TWL

Sharon Fernandez

SharonFernadezWM transformed v2

Yn wreiddiol o Gymru, penderfynodd Sharon ddychwelyd adref i Aberhonddu yn 2009 i ddod o hyd i'w chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ar ôl ymgartrefu yn Lloegr am dros 20 mlynedd. Mae ei hymroddiad i gleifion a'i hymrwymiad i ddatblygu gyrfa wedi gweld Sharon yn cael ei henwi fel 'Ymwelydd Iechyd y Flwyddyn 2017'

Esbonia Sharon:

“Symudais i ffwrdd o Gymru pan oeddwn yn 19 oed i hyfforddi fel nyrs yn y fyddin, oherwydd dyna oedd fy uchelgais erioed. Cefais gymaint o brofiad bywyd a gyrfa, cwrddais â fy ngŵr yn y fyddin hyd yn oed, ond roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau dychwelyd i Gymru. 

“Ar ôl gorffen fy ngwaith Nyrsio Cyffredinol a Nyrsio Plant Gwael Cofrestredig yn y fyddin, cefais hyfforddiant pellach fel Ymwelydd Iechyd. Roeddwn wrth fy modd gyda fy ngwaith fel Ymwelydd Iechyd, ond nid oedd gweithio a byw yn Colchester, Essex yn addas i mi. Dychwelais adref i ganolbarth Cymru yn 2009 gyda fy ngŵr ac i fagu ein dau blentyn, gan obeithio darganfod y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yr oeddwn yn ei chael yn anodd ei gyflawni yn Essex. 

“Rwyf bellach yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru ac rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r cyfleoedd hyblyg i ddysgu a gwaith sydd ar gael yng Nghymru. Ar ôl dychwelyd i Aberhonddu, fe wnaeth y bwrdd iechyd ariannu fy ngradd Meistr mewn Iechyd Meddwl Babanod yn rhannol a chaniatáu amser i mi ar wahân i'm gwaith gwblhau fy astudiaethau. Maent hefyd wedi cefnogi fy secondiad i'm rôl bresennol. 

“Mae cynnydd gyrfaol yn cael ei gefnogi'n fawr. Cefais gymorth i ymgymryd â rôl newydd fel Arweinydd Partneriaeth Gweithredu Cynnar Gyda'n Gilydd gyda Heddlu Dyfed-Powys ac yna secondiad i'm rôl bresennol fel yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol; roedd hon yn rôl newydd sbon i Gymru. Mae'r rôl hon wedi rhoi cyfle i mi arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ar gyfer unigolion sy'n cynllunio beichiogrwydd, yn feichiog neu sydd â babi o dan un. Ein nod yw sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn cefnogi pontio emosiynol arferol i fod yn rhiant, hyd at adnabod a darparu'r gofal cywir ar yr adeg iawn i'r rhieni hynny sydd ag anawsterau iechyd meddwl. Mae fy mhrofiad blaenorol yn ymweld ag iechyd wedi bod yn amhrisiadwy yn y rôl hon ac mae gwybod bod fy rôl yn cael ei gwerthfawrogi'n eang yn gwneud y swydd gymaint yn fwy gwerth chweil. 

“Rwy'n fam i ddau o blant ac rwyf wedi cael yr hyblygrwydd i reoli fy amser rhwng y gwaith a'r cartref. Rwyf wrth fy modd yn cerdded ym Mannau Brycheiniog a chyflymder bywyd y mae hyn yn ei gyflwyno — mae fy lleoliad cefn gwlad yn berffaith ar gyfer hyn! 

“Os ydych yn gwerthfawrogi gweithio ar y cyd, lle mae rôl unigryw'r holl wasanaethau ar draws y llwybr gofal iechyd meddwl amenedigol yn cael ei chydnabod a'i hystyried yn rhan o'r weledigaeth genedlaethol fwy o fod eisiau i bob unigolyn dderbyn y gofal cywir ar yr adeg iawn a chan y bobl iawn, yna Cymru yw'r lle i chi.” 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis