TWL

Petros Mylonas

Petros Picture 1

Ganed a magwyd Petros Mylonas yn wreiddiol ym Mirmingham, Lloegr gyda rhieni Groegaidd Chypriad. Parhaodd ei yrfa a’i hyfforddiant ym Mirmingham a Llundain tan 2019, cyn symud i Gaerdydd. Ers 2021, mae wedi bod yn gofrestrydd hyfforddiant arbenigol mewn deintyddiaeth adferol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Dywedai Petros: 

“Cefais fy ysbrydoli i fod yn ddeintydd yn dilyn y driniaeth a gefais yn fy neintydd lleol yn blentyn.  Fe wnaeth eu caredigrwydd a’u natur ofalgar fy ysbrydoli i fod eisiau dysgu mwy am eu swydd. Yr hyn a’m synnodd am y swydd oedd bod yn rhaid ichi feddu ar lawer o sgiliau gwahanol i fod yn ddeintydd nad ydynt yn gysylltiedig yn academaidd sy’n cynnwys: sgiliau rhyngbersonol, hunanfyfyrio ac empathi. 

“Yna dechreuais hyfforddi yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Birmingham rhwng 2007 a 2012. Ar ôl graddio, parheais â’m hyfforddiant Deintyddol Craidd gyda chynllun dinas Birmingham rhwng 2012 a 2013, gan weithio ym Mhractis Deintyddol Farm Street yn Hockley, Birmingham a dysgais beth oedd ystyr bod yn ddeintydd i’r gymuned leol. Mwynheais fy amser yn Hockley yn fawr.  

“Ar ôl cwblhau fy hyfforddiant sylfaen, dewisais ddilyn y llwybr Hyfforddiant Craidd Deintyddol oherwydd ar yr adeg hon, nid oeddwn yn siŵr a oeddwn am ddilyn gyrfa fel deintydd arbenigol. Cwblheais 2 swydd fel DCT mewn Meddygaeth y Geg, Llawfeddygaeth y Geg, a Deintyddiaeth Adferol. Yn dilyn hyn, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau dilyn gyrfa arbenigol mewn Deintyddiaeth Adferol, a pharheais fel DCT 3 academaidd mewn llawfeddygaeth y genau a'r wyneb a deintyddiaeth adferol. Rhoddodd hyn sylfaen dda yn y byd academaidd clinigol, a llwyddais i astudio gradd meistr rhan-amser mewn addysg feddygol o Brifysgol Warwick. 

“Yn 2016, dechreuais PhD mewn prosthodonteg a deunyddiau yng nghyfadran Deintyddiaeth y Gwyddorau Geneuol a Chreuaineol  Coleg y Brenin Llundain. Rhaglen PhD amser llawn tair blynedd oedd hon, lle bûm yn ymchwilio i draul erydol dannedd mewn labordy. Mwynheais fy amser yn fawr a dysgais lawer am lywodraethu ymchwil, cynnal astudiaethau labordy a sut i weithio'n effeithiol mewn tîm. Roedd cwblhau hyn yn rhoi persbectif llawer mwy sylfaenol i mi ar fy neintyddiaeth glinigol. 

“Ar ôl cwblhau fy PhD yn 2019, cymerais swydd fel darlithydd clinigol gyda hyfforddiant arbenigol mewn deintyddiaeth adferol ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan nad oeddwn erioed wedi bod yng Nghymru o’r blaen, cefais fy argyhoeddi i symud yma oherwydd yr amgylchedd cyfeillgar, bywyd dinas, y ffordd fforddiadwy o fyw a’r natur a’r gwyrddni o amgylch y ddinas. Ar ôl siarad â llawer o aelodau staff ym Mhrifysgol Caerdydd a’r rhai a oedd wedi gweithio yng Nghaerdydd o’r blaen, roeddwn yn gwybod y byddai Caerdydd a Chymru yn gyffredinol yn lle gwych i mi weithio a byw yn y tymor hir. Rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i gymryd y swydd hon gan fy mod wedi gallu creu cyfeillgarwch a pherthnasoedd gwaith gwych gyda llawer o bobl. 

“Ers 2019, rydw i wedi bod yn ddarlithydd clinigol mewn deintyddiaeth adferol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae fy swydd yn cynnwys addysgu myfyrwyr BDS o flwyddyn dau hyd at flwyddyn pump. Ar hyn o bryd rwyf hefyd yn arwain hyfforddiant clinigol ar gyfer blwyddyn dau BDS ac rwy'n cyd-arwain addysgu deunyddiau deintyddol yn yr ysgol ddeintyddol. Rwyf hefyd yn ymgymryd â phum mlynedd o hyfforddiant llawn amser i ddod yn arbenigwr adferol, a fydd, gobeithio, yn arwain at ddod yn uwch ddarlithydd ac ymgynghorydd anrhydeddus mewn deintyddiaeth adferol. 

“Ers byw yng Nghymru, rydw i wedi gallu dilyn llawer o fy hobïau a diddordebau – sy’n cynnwys crwydro, cerdded ym myd natur a ffitrwydd. Os oeddwn i erioed wedi cael unrhyw broblemau neu straen, rydw i'n gallu ymlacio trwy fynd allan i gefn gwlad i ddilyn fy hobïau. Ar hyn o bryd rwy'n byw yn ardal Heath, Caerdydd a chefais fy synnu'n fawr gan ba mor braf, glân a thawel yw'r ardal hon o Gaerdydd o'i chymharu â mannau eraill lle rwyf wedi byw o'r blaen. Rwyf hefyd wedi fy syfrdanu gan ba mor gyfeillgar yw pawb, pa mor gyfleus yw popeth a'r costau byw gwych.  

“Mae byw yng Nghymru wedi fy ngalluogi i gyflawni fy uchelgais gydol oes i ddod yn arbenigwr adferol ac yn academydd clinigol. Rwy’n teimlo fy mod wedi gallu cyflawni hyn yng Nghymru oherwydd y cymorth a’r gofal rhagorol a gefais yn ystod fy amser yma gan fy nghydweithwyr.  

“Byddwn yn argymell yn fawr i unrhyw un sy’n ystyried hyfforddiant arbenigol mewn deintyddiaeth adferol ystyried symud i Gymru o ddifrif, oherwydd fel fi, efallai y byddwch yn gweld y byddwch yn aros yma am byth! 

“Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n gobeithio o fewn y pum mlynedd nesaf y byddaf wedi cwblhau fy hyfforddiant arbenigol ac yn dal swydd uwch-academydd clinigol ymgynghorol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn gobeithio byw bywyd heddychlon gyda fy nheulu yn y dyfodol yma yng Nghymru."

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis