Mae Jaya yn ymgynghorydd mewn seiciatreg yr henoed, wedi'i lleoli yn Abertawe. Yn wreiddiol o dalaith Tamil Nadu yn Ne India, symudodd Jaya i'r DU yn 2004 ac ymgartrefu yn Ne Cymru. Yn ogystal â'i rôl ymgynghorydd, mae hi hefyd yn ymgymryd â rolau rheoli, yn goruchwylio hyfforddeion ôl-raddedig ac yn cefnogi addysgu myfyrwyr meddygol yn y brifysgol.
Dywed Dr Jaya:
“Wrth dyfu i fyny, roedd fy rhieni ill dau yn feddygon ac yn rhedeg ysbyty preifat bach yn Salem, De India. Cadarnhaodd fy nghysylltiadau agos â'r staff a'r cleifion fy awydd cynnar i fod yn feddyg. Fodd bynnag, gwylio fy mam-gu yn dirywio'n dorcalonnus o ddementia a ysbrydolodd fy ngalwad benodol i Seiciatreg yr Henoed. Ar ôl cwblhau fy ngradd feddygol (MBBS) yn India, symudais i Abertawe, Cymru yn 2004 gyda fy ngŵr a'm mab dwyflwydd oed; er fy mod yn gwybod yn union pwy roeddwn i eisiau ei helpu, roeddwn i'n ansicr i ddechrau sut olwg fyddai ar fy llwybr hyfforddi yn y DU.
“Digwyddodd fy nhaith i Gymru yn llwyr trwy siawns. Gwahoddwyd fy ngŵr, sydd hefyd yn seiciatrydd, i gyfweliad drwy gynllun cymrodoriaeth a anelir at feddygon a oedd eisoes wedi cwblhau eu hyfforddiant ôl-raddedig. Llwyddodd i gael swydd ymgynghorydd locwm, a thalodd y cynllun Cymrodoriaeth am ei gofrestru gyda CCT, gan ganiatáu iddo weithio yn unrhyw le yng Nghymru a Lloegr.
Pan ddywedodd wrtha i fod ganddo swydd yn Abertawe, Cymru, roedd rhaid i mi ofyn yn onest, "Ble mae Cymru?" Ar y pryd, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod gan y Deyrnas Unedig bedair gwlad a roedd rhaid i ni edrych arni ar fap. Noddwyd pob un ohonom gan y bwrdd iechyd i ddod draw fel teulu, yn hytrach na'i orfodi i deithio ar ei ben ei hun yn gyntaf.
“Cyrhaeddon ni Abertawe ar drên o Lundain ar noson rhewllyd o Hydref. Yn aros amdano ni yn yr orsaf roedd menyw o dîm Adnoddau Dynol y bwrdd iechyd. Gyrrodd ni i'r llety rhent roedden nhw wedi'i drefnu a roeddynt hyd yn oed wedi prynu duvet a gobenyddion newydd sbon i ni fel anrheg croeso. Y diwrnod canlynol, daeth hi'n ôl a mynd â ni ar ddau drip siopa gwahanol, i Asda a'r siop groser Indiaidd leol - fel y gallem stocio popeth oedd ei angen arnom ac erbyn yr ail ddiwrnod, roeddwn i'n byw mewn cartref cwbl addas. Fe wnaeth y bwrdd iechyd hyd yn oed ddarparu ffôn symudol a char i fy ngŵr. Rhoddodd y gefnogaeth anhygoel a gawsom yr amser i mi astudio ar gyfer fy PLAB 2, tra'n dal i ofalu am ein mab.
“Yn y pen draw, cefais gynnig swydd glinigol mewn Seiciatreg yr Henoed, ac yna rôl chwe mis fel Meddyg Ymddiriedolaeth yn yr un ysbyty. I ddechrau, nid oedd Seiciatreg yr Henoed yn uchel ar fy rhestr o opsiynau gyrfa, ac roeddwn i'n ystyried dod yn feddyg teulu neu fynd i mewn i Feddygaeth Geriatreg, yn bennaf oherwydd bod hyfforddiant a chysylltiad â dementia yn India yn eithaf cyfyngedig ar y pryd.
Ond ar ôl y chwe mis hynny, syrthiais mewn cariad ag ef yn llwyr. Roeddwn i'n gwybod mai dyma'n union yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud.
“Fe wnes i gais am fy hyfforddiant a chwblhau fy hyfforddiant craidd ar draws Hywel Dda a Chaerfyrddin. Yn fuan ar ôl cael fy ail blentyn, gwnes gais am hyfforddiant uwch. Gan fod fy nheulu mor sefydlog a hapus, wnes i ddim hyd yn oed ystyried edrych y tu allan i Gymru - er mai ein cynllun i ddechrau oedd symud i ddinas fel Llundain neu Birmingham, sydd â phoblogaethau Indiaidd mawr. Cwblheais fy hyfforddiant uwch ar draws Merthyr Tudful, Bae Abertawe, a Hywel Dda. Drwy gydol fy hyfforddiant, roedd y gefnogaeth gan Ddeoniaeth Cymru, fy ngoruchwylwyr clinigol a'r byrddau iechyd lleol yn eithriadol.
“Yna, des i’n ymgynghorydd yn 2013 a chefais gynnig swydd ym Mae Abertawe, lle rydw i wedi bod byth ers hynny. Fel ymgynghorydd newydd, roeddwn i'n canolbwyntio ar anghenion clinigol, tra hefyd yn rheoli clinigau cleifion allanol, yn cynnal ymweliadau cartref, yn gofalu am gleifion mewnol, yn goruchwylio tîm gwych o Nyrsys Seiciatrig Cymunedol (CPNs), gweithwyr cymorth, a meddygon iau.
“Dros y 13 mlynedd diwethaf, mae’r bwrdd iechyd wedi fy annog yn barhaus i ddatblygu fy sgiliau a datblygu fy maes. Diolch i'r gefnogaeth honno, rydw i wedi gallu dod yn Arweinydd Asesu ac yn Arweinydd Gwrthficrobaidd ar gyfer Iechyd Meddwl, yn ogystal â chymryd rôl Arweinydd Ymchwil Feddygol, gan weithredu fel y Prif Ymchwilydd ar gyfer sawl prosiect ymchwil parhaus sy'n gysylltiedig â dementia. Llwyddais hefyd i gwblhau Rhaglen Ymgynghorydd Gwella Ansawdd Cymru am flwyddyn a chyflawni fy Nghymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion - carreg filltir sy'n gofyn am ddegawd fel ymgynghorydd ac ymroddiad aruthrol i'r arbenigedd.
“Yn ystod fy rhaglen Gwella Ansawdd Cymru, roedd rhaid i mi gynnal prosiect gyda fy nhîm ar adeg pan oedden ni dan bwysau anhygoel o oherwydd swyddi gwag. Er gwaethaf y pwysau, fe wnaeth y staff weithio gyda mi. Fe wnaethon nhw gymryd y gwaith ychwanegol i ystyriaeth, dysgu ohono, a chyflawni.
Hyd heddiw, nid y teitlau na'r cymrodoriaethau yw fy eiliadau mwyaf balch, ond pan fydd fy nghleifion a'm tîm yn dweud wrthyf fy mod i'n feddyg da, ac y byddent yn dewis gweithio gyda mi unrhyw ddiwrnod.
“Yn Abertawe, cefais y gorau o fyd proffesiynol a phersonol. Es i â fy mhlentyn bach i grŵp chwarae lleol 20 mlynedd yn ôl a chyfarfûm â menywod lleol sy'n dal i fod yn ffrindiau i mi heddiw. Fe wnaethon ni hefyd ddod o hyd i gymuned Indiaidd fywiog yn Abertawe sydd wedi dod fel teulu.
“Mae’r ffordd o fyw yma’n ddigymar. Nid yw'n ddinas enfawr, llethol lle rydych chi'n teimlo ar goll, ond dydych chi byth yng nghanol nunlle. Mewn deg munud, gallwch yrru i gefn gwlad, neu mewn hanner awr, gallwch weld yr eira ym Mannau Brycheiniog neu yrru i lawr i Benrhyn Gŵyr a cherdded ar y traeth tywodlyd hardd. Yn bwysicaf oll, dydw i erioed wedi gorfod gweithio'n rhan-amser oherwydd bod y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith mor dda. Dydych chi ddim yn treulio hanner eich oes yn eistedd mewn traffig, ac mae cost byw yn golygu eich bod chi'n cael cymaint mwy am eich arian.
“Gyda un plentyn eisoes yn y brifysgol, a’r llall yn ymuno â nhw ymhen blwyddyn - rwy’n edrych ymlaen at gael “nyth wag” ac ychydig mwy o amser ar fy nwylo. Yn broffesiynol, rwy'n bwriadu ymgymryd â mwy o rolau rheoli a defnyddio fy sgiliau gwella ansawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau. Yn bersonol, alla i ddim aros i neilltuo mwy o amser i fy hobïau: pobi, coginio a darllen. Y peth gwych am weithio yng Nghymru yw gwybod na fydd byth yn rhaid i fy natblygiad gyrfa parhaus ddod ar draul y bywyd rydw i wedi'i adeiladu y tu allan i'r gwaith."