Jon Fisher
Ganed a magwyd Jon Fisher yn Rugby, Swydd Warwick yn Lloegr. Mynychodd Brifysgol Warwick pan oedd yn 18 i wneud gradd mewn cymdeithaseg, cyn penderfynu canolbwyntio ar therapi galwedigaethol yn ddiweddarach.
Dywed Jon:
"Ar ôl cwblhau fy ngradd mewn cymdeithaseg, treuliais nifer o flynyddoedd yn gweithio mewn gwasanaethau defnyddio sylweddau, ond yn teimlo'n anghyflawn. Yn fy ngyrfa bûm yn gweithio gyda sawl defnyddiwr gwasanaeth a oedd wedi cael eu cyfeirio at therapi galwedigaethol. Fe ddywedon nhw wrtha i am y gweithgareddau a’r grwpiau anhygoel roedden nhw’n rhan ohonyn nhw, fel pysgota a hwylio. Gwelais sut yr oedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu bywydau, a ysgogodd ddiddordeb i mi weithio mewn ffordd fwy therapiwtig. Penderfynais ddychwelyd i addysg i hyfforddi fel therapydd galwedigaethol.
"Yn 2014, cofrestrais gyda Phrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste i wneud gradd Therapi Galwedigaethol, dros dair blynedd. Pan wnes i gymhwyso yn 2017, doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i eisiau gweithio o fewn rôl Therapi Galwedigaethol traddodiadol ac roedd gen i rywfaint o bryder am fy ngallu i wneud y swydd. Penderfynais fynd yn ôl i weithio yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gan weithio ar y prosiect “Yfed Doeth/Heneiddio'n Dda”. Datblygais fy ngwybodaeth a’m sgiliau wrth weithio ar y prosiect hwn gan gynnwys casglu straeon defnyddwyr gwasanaeth, deall heneiddio a defnyddio sylweddau, dylunio deunyddiau hyrwyddo a diweddaru’r wefan.
"Flwyddyn yn ddiweddarach symudais i Gaernarfon yng Ngogledd Cymru, lle dechreuais fy rôl therapi galwedigaethol cyntaf gyda Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Gwynedd. Treuliais flwyddyn yn y swydd hon a dechrauais ddod yn gyrfarwydd gyda gweithio o fewn therapi galwedigaethol. Mae’n ardal mor brydferth a chaniataodd i mi weithio gyda chleifion a chyflawni ymyriadau ar yr arfordir, y mynyddoedd a’r traeth.
"Yn ystod haf 2020, symudais i Gaer, a dechreuais rôl band 6 yn gweithio yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Wrecsam. Galluogodd y swydd hon i mi adeiladu fy hyder a chymhwysedd, gyda'r ymreolaeth gynyddol sy'n ofynnol mewn rôl uwch.
"Er i mi fwynhau fy amser yng Ngogledd Cymru, roedd hi bob amser yn nod i mi symud yn ôl i Dde Cymru rywbryd. Daeth swydd therapydd galwedigaethol ar gael mewn gwasanaeth defnyddio sylweddau arbenigol yn Ne Cymru ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael y swydd hon a’r holl gyfleoedd y mae wedi’u rhoi i mi.
"Rwy’n parhau i eirioli dros rôl therapi galwedigaethol mewn gwasanaethau defnyddio sylweddau. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bûm yn helpu i sefydlu a hwyluso grŵp diddordeb arbennig ar gyfer therapyddion galwedigaethol sy’n gweithio yn y maes hwn, lle rydym yn darparu cymorth ymarfer, yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd, yn y pen draw i gefnogi’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
"Symudais i Ben-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar ac roeddwn wrth fy modd yn darganfod ac archwilio’r holl fannau gwyrdd bendigedig a’r ardaloedd arfordirol o amgylch y dref. Dim ond 20 munud i ffwrdd ar y trên i Gaerdydd, felly mae holl fanteision y ddinas yn agos. Mae Caerdydd yn ddinas wych gan ei bod wrth ymyl y dŵr, mae ganddi naws ddinas fawr, mae'n fodern, yn lân ac yn daclus ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth gwych ar hyd arfordir y de.
"Er ei bod yn lle amrywiol gyda llawer o wahanol ddiwylliannau rhyngwladol, mae gan Gymru hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol gref, lle mae pobl yn ymfalchïo yn eu treftadaeth Gymreig. Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac wedi fy helpu i ddeall sut i ynganu rhai geiriau Cymraeg ac enwau lleoedd. Ond gan fod pawb yn siarad Saesneg, dwi wastad wedi teimlo fy mod i’n rhan o’r sgwrs. Dwi’n cymryd gwersi Cymraeg er mwyn integreiddio’n well i’r gymuned – ond nid yw’n hanfodol siarad Cymraeg i fyw a gweithio yma.
"Mae cymaint i'w wneud os ydych chi'n caru'r awyr agored. Rwy'n mwynhau rhedeg ar hyd yr arfordir hardd neu'r llwybrau beicio, ac yn mwynhau'r awyr iach glân, sy'n fy helpu i aros yn llawn cymhelliant.
"Gan edrych tua'r dyfodol, rwy'n gobeithio cwblhau gradd Meistr mewn dibyniaeth a defnyddio sylweddau, gyda chefnogaeth fy nghyflogwr. Mae gen i sylfaen gadarn yma yng Nghymru ac rydw i wrth fy modd gyda fy swydd. Byw yn Ne Cymru fu'r penderfyniad gorau i mi yn bersonol ac yn broffesiynol."