TWL

Straeon bywyd go iawn.

Darganfyddwch sut beth yw hi i weithio i'r GIG yng Nghymru gan y bobl sydd eisoes yn gwneud hynny.

Taith Gathoni i Feddygaeth - O Kenya i Gymru

Dechreuodd stori Dr Gathoni yn Eldoret, Kenya, a elwir yn “Ddinas y Pencampwyr” gan ei bod yn enwog am gynhyrchu rhai o redwyr gorau’r byd. Roedd tyfu i fyny yn yr amgylchedd hwnnw yn golygu bod uchelgais a llwyddiant o'i chwmpas. Ym Mhowys, Cymru, daeth Gathoni o hyd i gymuned wledig, glos, gyda synnwyr cryf o hunaniaeth a oedd yn ei hatgoffa o gartref.


Dywed Gathoni:

“Tyfais i fyny ac es i’r ysgol yng Nghenia tan fy lefelau O, yna des i i’r DU yn un ar bymtheg oed ar fwrsariaeth chwaraeon. Chwaraeais denis yn gystadleuol wrth astudio fy lefelau A yng Nghaerfaddon, ac ar y pryd nid meddygaeth oedd fy uchelgais. Mae fy nhad yn gyfreithiwr, ac roeddwn i bob amser wedi dychmygu fy hun yn dilyn yn ôl ei droed. Roeddwn i wrth fy modd â Saesneg a hanes ond roeddwn i'n cael trafferth gyda mathemateg a gwyddoniaeth, felly roedd y gyfraith yn ymddangos yn addas iawn. 

“Es i ymlaen i Brifysgol Coventry i astudio’r gyfraith, ond roedd gan fywyd gynlluniau eraill. Gwahanodd fy rhieni, ac fe ddychwelais i Kenya cyn i mi gael cyfle i orffen fy ngradd. Am y blynyddoedd nesaf, gweithiais ym maes TG mewn cwmni newydd a ddatblygodd systemau AD a chyllid. Roedd yn brofiad da, ond nid dyna oedd fy angerdd. Roeddwn i eisiau rhywbeth mwy ystyrlon. 

“Mae fy mam, sy’n nyrs - wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr ac wedi fy annog i feddwl o ddifrif am ofal iechyd. Ar y dechrau, ystyriais nyrsio, ond doedd e ddim yn teimlo yn iawn .Yr hyn a wnaeth argraff arnaf oedd fy mhrofiad o fyw gyda diabetes math 1. O oedran ifanc, roeddwn i wedi bod yn canolbwyntio ar reoli fy nghyflwr, darllen amdano, a thrafod triniaethau gyda fy meddygon. Awgrymodd fy mam,  y dylwn i efallai ddod yn feddyg . Po fwyaf y meddyliais amdano, y mwyaf y gwnaeth synnwyr. 

“Felly, es i yn ôl i astudio ac ailsefyll fy arholiadau Lefel A mewn pynciau gwyddoniaeth. Fe wnes i gais i sawl ysgol feddygol ac yn y pen draw penderfynais astudio yn Tsieina. Mae llywodraeth Kenya yn cefnogi myfyrwyr i hyfforddi yno, ac roedd merch cymydog wedi canmol y rhaglen yn fawr. 

“Astudiais yn Wenzhou, dinas yn Nhalaith Zhejiang, gyda’r cwrs yn para chwe blynedd. Er bod y darlithoedd yn Saesneg, roedd y cleifion yn siarad Mandarin, felly roedd yn rhaid i mi ddysgu Tsieinëeg feddygol yn gyflym iawn. Roedd yn frawychus, ond rhoddodd y brifysgol 'gyfeillion' i ni - myfyrwyr lleol a'n helpodd i addasu a dysgu.  Fe wnaethon ni eu helpu gyda Saesneg. Gwnaeth y cyfeillgarwch hwnnw'r addasiad diwylliannol yn haws, a gadewais Tsieina nid yn unig gyda gradd feddygol ond hefyd gyda chysylltiadau parhaol, a hyd yn oed gwraig. 

“Roedd Tsieina yn drawsnewidiol, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau ymarfer meddygaeth mewn gwlad Saesneg ei hiaith. Roedd system iechyd Kenya mewn cythrwfl ar y pryd, gyda meddygon preswyl yn streicio, felly edrychais tua'r DU. 

“Ar ôl i mi gyrraedd yma, fy swydd gyntaf oedd mewn meddygaeth acíwt yn Mansfield, Dwyrain Canolbarth Lloegr. Rhoddodd sail gadarn i mi, ond oherwydd fy nghefndir, roeddwn i bob amser wedi breuddwydio am feddygaeth chwaraeon. Cwblheais radd meistr mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff a gweithiais wrth ochr y cae gyda Chlwb Pêl-droed Merched Caerdydd a hyd yn oed cefnogais dîm cenedlaethol menywod Cymru. Roedd yn gyffrous, ond yn wirfoddol yn bennaf ac yn anghynaladwy yn ariannol. 

“Yna awgrymodd ffrind i mi roi cynnig ar seiciatreg. Doeddwn i ddim wedi'i ystyried o'r blaen, ond o fy shifft gyntaf un roeddwn i’n gwybod mai dyma oedd y peth i mi. Sylweddolais fy mod i wrth fy modd â'r cyflymder arafach, y cyfle i feithrin perthynas, a'r ffocws ar berthnasoedd hirdymor. Roedd seiciatreg yr henoed yn apelio atai fwyaf. Fe wnaeth ganiatáu i mi gyfuno sgiliau meddygol a seiciatrig, yn enwedig mewn niwroseiciatreg, lle rydych chi'n delio â chyflyrau cymhleth, sy'n gorgyffwrdd. 

“Rwyf nawr yn gweithio yn Aberhonddu a Bronllys, wedi’m hamgylchynu gan dirweddau godidog a chydweithwyr cefnogol. Yn wahanol i'r llwybr hyfforddi safonol, fe wnes i ddatblygu fy ngyrfa fel Meddyg Arbenigol (SAS), a oedd yn cynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth. Heddiw, rwy'n cynrychioli meddygon SAS ar gyfer Coleg Niwroseiciatreg ac ar gyfer Powys, wrth ddilyn y llwybr portffolio i ddod yn ymgynghorydd. 

“Mae symud i Gymru wedi bod yn un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Mae'r cyflymder yn arafach, y bobl yn groesawgar, ac mae'r ymdeimlad o gymuned yn gryf. Yn broffesiynol, rwy'n gwerthfawrogi'r treulio amser go iawn gyda chleifion, yn hytrach na rhuthro trwy gannoedd o bobl mewn bore fel y gwelais yn Tsieina. Yn bersonol, rydw i wedi darganfod bod Cymru yn cynnig popeth rydw i'n ei werthfawrogi: harddwch naturiol, gweithgareddau awyr agored, a lle gwych i wreiddio. 

“Y tu allan i’r gwaith, mae chwaraeon yn parhau i fod yn rhan fawr o fy mywyd. Roeddwn i'n arfer chwarae tenis, ond ers hynny rydw i wedi troi at godi pwysau ac yn cystadlu ar lefel genedlaethol. Mae hyfforddi dair i bedair gwaith yr wythnos yn fy nghadw'n gryf ac yn darparu'r un ymdeimlad o gymuned rwy'n ei gael yn y gwaith. Mae fy nheulu'n rhannu'r angerdd hwnnw dros chwaraeon hefyd - mae fy mam, fy mrawd, a'm gwraig i gyd yn egnïol yn eu ffyrdd eu hunain. 

“Yn sicr nid yw fy nhaith wedi bod yn llinol - o’r gyfraith yn Coventry, i TG yn Nairobi, i feddygaeth yn Tsieina, a nawr seiciatreg yng Nghymru. Mae pob tro wedi fy siapio, gan fy addysgu mewn gwydnwch, addasrwydd, a bod yn agored i gyfleoedd. 

“Yr hyn rydw i wedi'i ddysgu yw nad oes un llwybr 'cywir' i feddygaeth nac i fywyd. Gall y llwybr annhraddodiadol fod yr un mor werth chweil, weithiau'n fwy felly, oherwydd ei fod yn yn rhoi persbectif unigryw i chi. Mae fy nghefndir yn fy helpu i gysylltu â chleifion, cydweithwyr a chymunedau mewn ffyrdd na fyddwn wedi gwneud fel arall. 

“Gan edrych ymlaen, rwy’n gyffrous am ddatblygu ymhellach mewn seiciatreg ac yn y pen draw gamu i rôl ymgynghorydd. Ond yn fwy na theitlau neu swyddi, yr hyn sy'n fy ysgogi yw'r gallu i wneud gwahaniaeth - i dreulio amser gyda chleifion, i gefnogi teuluoedd, ac i gyfrannu at arbenigedd rydw i wedi dod i'w garu. 

“Mae Cymru’n teimlo fel cartref nawr. Dyma lle rydw i wedi adeiladu nid yn unig fy ngyrfa, ond bywyd sy'n cydbwyso gwaith, teulu ac angerdd. O Eldoret i Aberhonddu, mae fy nhaith wedi cael ei llunio gan wydnwch, chwilfrydedd, a'r dewrder i fentro. Os oes un wers y byddwn i'n ei rhannu, dyma hi: nid oes angen i'ch llwybr fod yn syml i fod yn ystyrlon. Weithiau, y teithiau mwyaf gwerth chweil yw'r rhai nad oeddech chi byth yn disgwyl.”