Fferylliaeth
Gweithio mewn gwlad sy'n angerddol am iechyd
Pan sefydlodd Aneurin Bevan y GIG ym 1948, gwnaeth hynny ar egwyddorion mynediad cyfartal a bod y gwasanaeth yn seiliedig ar angen, nid ar y gallu i dalu. Tra bod Cymru yn rhan o’r DU, mae polisi iechyd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, sy'n golygu y gallwn wneud y polisïau iechyd cywir yng Nghymru, ar gyfer Cymru.
Darganfyddwch pa gyfleoedd DPP o ansawdd uchel sydd ar gael a sut i wneud cais yma:
Canolfan Addysg Broffesiynol Fferylliaeth Cymru
Llunio dyfodol fferylliaeth yng Nghymru
Mae Cymru yn genedl fach, flaengar a chyfeillgar a thrwy weithio yma gallwch ymgymryd â rolau sy'n addo mynediad i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, fel y gallwch chi helpu Cymru i lunio dyfodol y gwasanaethau a ddarperir gennych.
Un gyrfa, llawer o lwybrau
Mae swyddi fferyllwyr mewn amrywiaeth o sectorau a lefelau ar gael ledled Cymru. Rydym yn gweld cynnydd mewn swyddi fferylliaeth newydd mewn gofal sylfaenol, gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd mewn gofal eilaidd a llawer o rolau ysgogol mewn fferylliaeth gymunedol.
Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau y bydd pob fferyllydd mewn rolau clinigol ym mhob sector yn gallu hyfforddi fel rhagnodwyr annibynnol, mewn lleoliadau cymunedol a Byrddau Iechyd.
Fel Fferyllydd Ymgynghorol yng Nghymru, byddwch yn elwa ar y gwaith moderneiddio sylweddol yn y maes hwn a byddwch yn sicrhau gwelliannau yn iechyd, diogelwch a lles y boblogaeth a wasanaethir.
Parhewch â'ch datblygiad proffesiynol
Yng Nghymru, mae datblygiad proffesiynol parhaus wedi'i wreiddio mewn ymarfer ym mhob sector, gyda chyfleoedd a ariennir yn ganolog i'r rheini sy'n adeiladu portffolios lefel uwch ac fel ymgynghorydd.
Gwobrwyo rolau sydd wrth galon y gymuned
Bydd gennych ragolygon cyflogaeth rhagorol ar ôl i chi gymhwyso, pa bynnag sector neu rôl a ddewiswch, gan roi cyfle i chi roi eich arbenigedd ar waith. P'un a yw'n defnyddio'ch sgiliau clinigol i dderbyn atgyfeiriadau gan bractisau meddygon teulu, mwynhau cydweithredu ffurfiol â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu ddefnyddio'ch sgiliau pobl i ddarparu gwasanaethau clinigol newydd, fel fferyllydd yng Nghymru, byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at iechyd poblogaeth Cymru a fydd yn wirioneddol werthfawr.
Technoleg galluogi
Yng Nghymru, rydym wedi cydgysylltu technoleg ar draws saith Bwrdd Iechyd cwbl integredig, sy'n golygu bod gennych fynediad at gofnodion meddygol meddygon teulu ble bynnag yr ydych yn ymarfer. Mae hyn yn eich galluogi i weithio gyda gwybodaeth gywir a chyfredol i ddarparu'r gofal gorau posibl.
Cefnogir gan dîm medrus
Fel fferyllydd yng Nghymru, byddwch yn gallu helpu eich technegwyr fferyllol i gyrraedd eu llawn botensial trwy eu cefnogi i wella eu hyder, eu gwybodaeth a'u sgiliau i ymarfer yn ddiogel mewn unrhyw sector mewn gwasanaethau clinigol trwy fodiwlau hyfforddiant seiliedig ar waith. Yn ei dro, bydd gennych yr amser i wella'r gwasanaethau yr ydych yn eu darparu ac iechyd y rhai yn eich cymuned.
Ymchwil
Mae datblygiad rhwydwaith o arweinwyr ymchwil fferylliaeth o hyd a lled Cymru, yn golygu byddech yn cael cefnogaeth i'ch arwain drwy ymchwil ymarfer hyd at gyhoeddi.
Eisiau darganfod mwy? Lawrlwythwch ein llyfryn isod:
Angen mwy o wybodaeth neu oes gennych gwestiwn penodol?
Cyflwynwch ymholiad yma.
Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.