Pa bynnag gam rydych chi ynddo yn eich gyrfa, mae Cymru'n cynnig hyfforddiant cefnogol o ansawdd uchel i'r gweithlu deintyddol cyfan (deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol). Mae ymchwil addysgol yn sail i'n holl raglenni hyfforddiant ac maent wedi'u sicrhau o ran ansawdd i fodloni safonau uchel ac anghenion ein gweithwyr deintyddol proffesiynol.
Fel hyfforddai sylfaen a chraidd deintyddol yng Nghymru byddwch yn elwa o ddiwrnodau astudio o ansawdd uchel. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch helpu i feithrin yr holl sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol llwyddiannus.
Yng Nghymru, bydd gennych un cyflogwr drwy gydol eich rhaglen hyfforddi, sy'n golygu y byddwch yn:
Rydym yn darparu amgylchedd hyfforddiant cyfeillgar a chefnogol fel y gallwch gyflawni eich potensial. Byddwch hefyd yn elwa o gymorth gan gyfoedion yn ogystal â gallu adeiladu rhwydweithiau parhaol.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn treialu menter recriwtio leol newydd. Fel rhan o'r hyfforddiant sylfaen Ddeintyddol Cynnig Recriwtio Gwell Yng Nghymru (DFT WERO), rydym yn cynnig pecyn cymorth i hyfforddeion sy'n cyflawni eu hyfforddiant mewn practisau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen Cynnig Recriwtio Uwch Cymru (DFT WERO).
Credwn mai rhoi profiad ymarferol i chi mewn cyfleusterau efelychu o'r radd flaenaf yw'r ffordd orau o ddysgu. Mae ein grwpiau addysgu bach yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.
Mae Cymru yn genedl arloesol ac rydym eisiau arweinwyr tosturiol ac angerddol i gyflawni gwelliannau gofal iechyd sy'n sicrhau ein bod bob amser yn darparu'r gofal gorau i'r claf. Os yw hwn yn faes yr ydych yn gweld eich hun ynddo, bydd ein Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru uchel ei pharch yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a rheoli yn y dyfodol.
Gall bywyd fod yn anrhagweladwy; mae ein dewisiadau hyblyg wedi'u cynllunio i'ch helpu i aros ar y trywydd iawn pe bai unrhyw beth yn newid ar ôl i chi ddechrau eich hyfforddiant. Rydym yn gwybod bod taro cydbwysedd yn bwysig ac mae cael hyblygrwydd yn hollbwysig. Mae hyfforddiant llai na llawn amser (LTFT) yn eich helpu i neilltuo amser i feysydd eraill o'ch bywyd. Efallai yr hoffech ymgymryd chyfleoedd datblygu, dechrau teulu neu gael dewisiadau pe bai unrhyw beth annisgwyl yn digwydd
Darganfyddwch pam mae cymaint yn dewis hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Sylwch ar ein hadnoddau allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol yw cam cyntaf addysg ôl-raddedig barhaus ar ôl graddio a dyma'r porth i fod yn ymarferydd deintyddol y GIG.
Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd yn cynnig cyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiad o fewn y proffesiwn deintyddol ac mae'n llwybr gyrfa gydnabyddedig ar ôl cwblhau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen (DFT).
Mae Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol wedi ehangu’n sylweddol ac mae Deoniaeth Ddeintyddol AaGIC ar gyfer Ôl-raddedigion yn falch o gefnogi amrywiaeth o raglenni hyfforddi sydd wedi’u cymeradwyo gan AaGIC ar draws 8 arbenigedd deintyddol.
Mae DFT WERO yn fenter recriwtio leol. Rydym yn cynnig pecyn cymorth gwell i hyfforddeion sy'n cwblhau hyfforddiant sylfaen ddeintyddol (DFT) mewn practisau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae Cymru yn genedl amrywiol a gwerth chweil i weithio ynddi, gyda chyfleoedd ar gael mewn cymunedau gwledig a threfol. P'un a ydych yn gweithio ym maes gwasanaeth deintyddol cyffredinol, gwasanaeth deintyddol cymunedol, gwasanaeth deintyddol mewn ysbytai neu mewn gwasanaeth cartref, mae digon i gyffroi ynghylch beth bynnag yw eich cyfeiriad dewisol.
Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i'ch helpu chi i siapio'ch gyrfa fel y dymunwch. Mae'r Ddeoniaeth Ddeintyddol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy'n cwmpasu pob maes o ddeintyddiaeth, gan gynnwys efelychu deintyddol (ymarferol), diwrnodau astudio traddodiadol, cynadleddau, a sesiynau ar-lein. Mae'r holl gyrsiau'n bodloni gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) ar gyfer DPP dilysadwy.
Fel deintydd yng Nghymru, byddwch yn meithrin perthnasoedd hirbarhaol, gwerth chweil, yn broffesiynol ac yn y gymuned rydych yn ei gwasanaethu, lle cewch gyfle i gyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles eich cleifion.
Rydym yn darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant i'r tîm deintyddol cyfan, sy'n golygu y cewch eich cefnogi gan weithwyr gofal deintyddol proffesiynol medrus, fel deintydd yng Nghymru. Gyda chydweithwyr hyderus cymwys wrth eich ochr chi, byddwch yn gallu gwella'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu ac iechyd y geg pobl eich cymuned.
Mae Caerdydd yn dod i’r amlwg yn gyflym fel un o brifddinasoedd mwyaf egnïol Ewrop, mae Caerdydd yn cynnig siopa o’r radd flaenaf, bwyta chwaethus, parciau wedi’u cadw’n hyfryd a’r holl fanteision eraill y byddech chi’n eu disgwyl o fyw trefol fodern. Mae Casnewydd yn ddinas a adnewyddwyd gan fuddsoddiad, mae Abertawe yn apelio gyda’i maestrefi traeth ac mae tref farchnad Wrecsam yn cynnig adeiladau hanesyddol a dyma’r porth i Ogledd Cymru.
O arfordir byd-enwog Gŵyr yn y de, i Benrhyn prydferth Llŷn ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd, mae Cymru yn gartref i lawer o draethau gorau’r DU — pob un yn hygyrch ar hyd llwybr arfordirol parhaus o 870 milltir sy’n datgelu cwtoedd, pentiroedd a baeau sy’n gorlifo gyda bywyd gwyllt.
Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Ond ble bynnag yr ewch, mae natur o’ch cwmpas chi. O fynyddoedd anhygoel i gymoedd afonydd dramatig, traethau gwag i gopaon clogwyni garw, mae’r dirwedd naturiol yn cynnig cefndir trawiadol p’un a ydych mewn hwyliau am antur, yn edrych i ymlacio neu’n dilyn eich trefn ddyddiol yn syml.
Mae cestyll yn diffinio tirwedd Cymru cymaint â’n bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae 641 i gyd — trawiadol, yn llawn hud a lledrith a chwedlau — pob un yn cynnig cipolwg i’r gorffennol a’r cyfle i chi archwilio’r chwedlau o fewn eu waliau. Wrth fynd yn ôl hyd yn oed ymhellach, mae dwsinau o safleoedd cynhanesyddol i’w gweld hefyd, gan gynnwys rhai o’r rhyfeddodau Neolithig sydd wedi’u cadw orau yn y DU.
“Yn ystod fy amser y tu allan i ddeintyddiaeth, rwyf wrth fy modd yn bwyta allan gyda ffrindiau mewn bwytai hyfryd a mynd am dro yn Eryri a’r Bannau Brycheiniog.”
Julie, Hyfforddai Deintyddol
Am fwy o ysbrydoliaeth, porwch ein tudalen Byw bwrpasol i weld pam yng Nghymru, nid dim ond cynnig gyrfa ydyn ni, rydyn ni’n cynnig ffordd o fyw.
Tudalen BywMae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.
I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis