Sian Thomas
Mae Sian Thomas yn Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn Ne Cymru. Mae nyrsio yng Nghymru dros y 36 mlynedd diwethaf wedi caniatáu iddi ddatblygu mentrau pwrpasol sy'n diwallu anghenion ei chleifion. Gwaith arweiniodd at ennill Gwobr 'Nyrs y Flwyddyn' y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2016.
Mae hi'n esbonio:
"Yn dod o Orllewin Cymru, doedd dim angen unrhyw berswâd arnaf ar fanteision gyrfa o hyfforddi, gweithio a byw yn fy man geni, a'r GIG modern. Fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant nyrsio cyffredinol yma ac es i ymlaen i arbenigo mewn iechyd plant - lle rydw i wedi mireinio fy ngwybodaeth a fy arbenigedd dros y blynyddoedd.
"Mae'r cyfleoedd i ddysgu ar y swydd, mewn amgylchedd hynod gefnogol, gyda datblygiad proffesiynol parhaus ar bob cam o'r ffordd, wedi bod heb ei ail. Rwyf wedi cael y profiad, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ymarfer nyrsio ar lefel uwch ac i ddatblygu fy ngyrfa fel nyrs ymgynghorol. Rwyf bellach yn fy unfed flwyddyn ar bymtheg fel Nyrs Ymgynghorol Iechyd Plant yn Ne Cymru ac ni allwn fod yn hapusach. Rwy'n Gadeirydd blaenorol ar gyfer y Nyrs Ymgynghorol, Bydwraig a Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy'n cymryd rhan weithredol yn rhoi llais i nyrsys ac wrth lunio dyfodol ein proffesiwn.
"Mae nyrsio yng Nghymru yn rymus iawn. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwytnwch ac mae'r wybodaeth bod ein dyletswydd o ofal i'n cleifion wir yn gwneud gwahaniaeth. Ro'n i'n ddigon ffodus i dderbyn gwobr 'Nyrs y Flwyddyn 2016' gan y Coleg Nyrsio Brenhinol am fy ngwaith yn datblygu systemau cymorth arloesol i blant ag anghenion iechyd cymhleth iawn. Gwobr rwy'n falch iawn ac yn hynod ddiolchgar i fy nghydweithwyr a'm Bwrdd Iechyd am eu hanogaeth ac rwy'n falch o ddweud bod gwaith yn y maes clinigol hwn yn parhau i ddatblygu. Ar ôl gwneud gwaith ymchwil a theithio i'r Unol Daleithiau i archwilio arferion rhyngwladol rwyf wedi gallu dylanwadu ar bolisi Cenedlaethol a datblygu canllawiau i staff ar ddefnyddio deietau cyfunol ar gyfer cleifion sy'n cael eu bwydo drwy diwb am byth.
"P'un a ydych chi'n nyrs sydd newydd gymhwyso, neu os ydych chi wedi bod yn nyrsio ers blynyddoedd, gall symud i Gymru wir fynd â chi lefydd yn eich gyrfa - dwi'n brawf byw o hynny. Ychwanegwch at hynny'r ymdeimlad cryf o gymuned, cartrefi fforddiadwy a thirwedd naturiol syfrdanol - beth sydd ddim i'w hoffi? Byddwn yn annog pawb sy'n chwilio am yrfa nyrsio sy'n rhoi boddhad i Gymru ar frig eu rhestr."