Nyrsio a Bydwreigiaeth
Byddwch yn elwa ar lefelau staffio gwell. Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno deddfwriaeth sy'n diogelu lefelau staff nyrsio – gan sicrhau y bydd nyrsys yn cael amser i ofalu'n sensitif am gleifion.
Disgwylir i bob uned famolaeth yng Nghymru gydymffurfio â ‘Birth-rate plus’ - gan sicrhau bod y nifer priodol o fydwragedd ar gael i'r merched sy'n derbyn gofal.
Un gyrfa, sawl llwybr
Mae gyrfa yng Nghymru yn llawn posibiliadau. Gall bydwragedd symud ymlaen i fod yn fydwragedd arbenigol, ymgynghorwyr a phenaethiaid rolau bydwreigiaeth. Gall nyrsys symud ymlaen i rolau arbenigol nyrsys clinigol, ymarferwyr nyrsio uwch a nyrsys ymgynghorol. Gallwch hefyd ddilyn llwybrau arwain, o rolau arwain wardiau a thîm, i swyddi uwch.
Gweithio hyblyg sy’n addas i’ch teulu
Wrth weithio yng Nghymru, gallwch fanteisio ar amrywiaeth o drefniadau gweithio arloesol a gynlluniwyd i'ch helpu i drefnu eich gwaith o amgylch eich bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys oriau gwaith hyblyg, cynlluniau talebau gofal plant, cynlluniau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleusterau crèche ar y safle.
Eisiau darganfod mwy? Lawrlwythwch ein llyfryn isod:
Angen mwy o wybodaeth neu gwestiwn penodol?
Cyflwynwch ymholiad yma.
Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.