Fferylliaeth
Hyfforddiant arloesol a chymorth y gallwch ddibynnu arno
Yng Nghymru, mae trawsnewid addysg a datblygiad fferyllol wedi hen ddechrau. Rydym yn arwain y ffordd mewn ymateb i ddiwygiadau mawr y CFfC gyda chontract fferylliaeth gymunedol newydd a chyffrous a modelau datblygu nodedig â sicrwydd ansawdd ar gyfer fferyllwyr dan hyfforddiant, fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru, practis uwch ac ymgynghorwyr.
Cwrdd â'ch anghenion i'ch helpu i wneud gwahaniaeth
Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i fodloni disgwyliadau cynyddol graddedigion ac anghenion hirdymor GIG Cymru. Mae’r model aml-sector newydd yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu fferylliaeth, hyblyg sydd â’r sgiliau a’r cymhwysedd i ddefnyddio eu harbenigedd meddyginiaethau gwerthfawr yn gynyddol yn yr ystod lawn o leoliadau gofal iechyd a gwireddu gweledigaeth Cymru Iachach.
Ystod o raglenni fferylliaeth
Mae Cymru’n cynnig dewis rhagorol o gyfleoedd hyfforddi sefydledig o safon, sydd wedi’u strwythuro’n dda ac sy’n berthnasol. Byddwch hefyd yn cael cymorth gyrfa, hyd at ac ar ôl i chi gofrestru fel gweithiwr fferyllol proffesiynol, oherwydd yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) cymaint â chi.
Lefelau boddhad uchel
Mae gan Gymru gyfraddau pasio uchel yn gyson, o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ar gyfer asesiad fferyllydd dan hyfforddiant y CFfC.
Hyfforddiant aml-sector
Yng Nghymru, mae ein rhaglen cylchdroi hyfforddiant aml-sector unigryw yn rhoi tri lleoliad hyfforddi 4 mis i chi mewn fferyllfa gymunedol, practis meddyg teulu ac ysbyty. Sy’n golygu y byddwch yn datblygu’r sgiliau, y profiad a’r hyder i weithio mewn unrhyw amgylchedd fferyllol.
Ymdeimlad o berthyn
Fel rhan o garfan o dros 100 o fferyllwyr dan hyfforddiant, mae gan Gymru grŵp cyfoedion gweithgar a bywiog. Byddwch yn dod i adnabod eich timau ar draws y gwahanol sectorau ymarfer yn ogystal â'ch cyfoedion yn eich sesiynau hyfforddi oddi ar y safle - gan ddarparu cyfleoedd i ddysgu, rhwydweithio a chymdeithasu.
Cyflogwr arweiniol sengl y GIG
Ble bynnag y byddwch yn hyfforddi yng Nghymru, bydd gennych un cyflogwr am gyfnod eich rhaglen hyfforddi. Mae hyn yn golygu mai dim ond un contract y bydd angen i chi ei lofnodi ar gyfer eich rhaglen hyfforddi, a phrofi cyfnod pontio mwy di-dor rhwng swyddi. Byddwch hefyd yn cael atebion cyflym a chyson i'ch ymholiadau; dylai ceisiadau morgais fod yn symlach; llai o gymhlethdod gyda’r Dreth a’r Yswiriant Gwladol a dalwch a buddion cysylltiedig (mamolaeth, tadolaeth ac ati). Hefyd, byddwch yn gallu manteisio ar gynllun Aberthu Cyflog y GIG a phecynnau Buddion Cyflogeion eraill sydd ar gael i weithwyr GIG Cymru.
Trosglwyddiad esmwyth i ymarfer
Yng Nghymru, mae pob fferyllydd dan hyfforddiant yn cwblhau achrediad gwasanaeth gwella cenedlaethol fel rhan o’u hyfforddiant, sy’n golygu y gallwch ddarparu’r holl wasanaethau ychwanegol unrhyw le yn y wlad os byddwch yn dewis trosglwyddo’n uniongyrchol i ymarfer cymunedol.
Cyfleoedd ôl-gofrestru
Mae niferoedd uchel o fferyllwyr dan hyfforddiant yn dewis aros a datblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru, gan elwa ar gyfleoedd gwaith cyffrous a mynediad parhaus i raglenni hyfforddi cenedlaethol fferylliaeth gymunedol ac ysbyty o safon uchel.
Rhaglen Sylfaen ôl-gofrestru
Unwaith ichi ennill eich cymhwyster, ar ôl i chi gymhwyso, mae yna hefyd lawer o gyfleoedd trwy gyflogwyr lleol, i ymgymryd â'n Rhaglen Sylfaen ôl-gofrestru a ariennir yn ganolog. Mae'r rhaglen yn cefnogi fferyllwyr sydd newydd gofrestru, i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau, i ymarfer yn hyderus mewn unrhyw sector, ar Lefel Sylfaen ôl-gofrestru gyffredinol. Mae'n darparu amser datblygu gwarchodedig i fagu hyder a chymhwysedd mewn ymarfer, y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen ar gyfer cofrestru fel fferyllydd, gyda chefnogaeth ymarferwyr profiadol. Yn bwysig, mae'n pontio'r cyfnod ar gyfer cofrestreion newydd, nes bod safonau newydd Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Fferyllwyr (IETP) yn cael eu gweithredu'n llawn (Gorffennaf 2026) ac yn cynnwys cyflawni statws Rhagnodi Annibynnol.
Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF)
Mae opsiynau datblygu yng Nghymru yn cynnwys cyfleoedd i hyfforddi ar ein WCLTF, sy'n rhaglen hyfforddi ôl-gofrestru am flwyddyn ar gyfer fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, sy'n cynnig cyfle unigryw ar gyfer hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol. Nod y cynllun yw recriwtio a datblygu darpar arweinwyr clinigol y dyfodol a rhoi iddynt yr ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i fod yn arweinwyr credadwy a dylanwadol mewn GIG modern yn y dyfodol.
Ymarfer Lefel Uwch ac Ymgynghorydd
Er mwyn datblygu eich gyrfa hyd at rolau uwch ac ymgynghorol ar lefel fferyllydd, rydym yn darparu cyfleoedd i gael mynediad at gyllid canolog, sy'n golygu y gallwch deilwra eich datblygiad gan ddefnyddio ystod o fodiwlau neu raglenni lefel meistr. Gall y rhain gynnwys modiwlau addysg, ymchwil a digidol, neu gyrsiau rhagnodi annibynnol a chlinigol.
Dysgu ac Adnoddau
Fel gweithiwr fferyllol proffesiynol yng Nghymru, mae mynediad at ystod o adnoddau dysgu hunangyfeiriedig gan gynnwys pecynnau e-ddysgu, fideos, podlediadau a 'ffeithiau fferylliaeth gyflym' sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich ymarfer proffesiynol a'ch datblygiad proffesiynol parhaus - pob un ohonynt am ddim.
Angen mwy o wybodaeth neu oes gennych gwestiwn penodol?
Cyflwynwch ymholiad yma.
Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.