Ydych chi'n llysgennad?
Mae ein llysgenhadon wedi dod o bob rhan o’r byd ac yn cynrychioli cefndiroedd a phroffesiynau amrywiol, i gyd wedi’u hysbrydoli i adrodd eu stori o fod yn rhan o GIG Cymru. Fel llysgennad, byddwch chithau hefyd yn cael y cyfle i rannu eich taith unigryw gydag eraill.
Chi sy'n dewis eich cyfranogiad
Dewch i'n hadnabod
Rydym yn hynod falch o hyrwyddo Cymru fel ffordd ddeniadol o fyw i weithwyr gofal iechyd. Rydyn ni wir yn credu bod gan Gymru bopeth y gallech chi ei eisiau, yn bersonol ac yn broffesiynol.
I gael gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud, cliciwch ar y botwm isod.
Cwrdd â'n llysgenhadon
Dewch i gwrdd â'n gweithwyr gofal iechyd go iawn sydd wedi dewis hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Mae gennym lysgenhadon o amrywiaeth o feysydd proffesiynol.
Darganfod sut beth yw gweithio i GIG Cymru gan y bobl sydd eisoes yn gwneud hynny.
Straeon bywyd go iawn"Doeddwn i ddim yn gwybod gormod am Gymru cyn symud yma – ond o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl cyrraedd, sylwais pa mor wahanol oedd bywyd yma. Roedd pobl yn gyfeillgar ac roedd y ffordd o fyw yn fwy hamddenol. Roeddem yn gallu gwneud ffrindiau yn gyflym a ffurfio cylch cymdeithasol a oedd yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i mi a fy nheulu. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i wneud ffrindiau da iawn trwy gydol fy amser yn hyfforddi ac yn fy rolau amrywiol ar draws De Cymru"
Cyflwyniad i Lysgenhadon
I ddysgu mwy am fod yn llysgennad, edrychwch ar ein llyfryn isod. Bydd hyn yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a'r gwahanol lefelau o gyfranogiad sydd ar gael.