TWL

Meddygol

Hyfforddiant arloesol y gallwch ddibynnu arno

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gweithredu ystod eang o raglenni hyfforddiant arbenigol i chi ddewis ohonynt, gyda mynediad at raglenni addysgu ac adnoddau efelychu addysgol ac arbenigol. Oherwydd ein bod yn gwybod bod angen ymrwymiad ar y ddwy ochr i sicrhau'r canlyniadau gorau, mae GIG Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg i greu cyfleusterau addysgol o safon fyd-eang ar hyd a lled y wlad.

Hyfforddiant Arbenigol

Porwch y wefan hon ar gyfer gwybodaeth am HyfforddiGweithioByw yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant Arbenigol, cliciwch ar y ddolen hon.

Hyfforddiant Arbenigedd Penodol:

Mae ein trefniadau hyfforddi yn cynnig mwy i chi

Yng Nghymru, mae ein rhaglenni hyfforddi yn rhoi mynediad i chi at yr holl ofynion a chyfleoedd addysg a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich targedau hyfforddi a thyfu'n feddyg medrus a hyderus.

Ochr yn ochr a'ch lleoliadau hyfforddi, rydym yn cyflwyno rhaglen Cwricwlwm Generig a fydd yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau generig craidd, sy'n cyd-fynd â Galluoedd ar Waith y GMCs. A thu allan i ysbytai, mae gennym amrywiaeth enfawr o arferion hyfforddi mewn lleoliadau gwledig hardd i ddinasoedd cosmopolitan.

Ennill cymrodoriaeth o bwys

Mae'r opsiynau datblygu yng Nghymru yn cynnwys cyfleoedd i hyfforddi ar gymrodoriaeth Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT) uchel ei barch neu Gymrodoriaeth Hyfforddi Arweinyddiaeth Glinigol Cymru. Drwy gwblhau Cymrodoriaeth Academaidd, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i adeiladu ac arwain ymchwil drosi o'r labordy i ochr y gwely neu welliannau wrth ddarparu gofal iechyd yng Nghymru. Bydd y cyfleoedd arwain yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain a rheoli yn y dyfodol.

Opsiynau hyblyg sy'n addas i chi

Os bydd unrhyw beth yn newid ar i'ch hyfforddiant ddechrau, mae ein dewisiadau hyfforddi hyblyg yma i'ch helpu i gadw ar y trywydd iawn. Mae'r opsiwn i hyfforddi ar sail llai nag amser llawn (LTFT) yn eich helpu i neilltuo amser ar gyfer rhannau eraill o'ch bywyd pe bai unrhyw beth annisgwyl yn digwydd, neu os ydych yn bwriadu ymgymryd & chyfleoedd datblygu, neu gychwyn teulu.

Un Cyflogwr Arweiniol

Gan adeiladu ar lwyddiant ein model Un Cyflogwr Arweiniol ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant, rydym yn parhau i gyflwyno'r model ar gyfer ein holl hyfforddeion, sy'n golygu lle bynnag y byddwch yn hyfforddi yng Nghymru, bydd gennych un cyflogwr drwy gydol eich rhaglen hyfforddi. Dyma brif fanteision y model hwn: dim ond un contract ar gyfer eich rhaglen hyfforddi y bydd angen i chi ei lofnodi a bydd proses lyfnach wrth symud rhwng swyddi; byddwch yn cael ateb i'ch ymholiadau yn gyflym ac yn gyson; dylai ceisiadau am forgais fod yn symlach; llai o gymhlethdod gyda'r Dreth a'r Yswiriant Gwladol rydych chi'n ei dalu a budd-daliadau cysylltiedig (mamolaeth, tadolaeth ac ati); hefyd, byddwch yn gallu manteisio ar gynllun Aberthu Cyflog y GIG a phecynnau Budd-daliadau Cyflogeion eraill sydd ar gael i weithwyr eraill GIG Cymru.

Cymhelliant

Mae taliad untro i holl hyfforddeion y rhaglen arbenigedd meddygon teulu yng Nghymru i dalu am y tro cyntaf y byddwn yn sefyll eich Asesiad Sgiliau Clinigol (DSG) a'ch Prawf Gwybodaeth Gymhwysol (AKT). Mae hwn ar gael i'r rhai sy'n dechrau ar eu swydd hyfforddi gyntaf fel meddyg teulu yn eu cynllun meddygon teulu ym mis Awst 2022 a mis Chwefror 2023.

Os dewisoch hyfforddi fel meddyg teulu mewn ardaloedd penodol o Gymru, mae cymhelliant wedi'i dargedu o £20,000 ar yr amod eich bod yn aros yn yr ardal yn ystod hyfforddiant ac am flwyddyn o ymarfer wedyn.

Ar gyfer hyfforddeion craidd seiciatreg sy'n astudio yng Nghymru, mae taliad fesul cam o hyd at £1,900 ar gael i dalu am gost sefyll eich arholiadau aelodaeth MRCPsych unwaith.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant & chymhorthdal i hyfforddeion craidd seiciatreg, heb effeithio ar ansawdd. Ar hyn o bryd mae ein cwrs MRCPsych yn costio £100 y flwyddyn, gan roi mwy o hyblygrwydd ariannol i chi gyflawni cyfleoedd addysgol eraill.

Angen mwy o wybodaeth neu oes gennych gwestiwn penodol?

Cyflwynwch ymholiad yma.

Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis