TWL

Dr Craig Beaton

New Project 4 v2

Yn wreiddiol o Ganada, cafodd Dr Craig Beaton ei fagu yn Asia cyn dod i Gymru fel myfyriwr rhyngwladol i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd. Cwblhaodd Craig ei hyfforddiant mewn Meddygaeth Gofal Dwys ac Anestheteg yng Ngogledd Cymru

Dywed Craig:

“Gadawodd fy nheulu Ganada pan oeddwn i'n dair oed ac fe fuon ni’n symud ledled Asia yn ystod fy mhlentyndod. Pan ddaeth hi'n fater o ddewis ysgol feddygol ar gyfer fy ngradd, roeddwn i yn Hong Kong a doedd gen i ddim syniad ble i fynd. Argymhellodd fy athro Cemeg Gymru gyda balchder. Byddai ei lygaid yn pefrio wrth sôn am ei gartref yno—y bobl, y gymuned a chefn gwlad Cymru yr oedd yn amlwg yn hiraethu amdano. 

“Dilynais gyngor fy athro a dod i Dde Cymru fel myfyriwr rhyngwladol i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna cefais flas ar ofal critigol am y tro cyntaf fel meddyg blwyddyn sylfaen yng Ngogledd Cymru. Gan ei fod yn brofiad hyfforddiant mor dda arhosais arno cyhyd ag y gallwn wrth i mi ddechrau mynd ar drywydd anestheteg a meddygaeth gofal dwys. Yn ystod y broses o arbenigo, rydw i wedi cael y fraint o weithio ledled y wlad. Mae hi’n wlad amrywiol a hardd a does dim pall ar fy mwynhad o’i harchwilio. Mae gofal iechyd yn rhyfeddol o gydwladol, ond mae ein lletywyr yng Nghymru wastad wedi gwneud i ni deimlo bod croeso i ni a’n bod yn cael ein gwerthfawrogi.

“Wrth fwrw i’m hyfforddiant cefais fy nysgu’n dda gan bobl brofiadol a oedd yn amlwg yn malio ac yn mynd yr ail filltir i'm haddysgu a'm cefnogi i a’m cyd-hyfforddeion. Bellach fel ymgynghorydd byddaf yn gweithio i gynnal y traddodiad hwnnw. Mae'r swyddi sydd gennym yn cael adborth gwych. Mae gan Gymru boblogaeth ryfeddol o amrywiol, ac felly mae'r cyflwyniadau clinigol yn amrywio'n eithaf sylweddol gyda phob diwrnod yn wahanol, ac mae’r cwmpas ymarfer yn ehangu’n barhaus.  

“Mae cymaint i'w wneud oddi allan i'r ysbyty. Mae gennym gysylltiadau da â'r dinasoedd mawr a’r toreth y maent yn ei gynnig, a gallwn deithio i faes awyr Rhyngwladol mewn llai nag awr. Gan amlaf does dim angen i ni fod mewn dinas a gallwn fwynhau'r prinder traffig a’r awyr iach, ac mae cefn gwlad dafliad carreg i ffwrdd.  Mae tai yn fforddiadwy; mae gennym dÅ· a gardd gyda golygfa hardd ar gyrion tref farchnad hanesyddol. Rydyn ni wedi dod o hyd i ffrindiau triw ac ysgolion da...mi allaf feicio i'r gwaith, bwyta llysiau o'r rhandir a'i gyfnewid am frithyll ffres gan y cymydog drws nesaf. Allwn i ddim gofyn am ragor. 

“Mae hyfforddi a gweithio yng Nghymru’n wych ond cael byw yma sy'n coroni’r cwbl.” 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis