TWL

Dewch yn llysgennad

HyfforddiGweithioByw

Ydych chi'n weithiwr gofal iechyd sy’n angerddol am GIG Cymru?

Rydym yn chwilio am ein llysgennad nesaf, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo Cymru fel lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

Ymunwch â’n grŵp presennol o lysgenhadon a rhannu’r hyn y mae’n ei olygu i weithio i GIG Cymru.

/assets/Uploads/header-v2.jpg

Ydych chi'n llysgennad?

Mae ein llysgenhadon wedi dod o bob rhan o’r byd ac yn cynrychioli cefndiroedd a phroffesiynau amrywiol, i gyd wedi’u hysbrydoli i adrodd eu stori o fod yn rhan o GIG Cymru. Fel llysgennad, byddwch chithau hefyd yn cael y cyfle i rannu eich taith unigryw gydag eraill.


Chi sy'n dewis eich cyfranogiad

/assets/Know-v2.jpg

Dewch i'n hadnabod

Rydym yn hynod falch o hyrwyddo Cymru fel ffordd ddeniadol o fyw i weithwyr gofal iechyd. Rydyn ni wir yn credu bod gan Gymru bopeth y gallech chi ei eisiau, yn bersonol ac yn broffesiynol.

I gael gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud, cliciwch ar y botwm isod.

Cwrdd â'n llysgenhadon

Dewch i gwrdd â'n gweithwyr gofal iechyd go iawn sydd wedi dewis hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Mae gennym lysgenhadon o amrywiaeth o feysydd proffesiynol.

Darganfod sut beth yw gweithio i GIG Cymru gan y bobl sydd eisoes yn gwneud hynny.

Straeon bywyd go iawn
/assets/Amb.jpg
/assets/story.jpg

"Doeddwn i ddim yn gwybod gormod am Gymru cyn symud yma – ond o fewn yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl cyrraedd, sylwais pa mor wahanol oedd bywyd yma. Roedd pobl yn gyfeillgar ac roedd y ffordd o fyw yn fwy hamddenol. Roeddem yn gallu gwneud ffrindiau yn gyflym a ffurfio cylch cymdeithasol a oedd yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i mi a fy nheulu. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i wneud ffrindiau da iawn trwy gydol fy amser yn hyfforddi ac yn fy rolau amrywiol ar draws De Cymru"

Cyflwyniad i Lysgenhadon

I ddysgu mwy am fod yn llysgennad, edrychwch ar ein llyfryn isod. Bydd hyn yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, a'r gwahanol lefelau o gyfranogiad sydd ar gael.

Gwnewch gais nawr

Rydym yn gobeithio y byddwch yn teimlo wedi'ch ysbrydoli i ddod yn llysgennad nesaf i ni! Os mai ‘Ie’ yw’r ateb hwnnw, llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o dîm HyfforddiGweithioByw yn cysylltu â chi i drafod eich cais.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis