TWL

Catherine Maddock

Catherine Maddock Picture

Ganed Catherine Maddock  ym Manceinion, Lloegr. Symudodd i Gymru gyda’i theulu yn blentyn ifanc ac mae wedi aros yma ers hynny. Tra aeth yn ôl i Loegr i fynychu'r Brifysgol, roedd hi bob amser yn ystyried Cymru yn gartref iddi ac yn gweld eisiau'r ymdeimlad cryf o gymuned, cefn gwlad, traethau a mynyddoedd. Ar hyn o bryd mae Catherine yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac ymunodd ag AaGIC fel Swyddog Cymorth Prosiect ar gyfer Profiad Bywyd ym mis Medi 2023.

Dywed Catherine:

"Ar ôl gweithio ym maes cyllid yn wreiddiol, roeddwn yn aml yn dod ar draws sefyllfaoedd lle roeddwn i'n cefnogi cwsmeriaid bregus - yn treulio llawer o amser yn clywed straeon pobl a'r anawsterau yr oeddent yn eu hwynebu. Gan fy mod wedi mwynhau’r rhan hon o’r swydd gymaint, penderfynais y byddai’n ddatblygiad da i’m gyrfa symud i’r maes hwn yn llawn amser a symud i faes cwnsela. Roeddwn i hefyd yn meddwl efallai y gallwn hyd yn oed ddilyn llwybr seicoleg, gan fod pobl yn ei chael hi'n hawdd bod yn agored yn fy nghwmni.

"Roeddwn bob amser eisiau gweithio o fewn y GIG a gwnes lawer o ymchwil i sut y gallwn gael swydd ym maes iechyd meddwl. Yn ystod fy ymchwil, darganfyddais fod rhywbeth o'r enw “Cymorth Cymheiriaid”. Gall y dull hwn fod yn effeithiol wrth gefnogi pobl oherwydd gallwch rannu eich profiad bywyd o drawma a chynnig newid cadarnhaol, dangos empathi gwirioneddol, grymuso’r person yn y canol a’i rwydwaith a helpu i ysbrydoli pobl i symud ymlaen yn eu hadferiad iechyd meddwl, ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

"Rwyf wedi canfod yn aml y gall pobl ei ffeindio’n hawdd i fod yn agored i Weithiwr Cymorth Cymheiriaid, oherwydd eu sefyllfaoedd tebyg.  Byddai pobl yn aml yn gofyn am gael fy ngweld, fel y gallent siarad â rhywun sydd gyda’r rôl o wrando, annog, grymuso, cydymdeimlo a dod â stori o obaith iddynt. Mae'r sgyrsiau hyn yn bwysig o ran meithrin perthnasoedd a chysylltiadau sy'n cefnogi adferiad. Gall gweithwyr cymorth cymheiriaid helpu timau i weld y person yn y canol o bersbectif gwahanol felly trwy gydweithio, gyda’r wybodaeth a’r profiad helaeth gan y tîm amlddisgyblaethol a chyda chymheiriaid yn rhoi eu harbenigedd profiad bywyd, mae pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau wedi’i weld yn amhrisiadwy. .

"Pan ddechreuais yn y swydd hon gyntaf, cefais yr ymreolaeth i lywio’r rôl a’i datblygu i helpu i gefnogi pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’r tîm ehangach. Creais strwythur cymorth o fewn y tîm argyfwng, cefais fy  achosion fy hun, datblygais system atgyfeirio, sefydlais sgiliau grŵp a lleisio fy marn mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol i helpu i gefnogi llais defnyddwyr y gwasanaeth ac awgrymais syniadau ar gyfer newid. Rwyf wedi cael gwybod ar sawl achlysur sut roedd fy nealltwriaeth bersonol a’m persbectif yn ychwanegu gwerth at sgyrsiau tîm, a chefnogais ffyrdd gwahanol o weithio.

"Pan ddechreuais yn fy rôl gyntaf fel gweithiwr cymorth cymheiriaid gyda'r tîm argyfwng, canfûm fod rhywfaint o ansicrwydd gan y tîm ynghylch a oedd yn briodol i mi helpu pobl sy'n wynebu risg. Fodd bynnag, ar ôl iddynt weld sut y tynnais sylw at risgiau diogelu a’r adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr gwasanaethau, newidiodd eu barn yn raddol, a dechreuasant weld y manteision o weithio ochr yn ochr â Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid mewn gwirionedd. 

"O’m profiad fy hun mae’n ddefnyddiol cael gofod i archwilio’r profiad o weithio ym maes Cefnogi Cymheiriaid a myfyrio ar y dysgu hwnnw gan ein bod yn ymdrin yn gyson â gwahanol sefyllfaoedd a heriau unigryw.

"Yn fy sefyllfa bresennol gydag AaGIC, rwy’n gweithio fel rhan o’r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol i gefnogi pob rhan o Gymru i ehangu’r defnydd o Gymorth Cymheiriaid, gan mai dim ond pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n cyflogi Gweithwyr Cymorth Cymheiriaid ar hyn o bryd.  Yn y tîm cenedlaethol mae gennym ni i gyd brofiad o weithio mewn rolau profiad bywyd ein hunain ac rydym wedi defnyddio'r profiad hwn i weithio gyda'n gilydd i dyfu a chefnogi Cefnogaeth Cymheiriaid yng Nghymru. 

"Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio bod yn rhan o ddatblygu’r cynnig Hyfforddiant Cymorth Cymheiriaid yng Nghymru fel cwrs prifysgol neu rywbeth tebyg, er mwyn rhoi mwy o barch i’r rôl, a darparu cymhwyster ffurfiol ochr yn ochr â’n profiadau byw. Unwaith y bydd hyn wedi’i sefydlu, hoffwn arwain grŵp o gymheiriaid a gweithio’n agosach ar ddatblygiad llywodraethu a hyfforddi’r rôl. Rwyf hefyd am greu lle diogel i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ac i gefnogi cymheiriaid yn y rôl.

"Rwy’n mwynhau gweithio yng Nghymru’n fawr ac yn teimlo ei bod yn llawer haws a chyflymach i feithrin cysylltiadau â phobl gan fod ganddynt lawer mwy o ddiddordeb ynoch chi fel person – yn aml yn holi am eich diddordebau teuluol a phersonol. Rwy’n gweld bod pobl yng Nghymru bob amser eisiau ichi wneud yn dda a’ch annog mewn unrhyw ffordd y gallant. Mae gan Gymru “buzz” gwych iddi ac mae’n teimlo’n amlddiwylliannol a chefnogol iawn. Mae pobl bob amser yn dweud wrthyf pa mor gyfeillgar yw Caerdydd a Chymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU y maent wedi byw ynddynt.

"Ar hyn o bryd rwy'n byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau'r ardal yn fawr gan fod cymaint o bethau i'w gweld a'u gwneud. Mae diwylliant y ddinas yn apelio'n fawr ac rwy'n teimlo ei fod yn lle datblygedig iawn.  Mae yna olygfeydd newydd bob amser i’w gweld ac anturiaethau nad wyf wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen, ac rwy’n hapus iawn i alw Caerdydd yn gartref i mi.

"Rwy'n gweld bod byw yng Nghymru hefyd yn lle gwych i fwynhau fy hobïau, sy'n cynnwys mynd â'm ci am dro ar lwybrau rhyfeddol o olygfaol. Rwyf wrth fy modd â'r ymdeimlad o gyflawniad a'r golygfeydd sydd gennyf pan fyddaf yn cyrraedd copa mynydd mawr. Mae yna agosatrwydd cymunedol go iawn pan fyddwch chi allan yn cerdded, a bydd pobl bob amser yn dweud helo wrthych neu hyd yn oed yn stopio i gael sgwrs. Byddaf yn aml yn picio i ganol Caerdydd i fwynhau bwrlwm y ddinas fawr a gwneud ychydig o siopa hefyd.

"Os ydych chi’n chwilio am ddilyniant gyrfa, mae Cymru’n lle gwych i symud iddo gan fod cymaint o angerdd ac egni ymhlith pobl Cymru."

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis