TWL

Byw

Byw yng Nghymru

Gwlad o wrthgyferbyniadau

172 Cardiff Bay 1 City Life Taken 2021 v4

Mae Cymru’n wlad fach ond amrywiol, lle mae cymunedau hardd, arfordiroedd digyffwrdd, ardaloedd gwledig trawiadol a dinasoedd bywiog yn cyfuno cyfle i ymlacio a'r holl anturiaethau sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith rydych wedi bod yn chwilio amdano.

Bywyd trefol

Urban living v3

Yn ymhlygu’n gyflym fel un o brifddinasoedd mwyaf egnïol Ewrop, mae Caerdydd yn cynnig siopa o'r radd flaenaf, bwyta steilus, parciau hardd a’r holl fanteision eraill y byddech yn eu disgwyl o fywyd trefol modern.

Yr awyr agored

206 Mountain Railway Mt Snowdon 1 Coastal Taken 2018 v3

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Ond ble bynnag yr ewch chi, mae natur o'ch cwmpas. Ond ble bynnag yr ewch chi, mae natur o'ch cwmpas. O fynyddoedd hardd i ddyffrynnoedd ag afonydd dramatig, traethau anial i gopaon a chlogwyni garw, mae'r dirwedd naturiol yn cynnig cefndir arbennig p'un ai ydych chi’n chwilio am antur, eisiau dadflino neu jyst byw o ddydd i ddydd.

Bywyd ger y traeth

Barafundle Bay kids running on beach v3

O arfordir byd-enwog Gŵyr yn y de, i draethau hardd Pen Llŷn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd, mae Cymru'n gartref i lawer o draethau gorau'r DU – a’r cyfan ger llwybr arfordirol 870 milltir o hyd lle mae cildraethau, pentiroedd a baeau'n gorlifo â bywyd gwyllt.

Cestyll a chwedlau

Entry Number 201 v3

Mae cestyll yn diffinio tirwedd Cymru gymaint â'n bryniau a'n dyffrynnoedd. Mae cyfanswm o 641 - yn adeiladau urddasol, chwedlonol ac yn adfeilion - pob un yn cynnig cipolwg ar y gorffennol ac yn rhoi cyfle i chi ddysgu am y chwedlau o fewn eu muriau. Os ewch chi’n ôl ymhellach fyth, mae dwsinau o safleoedd cynhanesyddol i'w gweld hefyd, gan gynnwys rhai o'r rhyfeddodau Neolithig gorau yn y DU.

Antur ar garreg eich drws

DSC 9371 v3

I blant (mawr a bach), Cymru yw'r maes chwarae perffaith. O feicio mynydd i gaiacio, dringo creigiau i syrffio, mae ein mynyddoedd, bryniau, afonydd a’n traethau yn eich disgwyl gan roi cyfle i chi roi cynnig ar gymaint ag y gallwch o weithgareddau antur.

Ac os ydych chi am roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae gwifrau gwib cyflymaf y byd yng Nghymru yn ogystal â thrampolîn tanddaearol sy’n hongian 180 troedfedd yn yr awyr.

Gwlad chwaraeon

live v7

Mae gan Gymru dreftadaeth chwaraeon falch. O glybiau rygbi, pêl-droed a hoci sy'n croesawu chwaraewyr ar bob lefel, i glybiau golff gyda’u cyrsiau o safon pencampwriaeth, mae croeso i chi gymryd rhan a phrofi eich sgiliau.

Eich prifddinas adloniant

NVW C08 1516 0115 v2

Gyda’i siopau bach arbenigol, ffefrynnau'r stryd fawr ac arcedau Fictoraidd llawn cymeriad, mae'n hawdd gweld pam fod Caerdydd ar y map fel cyrchfan siopa o'r radd flaenaf. Ar ben hynny mae cerddoriaeth fyw, cyrchfannau modern, chwaraeon rhyngwladol, theatrau a nifer o ddigwyddiadau - fyddwch chi ddim yn gallu cadw draw.

Bwytai i bawb

SVW C33 1516 0013 v2

O fwytai sêr Michelin i farchnadoedd ffermwyr, bistros dros dro i dafarndai gwledig croesawgar, cewch fwyd blasus ble bynnag yr ewch chi yng Nghymru, pwy bynnag yr ydych yn eu cwmni a beth bynnag yr hoffech ei fwyta.

Costau byw

90 Ogmore Castle Rural Taken 2021 v3

Yma mae rhai o'r costau byw isaf yn y DU ac mae gan y rhan fwyaf o'r boblogaeth safon byw uchel.

Mae costau byw yng Nghymru yn dibynnu ar eich lleoliad, eich cyflogaeth a'ch amgylchiadau. Fodd bynnag, yn hanesyddol mae costau is yng Nghymru am eitemau fel llety, teithio, bwyd, adloniant, siopa a gwasanaethau.

Tai

St Edyrn Village Urban View Rural Taken 2020 v6

Mae cartrefi traddodiadol a modern 33% yn rhatach nag yng ngweddill y DU ar gyfartaledd. P'un ai a ydych chi am brynu neu rentu eiddo, mae’r gost yn dibynnu'n fawr ar y lleoliad y byddwch yn ei ddewis a maint yr eiddo.

Adleoli eich teulu

Skomer Island Family Taken 2019 v3

Os ydych chi am adleoli gyda'ch teulu a’u bod eisiau gweithio neu astudio yng Nghymru, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Wales.com.

Croeso i Gymru

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis