan am 3 blynedd ac yn ddiweddarach trosglwyddodd i Ysbyty Nevill Hall fel Nyrs Staff mewn Damweiniau ac Achosion Brys ym mis Rhagfyr 2019. Heddiw, mae Majallel yn Nyrs Staff yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Grange sydd newydd ei adeiladu.
Pan gyrhaeddodd Majallel Gymru, roedd hi’n gobeithio y byddai ei gŵr a’i merch yn ymuno â hi yma hefyd yn fuan. Yn ddiweddar mae hi wedi croesawu ei gŵr, Francis, a symudodd o Ynysoedd y Philipinau fis Medi diwethaf 2020, a gobeithio y bydd ei merch, Irheena yn dilyn cyn gynted ag y bydd addasiadau gyda’r pandemig yn caniatáu.
Mae Majallel yn esbonio:
“Wedi ymgartrefu ym Mrynmawr, Glyn Ebwy, mae’n gobeithio trochi ei theulu yng nghymdeithas a diwylliant Cymru yn y gymuned lewyrchus a charedig. Ar ôl hyfforddi a chymhwyso fel nyrs yn fy ngwlad frodorol Ynysoedd y Philipinau yn 2011, fe wnaeth fy mam fy annog i ystyried dilyn yn ôl troed fy ewythr ac edrych ymhellach i ffwrdd ar rôl nyrsio dramor. Mae fy ewythr wedi mwynhau gyrfa nyrsio hir yn Llundain, ond roedd yr ymdeimlad cryf o gymuned a thirwedd syfrdanol yn gwneud Cymru yn ddewis amlwg i mi.
"Roedd y cymorth ariannol, emosiynol ac addysgol a gefais, o ran pecyn adleoli, croeso cyfeillgar a chymorth ymarferol i basio’r archwiliad clinigol statudol ar gyfer nyrsys tramor sy’n gweithio yn y DU, yn ei gwneud yn hawdd iawn i mi ymgartrefu yn fy amgylchfyd newydd. Rwy'n falch iawn o ddweud, o ganlyniad i'r cymorth hwn, mai fi oedd y nyrs dramor gyntaf yn fy Mwrdd Iechyd Prifysgol i basio'r Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol gofynnol.
"Mae nyrsio cymunedol yng Nghymru fel bod yn rhan o un teulu estynedig mawr. Mae yna hefyd gymuned Ffilipinaidd sydd wedi hen ennill ei phlwyf yma ac roedd yr ymdeimlad cryf hwn o berthyn yn help mawr i mi ffitio i mewn ac roedd yn helpu i leihau’r hiraeth am fy nheulu ac adref.
"Fel Nyrs Gymunedol, roeddwn i'n gweithio mewn ysbyty dan arweiniad nyrsys. Roedd yr amgylchedd cefnogol yn fy ngalluogi i ymarfer a datblygu fy sgiliau meddwl beirniadol yn gyflym i weithio gyda chleifion i'w helpu i gyflawni eu nodau. O ganlyniad, tyfodd fy hyder mewn gwneud penderfyniadau a chynllunio gofal. Roedd y sgiliau hyn yn sail dda i mi wrth i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa.
"Bron i bum mlynedd yng Nghymru, gallaf ddweud yn gadarnhaol fy mod wedi tyfu yn fy mywyd personol a phroffesiynol. Fel Nyrs Staff yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, mae pob dydd yn gyfle i wasanaethu’r gymuned ac achub bywydau. Dydych chi byth yn gwybod beth ddaw trwy ddrws yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys – rhuthr llawn adrenalin bob amser. Roedd yn arbennig o heriol pan darodd y pandemig. Roeddwn yn poeni am fy iechyd personol fy hun, sefyllfa fy nheulu yn ôl yn Ynysoedd y Philipinau, a bywydau fy nghleifion. Ar adegau fel hyn, byddaf bob amser yn atgoffa fy hun o gariad anfarwol fy nheulu ac i fynd yn ôl at graidd fy mhroffesiwn sef 'cysegru fy hun i wasanaeth ymroddedig i les dynol'.
"Mae Cymru’n lle mor groesawgar a chyfeillgar, mae’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo a byddwn yn annog nyrsys tramor eraill sy’n dymuno adleoli, i roi’r wlad wych hon ar frig eu rhestr.”