TWL

Deintyddol

Gyda chi bob cam

Pa bynnag gam rydych chi ynddo yn eich gofal, mae Cymru'n cynnig hyfforddiant cefnogol o ansawdd uchel i'r gweithlu deintyddol cyfan (deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol). Mae ymchwil addysgol yn sail i'n holl raglenni hyfforddiant ac maent wedi'u sicrhau o ran ansawdd i fodloni safonau uchel ac anghenion ein gweithwyr deintyddol proffesiynol.

I gael gwybodaeth fanwl am ein rhaglenni hyfforddi ewch i:

Sut gallai gyrfa ddeintyddol yng Nghymru edrych i chi?

Eisiau darganfod deintyddiaeth yng Nghymru? Gweld beth sydd gennym i'w gynnig i chi'ch hun.

Profiad o ansawdd

Fel hyfforddai sylfaen a chraidd deintyddol yng Nghymru byddwch yn elwa o ddiwrnodau astudio o ansawdd uchel. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch helpu i feithrin yr holl sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer clinigol llwyddiannus.

Profiad ymarferol mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf

Credwn mai rhoi profiad ymarferol i chi mewn cyfleusterau efelychu o'r radd flaenaf yw'r ffordd orau o ddysgu. Mae ein grwpiau addysgu bach yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Rhwydweithiau cymorth i'ch helpu i ffynnu

Rydym yn darparu amgylchedd hyfforddiant cyfeillgar a chefnogol fel y gallwch gyflawni eich potensial. Byddwch hefyd yn elwa o gymorth gan gyfoedion yn ogystal â gallu adeiladu rhwydweithiau parhaol. 

Pwysigrwydd eich llesiant

Mae lles ein cydweithwyr yn bwysig iawn i ni, ac mae hynny'n cynnwys ein hyfforddeion. Ble bynnag y byddwch wedi'ch lleoli yng Nghymru, byddwch yn gallu cyrchu casgliad o adnoddau i gynorthwyo eich anghenion iechyd a llesiant.

Hyblygrwydd yn ól yr angen

Gall bywyd fod yn anrhagweladwy; mae ein dewisiadau hyblyg wedi'u cynllunio i'ch helpu i aros ar y trywydd iawn pe bai unrhyw beth yn newid ar ôl i chi ddechrau eich hyfforddiant. Rydym yn gwybod bod taro cydbwysedd yn bwysig ac mae cael hyblygrwydd yn hollbwysig. Mae hyfforddiant llai nag amser llawn (LTFT) yn eich helpu i neilltuo amser i feysydd eraill o'ch bywyd. Efallai yr hoffech ymgymryd chyfleoedd datblygu, dechrau teulu neu gael dewisiadau pe bai unrhyw beth annisgwyl yn digwydd.

Gwlad cyfleoedd

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn treialu menter recriwtio leol newydd. Fel rhan o'r hyfforddiant sylfaen ddeintyddol cynnig recriwtio gwell yng Nghymru (DFT WERO), rydym yn cynnig pecyn cymorth i hyfforddeion sy'n cyflawni eu hyfforddiant mewn practisau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen Cynnig Recriwtio Uwch Cymru (DFT WERO).

Paratoi i arwain

Mae Cymru yn genedl arloesol ac rydym eisiau arweinwyr tosturiol ac angerddol i gyflawni gwelliannau gofal iechyd sy'n sicrhau ein bod bob amser yn darparu'r gofal gorau i'r claf. Os yw hwn yn faes yr ydych yn gweld eich hun ynddo, bydd ein Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru uchel ei pharch yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a rheoli yn y dyfodol.

Cyflogwr Arweiniol Unigol y GIG

Yng Nghymru, bydd gennych un cyflogwr drwy gydol eich rhaglen hyfforddi, sy'n golygu y byddwch yn:

  • profi camu di-dor rhwng swyddi
  • cael ateb i'ch ymholiadau yn gyflym ac yn gyson
  • dim ond llofnodi un contract am gyfnod eich rhaglen hyfforddi = llai o gymhlethdod gyda chyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol
  • gallu manteisio ar gynllun Aberthu Cyflog y GIG a phecynnau Buddion Gweithwyr eraill sydd ar gael i weithwyr GIG Cymru.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiwn penodol?

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiad, ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis