Cafodd Dr David Moore ei eni a'i fagu yn Nottingham, Lloegr, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod a'i arddegau. Roedd magwraeth David yn syml, ymysg cymuned agos Nottingham. Yn ystod ei lefel A, roedd mam David yn hyfforddi i fod yn nyrs, gyda’i phrofiadau’n rhoi cipolwg iddo ar y byd gofal iechyd. Roedd arsylwi ei thaith a chael y cyfle i ymweld ag ysbytai wedi ennyn ei ddiddordeb mewn meddygaeth, gan sbarduno diddordeb yng ngwaith mewnol gofal iechyd.
Dywed Dr David:
"Pan oeddwn yn blentyn, roeddwn yn ffodus i fod yn berson academaidd, a agorodd ddrysau i ddilyn y gwyddorau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn meddygaeth. Wedi fy nghalonogi gan fy athrawon ac wedi fy ysbrydoli gan ymdeimlad o bwrpas, ymgeisiais i wahanol ysgolion meddygol. Fel gyda llawer o bethau mewn bywyd, ddigwyddodd ar hap ac fe wnes i bennu lan ym Manceinion yn Lloegr, dinas a drodd allan i fod yn berffaith ar gyfer fy mlynyddoedd ffurfiannol.
"Pan ofynnwyd i mi mewn cyfweliadau prifysgol pam roeddwn i eisiau bod yn feddyg, allwn i ddim pwyntio at foment unigol a newidiodd fy mywyd. Roedd yn gyfres o ddylanwadau: fy amgylchedd academaidd, hyfforddiant fy mam, a chwilfrydedd naturiol am y corff dynol a gofal iechyd. Rwyf bob amser wedi cael fy nenu i ddeall sut mae pethau'n gweithio, ac roedd meddygaeth yn ymddangos yn yrfa perffaith i mi.
"Wrth ddechrau yn y brifysgol yn 1995, roedd Manceinion yn fywiog, yn enwedig gyda'i sîn gerddoriaeth gynyddol. Roedd bandiau fel Oasis newydd ddod i'r amlwg, ac roedd y ddinas yn llawn creadigrwydd ac egni. Roedd yn amser cyffrous i fod mewn amgylchedd mor ddeinamig, yn cydbwyso gofynion ysgol feddygol gyda’r cyfleoedd i archwilio’r diwylliant o’m cwmpas.
"Roedd yr ysgol feddygol yn heriol ac yn agoriad llygad. Rwy’n cofio’r uchelgais cychwynnol ymhlith fy nghyfoedion, yr oedd llawer ohonynt yn dyheu am fod yn broffeswyr neu’n lawfeddygon blaenllaw, ond sylweddolais yn gyflym nad oedd llawdriniaeth i mi. Nid oherwydd ofn gwaed, ond oherwydd nad oedd gennyf y ffocws un meddwl yr oedd yn ei fynnu. Teimlais fy mod yn mwynhau rhyngweithio â phobl yn ormodol yn lle eu bod nhw’n anymwybodol ar fwrdd llawdriniaeth.
"Ystyriais gardioleg bediatrig hefyd, ond ar ôl cysgodi cardiolegydd pediatrig , sylweddolais yr oedd ei fywyd yn ymwneud â ffôn symudol a oedd yn canu'n gyson, ac felly roeddwn yn amharod i aberthu yr hyn a oedd yn ofynnol i wneud y swydd. Nid oedd gofynion di-baid y swydd yn cyd-fynd â fy awydd am fywyd o gydbwysedd. Tua’r amser hwn, cyfarfûm â meddyg teulu ym Manceinion a adawodd argraff barhaol. Roedd yn hyderus, yn ddymunol ac i'w weld wedi taro'r cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd. Hwn oedd y tro cyntaf i mi weld rhywun yn ffynnu mewn meddygaeth, a gadawodd i mi feddwl, "Dyma'r math o feddyg rydw i eisiau bod."
"Gan raddio yn 2000, dechreuais ar fy hyfforddiant swyddog preswyl yn Crewe yn Ysbyty Leighton, ysbyty cyffredinol prysur. Roedd yn ddewis bwriadol, gan fy mod eisiau dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o achosion yn gynnar, yn hytrach na bod mewn ysbyty addysgu arbenigol. Roedd y blynyddoedd cychwynnol hynny yn anodd iawn, gyda sifftiau di-baid a llif diddiwedd o gleifion, ond roedden nhw’n amhrisiadwy o ran magu fy hyder a mireinio fy sgiliau.
"Wrth i fy mlynyddoedd sylfaen fynd yn eu blaen, symudais yn fwy tuag at ymarfer cyffredinol. Ymunais â chynllun hyfforddi Meddygon Teulu Caer, a oedd yn rhaglen y mae galw mawr amdani. Dros dair blynedd, cefais brofiad mewn arbenigeddau ysbyty fel damweiniau ac achosion brys, pediatreg ac obstetreg, ochr yn ochr â chyfnodau mewn ymarfer cyffredinol. Roedd yr amlygiad amrywiol hwn nid yn unig yn ehangu fy ngwybodaeth ond hefyd wedi atgyfnerthu fy niddordeb mewn gofal sylfaenol.
"Erbyn i mi gwblhau fy hyfforddiant, roeddwn wedi tyfu yn bersonol ac yn broffesiynol. Treuliais beth amser yn Seland Newydd gyda fy ngwraig, profiad a oedd yn cynnig persbectif ar ofal iechyd mewn system wahanol. Wrth ddychwelyd i’r DU, parheais i ennill profiad trwy rolau locwm a hyfforddiant ychwanegol mewn neonatoleg ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Fe wnaeth y rolau hyn fy helpu i deimlo'n fwy parod ar gyfer cyfrifoldebau ymarfer cyffredinol.
"Yn y diwedd, daeth bywyd â ni yn ôl i Ddwyrain Canolbarth Lloegr, lle bûm yn gweithio yng Ngogledd Swydd Nottingham am sawl blwyddyn. Yn ddiweddarach, wedi'n hysgogi gan gyfleoedd gyrfa fy ngwraig a'r awydd i ymgartrefu yng Nghymru, symudom i Sir Drefaldwyn, lle rwyf wedi dod o hyd i fy nghartref proffesiynol.
"Ar hyn o bryd rwy'n gweithio yn Llanidloes, ardal wledig yng nghanol Powys, Canolbarth Cymru. Mae fy rôl yn cynnig cyfuniad unigryw o ofal sylfaenol ac eilaidd. Yn ogystal â rhedeg meddygfeydd teulu, rwyf hefyd yn darparu gofal meddygol yn yr ysbyty cymunedol lleol, sydd â 14 o welyau cleifion mewnol. Mae'r amrywiaeth hwn yn cadw fy ngwaith yn ysgogol ac yn fy ngalluogi i gynnal set eang o sgiliau.
"Daw heriau a gwobrau i weithio mewn practis gwledig. Rydym yn aml yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleifion difrifol wael oherwydd y pellter hir i'r adran damweiniau ac achosion brys agosaf. Mae hyn yn gwneud ein rôl hyd yn oed yn fwy hanfodol yn y gymuned. Er gwaethaf y gofynion, mae'r gwaith yn rhoi boddhad mawr i mi.
"Buan iawn ymgyfarwyddais a’r swydd pan symudais i Gymru a darganfyddais fod GIG Cymru yn canolbwyntio mwy ar ymreolaeth glinigol, gan ganiatáu i feddygon arfer eu crebwyll heb fiwrocratiaeth ormodol. Mae’r rhyddid hwn wedi gwneud fy ngwaith yn fwy gwerth chweil ac mae’n fy atgoffa o ddyddiau cynharach y GIG pan oedd gofal cleifion yn ffocws canolog.
"Ar ôl 25 mlynedd yn y GIG, rwy'n teimlo ymdeimlad o foddhad yn fy ngyrfa. Rwyf wedi cyrraedd pwynt lle nad wyf bellach yn mynd i'r afael â syndrom y ffugiwr. Rwy’n gwybod fy nghryfderau a chyfyngiadau ac yn teimlo’n hyderus wrth geisio cymorth pan fo angen. Mae'r hunan-sicrwydd hwn yn fy ngalluogi i fwynhau fy ngwaith heb nosweithiau digwsg y blynyddoedd cynharach.
"Y tu allan i feddygaeth, mae byw yng nghefn gwlad Cymru wedi cyfoethogi fy mywyd. Mae'r harddwch naturiol, y cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel hwylio, a'r gymuned fywiog wedi gwneud hwn yn lle delfrydol i fagu teulu.
"Gan edrych ymlaen, rwy'n gobeithio parhau i adeiladu ar y sylfaen hon, gan gyfrannu at fy nghymuned a mwynhau'r cydbwysedd rydw i wedi'i ddarganfod yn fy ngyrfa a fy mywyd personol."
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.
I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis