TWL

Straeon bywyd go iawn.

Darganfyddwch sut beth yw hi i weithio i'r GIG yng Nghymru gan y bobl sydd eisoes yn gwneud hynny.

O Nigeria i Gymru. Dysgwch am daith feddygol Dr Jessica.

Cafodd Dr Jessica Kartyo ei geni a’i magu yn Nigeria, lle mynychodd ysgol feddygol ym Mhrifysgol Ibadan. Dylanwadwyd gan gyfuniad o ffactorau personol a theuluol ar ei phenderfyniad i fynd ar drywydd meddygaeth, gan fod ganddi sawl perthynas oedd yn feddygon. Gan feddu ar addysg ragorol a theulu cefnogol, mae Jessica ers hynny wedi symud o Nigeria i Gymru i fod yn feddyg teulu.


Dywed Dr Jessica:

Fy unig angerdd erioed bu meddygaeth. Dwi’n cellwair yn aml na fyddwn i'n dda yn gwneud unrhyw beth arall, a diolch byth roedd fy nhaith i mewn i'r ysgol feddygol yn gymharol ddi-drafferth. Dim ond unwaith y bu'n rhaid i mi wneud cais a chefais fy nerbyn ar unwaith. Roeddwn yn ddigon ffodus hefyd i gael teulu hynod gynorthwyol drwy gydol fy hyfforddiant. Roedd fy nhaith i ddod yn feddyg yn adeg gwerth chweil iawn i mi, gan mai un o'r amseroedd mwyaf allweddol yn fy mywyd oedd colli fy nhad pan oeddwn i'n blentyn. Sbardunodd y golled honno awydd i ddeall iechyd a helpu eraill, gan lunio fy llwybr tuag at feddygaeth. 

Ar ôl graddio, treuliais ddwy flynedd ychwanegol yn Nigeria yn paratoi ar gyfer arholiadau trwyddedu i symud dramor. Er mai meddygaeth fewnol oedd fy niddordeb i ddechrau, ysgogodd y rhwystrau yn fy natblygiad gyrfa i mi archwilio opsiynau eraill. Roedd Ymarfer Cyffredinol yn blaenori gan ei fod yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng cyflawniad proffesiynol a chydbwysedd yn y dyfodol rhwng bywyd a gwaith. 

Mae'r rhaglen hyfforddiant i feddygon teulu yng Nghymru yn cynnwys dwy flynedd mewn practis cyffredinol a blwyddyn mewn ysbyty. Erbyn hyn, dwi yn rhan olaf fy hyfforddiant, gyda dim ond ychydig o fisoedd ar ôl. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn daith drwyadl ond un sy’n rhoi bodlonrwydd, a dwi’n ddiolchgar am y profiadau sydd wedi fy llunio'n broffesiynol ac yn bersonol. 

Wrth erdych ar lefydd lle gallwn fynd i fyw a gweithio, nid oedd Cymru yn dod i’m meddwl i ddechrau. Wrth dyfu i fyny, bues i’n ymweld â Lloegr yn aml ond wnes i erioed fentro i Gymru. Fodd bynnag, yn ystod fy mhroses ymgeisio am hyfforddiant, roedd yna opsiynau cyfyngedig am leoliadau, ond gwelais fod Cymru wir yn sefyll allan fel opsiwn pen i gamp. Ar ôl rhywfaint o ymchwil, penderfynais roi cynnig arni – a dwi’n mor falch i mi wneud hynny. 

Fy lleoliad cyntaf oedd Sir Benfro, roedd harddwch naturiol syfrdanol yr ardal yn gyflym yn drech na mi. Dwi wrth fy modd mewn bod yn agos at y môr a chael fy amgylchynu gan natur. Doeddwn i erioed wedi gyrru o'r blaen, ond daeth yn anghenraid yma, gan ei fod yn ffordd wych o fynd allan i ymweld ac archwilio gwahanol leoedd fel Dinbych-y-pysgod, parciau a sŵau lleol. 

Roedd yr amgylchedd gofalgar i hyfforddeion yng Nghymru hefyd wedi chwarae rhan fawr yn fy mhenderfyniad i aros yma. Mae prosesau gweinyddol, fel hawlio treuliau, yn ddidrafferth, ac mae ymdrech wirioneddol i gynorthwyo hyfforddeion. Roedd fy hyfforddwr cyntaf yn eithriadol, ac fe wnaeth hi fy arwain drwy bob cam o'r broses, gan sicrhau fy mod yn hyderus cyn i mi ddechrau rheoli cleifion yn annibynnol. 

Yn Nigeria, roeddwn yn mwynhau gemau bwrdd fel gwyddbwyll a Scrabble, gan hyd yn oed cystadlu ar ran fy ysgol. Dwi wedi parhau â'r hobi hwn yng Nghymru mewn amryw o glybiau gemau bwrdd, er fy mod hefyd wedi cychwyn gweithgareddau newydd. Er enghraifft, dwi wedi dechrau teithio ac archwilio mannau golygfaol Sir Benfro. 

Dwi hefyd wedi gwneud ffrindiau bendigedig yma sydd wedi cyfoethogi fy mywyd y tu allan i'r gwaith. Rydym yn aml yn cwrdd am ddiodydd neu deithiau cymdeithasol, sy'n helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae'r gymuned groesawgar wedi gwneud addasu i fywyd yng Nghymru gymaint yn haws. 

Roedd pasio fy arholiadau ar yr ymgais gyntaf yn garreg filltir arwyddocaol i mi fel hyfforddai rhyngwladol. Ar hyn o bryd, dwi’n canolbwyntio ar ennill mwy o brofiad a thyfu yn fy rôl fel meddyg teulu. Yn y dyfodol, o bosibl trwy raglenni cymrodoriaeth, dwi’n ystyried archwilio diddordebau arbennig fel seiciatreg neu iechyd galwedigaethol. 

Ar nodyn personol, dwi’n edrych ymlaen at ddechrau teulu yn fuan ac archwilio cyfleoedd ar gyfer partneriaethau meddygon teulu yng Nghymru. Mae fy mhartner a minnau hefyd yn bwriadu ymgartrefu yma yn y tymor hir, gyda'r gobaith o brynu tŷ yn ystod y blynyddoedd nesaf. 

Mae Cymru wedi cynnig dechreuad newydd i mi a'r cyfle i adeiladu gyrfa gwerth chweil. Mae'r GIG yng Nghymru yn darparu hyfforddiant rhagorol, a dwi’n falch i gyfrannu at ei lwyddiant parhaus. Wrth i mi barhau â'r daith hon, dwi’n parhau i fod yn ddiolchgar am gymorth fy hyfforddwyr, fy nghydweithwyr, a'r gymuned Gymreig fywiog sydd bellach yn teimlo fel cartref. 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis