TWL

Amdanom ni

Mae ymgyrchoedd denu cenedlaethol a rhyngwladol HyfforddiGweithioByw GIG Cymru (TWL) yn marchnata Cymru fel lle deniadol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol I hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn cefnogi cyflenwad i'r gweithlu presennol ac yn cyfrannu at y cyflenwad gweithlu i fodloni gofynion y dyfodol.

Darperir TWL gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru sy'n eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Mae'r sefydliad yn goruchwylio datblygiad strategol y gweithlu iechyd yng Nghymru ac mae'n ymroddedig i drawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach. Mae ganddo rôl arweiniol yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru i sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Mae tîm TWL yn cynnal nifer o ymgyrchoedd denu bob blwyddyn, gan roi sylw i wynebau a straeon gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi dewis hyfforddi a/neu weithio yng Nghymru. Lansiwyd TWL ym mis Hydref 2016, gydag ymgyrch feddygol a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar feddygon teulu, ac ers hynny mae wedi datblygu i gynnwys ffocws seiciatreg, gydag ymgyrchoedd ychwanegol ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth, deintyddiaeth, yn ogystal a fferylliaeth. Mae ymgyrchoedd denu eraill i gefnogi recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i GIG Cymru yn cael eu datblygu ac maent yn cynnwys ymgyrch ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r ymgyrchoedd denu yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu digidol wedi'i dargedu, ynghyd â mynychu digwyddiadau gofal iechyd gyda'n stondin GIG Cymru pwrpasol.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis