Ydych chi'n meddwl am symud?
Dewiswch Cymru!
Gyda chymunedau hardd, tirweddau naturiol, a bywyd dinas bywiog, ynghyd â threftadaeth chwaraeon a diwylliannol gyfoethog, mae Cymru yn wlad fach â chalon fawr.
Croeso cynnes
Mae Cymru yn ymwneud â dod â phobl at ei gilydd. Fe welwch chi ddiwylliant bywiog ac amrywiol, gyda'r uchelgais i fynd i'r afael â gwahaniaethu a chreu cymunedau agos sy'n galluogi pawb i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau.
Mwynhewch eich angerddau
Mae gennym ni siopa o’r radd flaenaf a ffefrynnau'r stryd fawr i’w harchwilio.
Mae’n baradwys i’r rhai ohonoch sy’n caru bwyd, bydd digonedd o ddewis gyda bwytai ffansi, tafarndai clyd, bistros dros dro a marchnadoedd ffermwyr.
Heb sôn am leoliadau cerddoriaeth fyw, glannau dŵr modern iawn, stadia rhyngwladol, theatrau a llwyth o ddigwyddiadau.
Arfordira Sir Benfro
Gorllewin Cymru
Parc Cenedlaethol Eryri
Gogledd Cymru
Ymunwch â’r maes chwarae
Rydym yn gartref i dimau pêl-droed, rygbi a hoci iâ o'r radd flaenaf, yn ogystal â chymuned fywiog o grwpiau chwaraeon lleol. P'un a ydych chi'n hoffi dathlu o ochr y cae, neu bod yn rhan o’r bwrlwm, mae lle i chi yma.
Trochwch eich hun mewn hanes a threftadaeth
Mae ein diwylliant yn gyfoethog; mae'r iaith Gymraeg yn un o'r hynaf yn Ewrop ac rydym yn adnabyddus am ein cariad at gerddoriaeth, caneuon a ffilm.
Mae cestyll yn diffinio tirwedd Cymru cymaint â'n bryniau a'n dyffrynnoedd. Mae yna 641, gyda phob un yn cynnig cipolwg ar y gorffennol a'r cyfle i chi archwilio'r chwedlau o fewn eu muriau.
Ydych chi’n chwilio am fwy o resymau i symud i Gymru? Ewch i wales.com
Traeth Castell Dinbych-y-pysgod
Gorllewin Cymru
Harddwch Naturiol Heb ei Ail
P'un a ydych chi'n hoff o heicio, gweld bywyd gwyllt neu mwynhau'r golygfeydd, mae yna rywbeth i bawb! Mae ein llwybr arfordirol 870 milltir o hyd yn datgelu traethau sydd heb eu difetha, cilfachau cudd a bywyd gwyllt toreithiog.
Antur ar garreg eich drws
O feicio mynydd, arfordiro, caiacio, i ddringo creigiau a syrffio, Cymru yw'r maes chwarae perffaith i’ rhai sydd eisiau bach o gyffro!
Gerddi Sophia
De Cymru
Poblogaeth
3.1 million
Parciau Cenedlaethol
3
Arian Cyfred
Pound Sterling
Dinasoedd
7