TWL

Aimee Williams

AimeeWilliams

Yn wreiddiol o Fanceinion, Lloegr, dychwelodd Aimee i addysg uwch a mynychodd Brifysgol Manceinion yn 27 oed i astudio nyrsio iechyd meddwl, gan ei bod yn teimlo bod angen iddi ddilyn gyrfa yr oedd yn wirioneddol angerddol amdani.  

Dywed Aimee: 

"Dechreuais fy nhaith nyrsio drwy gofrestru ar raglen nyrsio iechyd meddwl Prifysgol Manceinion, o dan arweiniad rheolwr gwasanaeth ysbrydoledig a chydweithwyr nyrsio yn y Priory; lle roeddwn i'n gweithio fel gweithiwr cymorth ar y pryd. 

"Ar ôl graddio, cefais fy swydd gyntaf fel nyrs iechyd meddwl yn Ne Cymru. Gan fod fy ngŵr yn dod o Gymru, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn, gan fy mod wedi ymweld sawl gwaith o’r blaen. Yn wreiddiol roedden ni'n bwriadu byw yng Nghymru am flwyddyn a gweld sut wnaethon ni setlo i mewn - gyda'r opsiwn i ddychwelyd i Fanceinion pe na bai pethau'n gweithio allan. Roedd hynny 11 mlynedd yn ôl yn awr, felly rwy’n meddwl mai Cymru yw ein cartref bellach. Yn ystod ein hamser yng Nghymru, rydyn ni wedi cael plant – a dwi wrth fy modd eu bod nhw wedi tyfu lan yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ac wedi cofleidio’r diwylliant Cymreig yn llwyr. 

"Gan fod gen i deulu ifanc, roeddwn i'n teimlo fy mod angen cydbwysedd gwaith/bywyd iachach, felly penderfynais newid o nyrsio oedolyn cleifion mewnol i nyrsio iechyd meddwl cymunedol. Arhosais yn y swydd hon am tua phum mlynedd, lle gwnes i hefyd gwrs rhagnodi anfeddygol, gyda chefnogaeth wych gan fy rheolwr tîm a seiciatrydd ymgynghorol.   

"Ar ôl cymhwyso fel rhagnodwr anfeddygol daeth cyfle newydd ar gael mewn gwasanaeth asesu cof, a ddechreuais yn 2021. Rhoddodd y rôl hon gyfle i mi ddilyn y cwrs ymarfer nyrsio uwch, a gwblheais ym mis Chwefror 2024. Cefais lawer o gefnogaeth gan y tîm a'r mentor yn ystod y cyfnod hwn ac roeddent yn garedig iawn o ran fy astudiaethau ac anghenion teuluol. 

"Ar hyn o bryd, fi yw’r Uwch Ymarferydd Nyrsio (ANP) ar gyfer y timau asesu cof yn Sir Gaerfyrddin ac rwyf wedi bod yn y rôl hon ers dros dair blynedd. Mae gweithio gyda chleifion dementia a'u teuluoedd yn rhoi llawer o foddhad i mi, wrth i mi ddarparu cymorth ac arweiniad yn ystod cyfnod heriol.  

"Fel ANP, mae gennyf yr ymreolaeth i asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion mewn gwasanaeth a arweinir gan ANP gyda chymorth ymgynghorydd. Rwy’n cael amser i wella fy ngwybodaeth i gwrdd â phedwar piler ymarfer uwch ac yn ddiweddar rwyf wedi dod yn brif ymchwilydd ar gyfer astudiaeth ymchwil. 

"Yn ogystal â'm dyletswyddau proffesiynol, rwy'n rhoi blaenoriaeth i gadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae byw yng Nghymru yn darparu amgylchedd gwledig hardd ac yn caniatáu i mi fyw yn eithaf agos at y traethau a’r mynyddoedd, sy’n wych ar gyfer mynd ar deithiau cerdded a threulio amser gyda fy mhlant. Rwyf hefyd wrth fy modd â'r holl gynnyrch ffres sydd gennyf yng Nghymru, gyda bwyd o ffynonellau lleol o fudd sylweddol i les fy nheulu. Mae Cymru yn le gwych i blant dyfu i fyny ac mae ganddi hanes mor gyfoethog a rhyfeddol, gan gynnwys llawer o gestyll, y mae fy mhlant wrth eu bodd yn ymweld â nhw. 

"Rwy’n hapus yn fy swydd fel ANP yn y gwasanaeth asesu cof, ac rwyf wedi ymrwymo i aros yn fy rôl bresennol gan fy mod yn mwynhau’r gwaith yn fawr ac mae’n rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen arnaf fel rhiant. Yr wyf, fodd bynnag, yn agored i ystyried cyfleoedd newydd o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion hŷn pe baent yn codi yn y dyfodol. Mae buddsoddiad GIG Cymru mewn staff yn rhyfeddol. I'r rhai sy'n gwneud ymdrech ymroddgar a gwaith caled, yn bendant mae cyfleoedd i wneud yn dda a gwneud cynnydd yng Nghymru. 

"Gyda chymaint ar gael yng Nghymru, megis ardaloedd dinesig, gwledig ac arfordirol, byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried adleoli i Gymru i ymchwilio a dod o hyd i gymuned sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Mae’r croeso a’r gefnogaeth gan y gymuned leol wedi ei gwneud hi’n hawdd i mi feithrin cyfeillgarwch cryf a galw Cymru yn gartref i mi. Yn olaf, fel rhywun sydd wedi cymryd llwybr gwahanol i nyrsio fel myfyriwr aeddfed ac sydd bellach yn ymarfer fel uwch ymarferydd nyrsio, gallaf ddweud ei bod wedi bod yn siwrnai ryfeddol ac yn un yr wyf yn hynod falch ohoni.  

"Rwyf bob amser yn gwneud ymdrech i rannu fy ngwybodaeth a chynnig anogaeth i eraill a allai fod yn ystyried dilyn gyrfa ym myd nyrsio yng Nghymru. Mae llwybr pawb yn unigryw, ac mae’n hollbwysig darparu cymorth ac arweiniad ar hyd y ffordd."

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis