Cymhwysodd Arniel fel nyrs yn Ynysoedd y Philipinau ym 1991. Daeth i Gymru naw mlynedd yn ddiweddarach ar ôl cael ei recriwtio gan GIG Cymru. Ers hynny mae wedi datblygu ei yrfa yn llwyddiannus ac wedi syrthio mewn cariad â'r ffordd Gymreig o fyw.
Dywed Arniel:
“Mae nyrsio yn broffesiwn poblogaidd iawn yn Ynysoedd y Philipinau ac mae’n cael ei weld nid yn unig fel proffesiwn, ond fel galwedigaeth hefyd. Des i yn nyrs oherwydd rwy'n mwynhau gofalu am bobl a helpu cleifion. Rwy'n teimlo'n arbennig o ffodus i fod yn nyrs yng Nghymru oherwydd mae'r bobl yma mor gyfeillgar - nid wyf yn meddwl y gallwch chi brofi'r lefel hon o gyfeillgarwch mewn llawer o leoedd eraill.
“Mae’r rhan fwyaf o fy nheulu yn nyrsys. Ar ochr fy mam, rydym i gyd yn nyrsys. Ac fel nyrs o Ynysoedd y Philipinau rydych chi'n gwybod unwaith y byddwch chi wedi cymhwyso a gweithio gartref am rai blynyddoedd, mae gennych chi gyfle wedyn i fynd dramor a newid eich bywyd er gwell.
“Gwelais hysbyseb GIG Cymru yn y papur newydd. Fe wnes i gais a chanfod y broses recriwtio yn eithaf anodd gan fod angen i mi basio prawf Saesneg ysgrifenedig. Wedi hynny cefais ddau gyfweliad arall a dewisais weithio yng Ngogledd Orllewin Cymru. Roeddwn wrth fy modd i gael fy newis ac nid wyf yn difaru o gwbl.
“Fe wnes i fy hyfforddiant ymarferydd uwch nyrsio ym Mhrifysgol Bangor a gweithio yn ysbyty Bangor am bymtheng mlynedd. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi cael cefnogaeth anhygoel ar y cyrsiau a ddewisais. Mae fy holl reolwyr wedi dangos ffydd ynof. Rwy'n siŵr y gallent weld fy mhotensial ac rwyf mor falch eu bod wedi fy ngwthio i gyflawni mwy. Roedd gen i ddiffyg hyder gyda fy sgiliau Saesneg pan ddes i yma gyntaf, ond dwi'n hapus iawn gyda'r ffordd mae fy ngeirfa wedi datblygu. Heddiw rwy'n llawer mwy hyderus ac mae popeth yn teimlo'n llawer mwy naturiol.
“Symudais i Lundain cwpl o flynyddoedd yn ôl, ond des i nôl i Gymru bron yn syth bin, gan fy mod yn gweld y ffordd o fyw yn Llundain yn gymaint fwy straenus. Rwyf wrth fy modd yn byw ym Mangor, mae mor hawdd i mi fynd i ddringo mynyddoedd a hwylio yn fy amser hamdden. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel uwch ymarferydd nyrsio yn yr uned asesu llawfeddygol yn un o'r prif ysbytai yng Ngogledd Cymru. Mae gofalu am bobl yn dod yn naturiol i mi ac mae’r rôl hon yn rhoi teimlad gwych i mi gan fod y gofal rwy’n ei ddarparu mor hanfodol.”
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.
I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis