Yn wreiddiol o Birmingham, Lloegr - Dywedodd y Cardiolegydd Ymgynghorol Majd dweud bod gweithio a hyfforddi yng Nghymru yn diwallu ei holl anghenion.
Dywed Majd:
“Cefais fy magu yn Birmingham ac arhosais yno i wneud fy hyfforddiant meddygol gan ei fod yn gyfarwydd i mi, ac roeddwn i'n hoffi bod mewn dinas fawr. Fodd bynnag, ar ôl i mi orffen yr ysgol feddygol yn 2013, symudais i Gymru oherwydd bod ganddi raglen sylfaen academaidd ddeniadol ac mae'n gweddu ar gyfer fy niddordebau mewn cardioleg.
“Penderfynais aros yng Nghymru ar ôl fy mlynyddoedd sylfaen, oherwydd ei fod yn cynnig rhaglen dreigl arbenigedd clinigol academaidd ragorol - cynllun WCAT. Mae'r rhaglen hon yn unigryw i Gymru gan ei bod yn mynd a hyfforddeion trwy hyfforddiant craidd ac arbenigol ac yn darparu cyllid ar gyfer PhD i gyfuno gweithgareddau academaidd a chlinigol. Roedd hyn yn apelio'n fawr ataf oherwydd fy awydd i symud ymlaen i fod yn arweinydd mewn meddygaeth academaidd.
“Enillais fy PhD yn 2021 a chwblheais fy hyfforddiant cardioleg ar ddechrau 2025 ar ôl cylchdroi’n eang ledled De Cymru. Pan hysbysebwyd swydd yn UHW roedd yn cyd-fynd yn berffaith â fy nodau ac yn cefnogi fy ngweithgareddau clinigol. Wnaeth fy mhrofiad gyda system gofal iechyd Cymru gryfhau fy nghais, a chefais fy mhenodi'n Gardiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol ym mis Mawrth 2025.
“Mae UHW yn ganolfan lawfeddygol ranbarthol fawr sy’n gwasanaethu hyd at 1.5 miliwn o bobl yn Ne-ddwyrain Cymru, rhanbarth sydd â rhai o gyfraddau clefyd y galon uchaf y DU. Mae fy ngwaith yn cynnwys cymysgedd o glinigau cleifion allanol, gofal cleifion mewnol, a chardioleg gyffredinol, ond fy mhrif ffocws yw trin cleifion trawiad ar y galon sydd angen ymyrraeth goronaidd frys. Pan fyddaf ar alwad, rwy'n darparu gofal 24 awr ar draws dalgylch eang. Bob blwyddyn, mae ein tîm yn perfformio tua 1,600 o driniaethau, yn amrywio o ymlediadau balŵn syml i ymyriadau aml-bibell gwaed cymhleth.
“Gyda fy nghefndir academaidd, fy nod yw ehangu ein portffolio ymchwil a chryfhau cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol i ddod â thriniaethau newydd i Gymru er mwyn datblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth y boblogaethau. Mae'r gymuned glinigol gefnogol a chlos yn ei gwneud hi'n llawer haws cydweithio â chanolfannau eraill, gan alluogi cydweithio di-dor ar draws holl ysbytai Cymru a sicrhau gofal cleifion o safon.
“Mae rhoi yn ôl yn ganolog i mi. Ar ôl hyfforddi yng Nghymru am flynyddoedd lawer, rwyf bellach yn oruchwyliwr addysgol, sy'n caniatáu i mi oruchwylio hyfforddeion, addysgu myfyrwyr meddygol, a mentora gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Buddsoddodd Cymru’n helaeth yn fy natblygiad, ac mae addysgu yn caniatáu i mi roi rhywbeth yn ôl.
“Rwyf wedi canfod bod y cyfleoedd yng Nghymru yn ddiddiwedd, ac mae’r gefnogaeth heb ei hail ac rwyf bob amser wedi teimlo fy mod wedi cael fy nghefnogi gan gydweithwyr clinigol ac academaidd, yn ogystal â Deoniaeth Feddygol AaGIC, a helpodd i deilwra fy hyfforddiant i’m hanghenion a’m nodau. Mae llwybr 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' Cymru wedi cynnig nid yn unig gyrfa ymyrraeth foddhaol mewn dinas fawr i mi, ond hefyd ansawdd bywyd rhagorol.
“Y tu allan i’r gwaith, rwy’n teimlo bod cymaint i’w wneud gan fod Cymru’n cynnig cydbwysedd delfrydol rhwng bywyd dinas a natur. Rwy'n aml yn mynd â fy nheulu i Ddinbych-y-pysgod, Gŵyr, neu Fannau Brycheiniog. Mae yna rhywbeth i bawb! Rydw i wedi gallu archwilio a threulio mwy o amser gyda fy mhlant . Mae'r cysylltiadau rhagorol i feysydd awyr Caerdydd a Bryste hefyd yn ei gwneud hi'n hynod o hawdd teithio, boed ar gyfer cyfarfodydd meddygol rhyngwladol neu wyliau teuluol."