TWL

Hannah Son

Hannah Final Image Small

Ganwyd Hannah Son yn wreiddiol yn Ne Corea, cyn symud i Gaerdydd, Cymru gyda'i theulu pan oedd yn dri mis oed. Roedd Hannah am fod yn ddeintydd o oedran ifanc iawn. Mynychodd Goleg y Brenin Llundain am bum mlynedd, cyn dychwelyd adref i Gymru i ddechrau ei gyrfa mewn deintyddiaeth.  

Yn ôl Hannah: 

"Wnes i symud i Gymru yn wreiddiol yn blentyn ifanc iawn gan fod teulu fy nhad wedi agor busnes yma, ac roedd angen help i'w reoli. Yna, ymgartrefodd fy nheulu’n barhaol yng Nghymru gan ein bod ni i gyd yn mwynhau’r diwylliant, yr ysgolion a’r ffordd o fyw gymaint. Buon ni’n teithio’n ôl i Dde Korea yn rheolaidd i weld teulu, ond Cymru fu’n gartref i mi erioed.  

"Wnes i ymddiddori mewn deintyddiaeth am y tro cyntaf pan oeddwn i’n blentyn, pan oedd yn rhaid i mi ymweld â deintydd tra yn Ne Corea. Roedd yn arbenigo mewn trin plant ifanc a oedd yn ofni deintyddion. Roedd yn gwneud hyn trwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu anhygoel i wneud plant yn gartrefol, gyda theganau a balŵns i'w helpu i ymlacio. Yn blentyn ifanc roeddwn i’n poeni o hyd am fynd at y deintydd, ond fe wnaeth ei agwedd wir newid fy safbwynt o'r hyn y gallai deintydd fod. Gwnaeth y profiad cadarnhaol hwn wir fy ysbrydoli a gwneud i mi weld deintyddiaeth mewn goleuni cwbl wahanol. Gyda'r profiad cadarnhaol hwn a llawer o anogaeth gan fy nheulu, decgreuais i weithio tuag at ddod yn ddeintydd. 

"Penderfyniad eithaf hawdd oedd mynychu Coleg y Brenin yn Llundain, gan fod ganddi enw da fel prifysgol o'r radd flaenaf. Er i mi fwynhau fy amser yn Llundain yn fawr, wnes i ganfod ei fod yn llawer mwy ynysig a phrysur na'r math o leoedd y cefais i fy magu ynddyn nhw. Ar ôl pum mlynedd, roeddwn i’n barod i ddychwelyd i Gymru a bod mewn amgylchedd lle mae pobl yn dweud “bore da” wrthych chi os ydych chi allan am dro neu’n cael sgwrs gyfeillgar gyda chi os ydych chi’n aros mewn safle bws.  

"Hefyd, roedd gen i resymau proffesiynol i ddod yn ôl i Gymru. Roedd hyn gan fy mod wedi clywed am uned addysgu deintyddol Port Talbot, a oedd yn cynnig hyfforddiant sylfaen rhagorol. Wnes i gael amser anhygoel yno a hwn oedd yr amgylchedd gorau i mi gyflawni fy mlwyddyn sylfaen. Yn dilyn hyn, wnes i gyflawni DCT1 wedi ei rannu rhwng Ysbyty Deintyddol Caerdydd ac Ysbyty Tywysog Siarl Merthyr Tudful mewn llawdriniaeth adferol y geg a'r genau a'r wyneb. Gan imi fwynhau fy mlwyddyn gymaint, wnes i aros yn yr un ysbyty ym Merthyr Tudful i wneud fy ail flwyddyn o hyfforddiant craidd deintyddol mewn llawfeddygaeth y geg. Mae hyn bellach wedi arwain at fy swydd bresennol, fel Cymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru. 

"Er nad oeddwn i’n gwybod llawer am y swydd cyn i mi ddechrau, roeddwn i wedi clywed gan gydweithiwr pa mor anhygoel oedd y swydd hon a'r cyfleoedd yn y rôl. Cefais wybod hefyd gan fy ymgynghorwyr y byddai’r rôl hon yn fuddiol o ran datblygu sgiliau gwahanol, y tu allan i waith clinigol. Er bod y cyfweliad ar gyfer y rôl yn eithaf dwys, roedd yn brofiad dysgu hynod werthfawr i mi. 

"Rhywbeth am weithio a byw yng Nghymru dwi’n ei garu sy’n unigryw yn fy marn i, yw’r perthnasoedd proffesiynol a phersonol agos gyda fy nghyfoedion a’r tîm ehangach. Mae hyn wedi fy ngalluogi i wneud y gorau o bob blwyddyn hyfforddi. Mae pob tîm dwi wedi gweithio gyda nhw yn ystod pob blwyddyn hyfforddi wedi bod yn hynod gefnogol, ac wedi fy helpu i ddatblygu fel clinigwr. 

"Yn fy rôl bresennol, dwi wedi canfod bod rhai sgiliau y mae'n rhaid ichi eu datblygu i wneud y gorau o'r flwyddyn hon, megis sgiliau arloesi ac arwain. Mae dod i'r rôl hon wedi sbarduno fy hyder i ddatblygu'r sgiliau hyn, ac mae hyn wedi bod yn braf iawn. Yn naturiol, dwi’r math o berson sy'n tueddu i wrando mwy, yn hytrach na chynnig syniadau, felly mae'n dda bod mewn amgylchedd lle dwi’n cael anogaeth i siarad a meddwl am syniadau newydd.  

"Ar hyn o bryd dwi’n byw yn Llaneirwg, sydd ychydig i'r dwyrain o brifddinas Cymru, Caerdydd. Dwi wrth fy modd yn byw yno ac yn ei chael yn ardal braf gan ei bod i ffwrdd o'r holl drefi a’r strydoedd prysur ond mae dal yn agos i’r ddinas. Felly, mae'n fendigedig cael yr ardal dawel a phrifddinas ar garreg fy nrws. 

"Dwi hefyd yn ddigon ffodus i gael fy nheulu yn byw gerllaw, sy'n rhoi mwy o reswm  i mi aros yn yr ardal.  Dwi wir wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu, a mynd allan a rhoi cynnig ar fwytai newydd.  Yn ogystal, dwi’n mwynhau siopa, gwylio ffilmiau a wnes i hyd yn oed mynychu dosbarth dawns yn ddiweddar. Mae rhywbeth newydd i roi cynnig arno o hyd, ac mae'n help bod pawb yng Nghymru’n mor gyfeillgar a charedig. Dwi wrth fy modd yn mynd ar deithiau cerdded gyda fy nheulu, mynd allan i'r awyr iach ac archwilio safleoedd a lleoedd newydd.  

"Gan edrych i’r dyfodol, dwi’n gobeithio arbenigo mewn llawfeddygaeth y geg, ond hoffwn i hefyd barhau i weithio’n rhan-amser mewn rôl anghlinigol, gan fy mod yn mwynhau eleni cymaint. 

"Byddwn i’n argymell Cymru yn fawr i unrhyw un sy'n ystyried dod yma i hyfforddi neu i weithio. Mae’r gymuned glos, y rhwydwaith, y gefnogaeth a’r amgylchedd cadarnhaol yn ei wneud yn lle anhygoel i hyfforddi, gweithio a byw ynddo."  

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis