TWL

Dr Hooria Ghani

Cafodd Hooria ei geni a'i magu yn Boston, UDA ar ôl i'w rhieni ymfudo yno o Bacistan. Symudodd ei thad i America i gwblhau ei hyfforddiant patholeg fel meddyg. Roedd Hooria bob amser yn mwynhau gwyddoniaeth ac roedd yn gwybod hyd yn oed o oedran ifanc mai dyma'r llwybr gyrfa yr oedd hi am ei ddilyn.  

Dywed Hooria: 

"Pan symudais i Gymru i ddilyn fy mreuddwyd o ddod yn feddyg, dechreuais fy hyfforddiant sylfaen trwy gwblhau fy mlwyddyn sylfaen gyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yna fy ail flwyddyn sylfaen - a rannwyd rhwng Ysbyty Athrofaol Cymru a'r Ysbyty Brenhinol Gwent. Yna ymgymerais â fy hyfforddiant meddyg teulu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Thywysog Siarl yn Ne Cymru. 

"Pan gefais y cyfle i wneud Ymarfer Cyffredinol fel rhan o’m hyfforddiant sylfaen, gwelais fy mod yn mwynhau’r amrywiaeth, y gymuned a’r ymdeimlad o bwrpas yr oedd bod yn Feddyg Teulu yn ei gynnig. Felly, pan ddaeth fy hyfforddiant sylfaen i ben a bu’n rhaid i mi ddewis hyfforddiant arbenigol, penderfynais mai Ymarfer Cyffredinol oedd yr opsiwn gorau i mi ac rwy’n GPT3 ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod yn fy swydd bresennol ers mis Awst 2021, ac rwyf yn mwynhau’r gwaith a’r amgylchedd yn fawr.  

"Hyd yn hyn yn fy ngyrfa, byddwn yn dweud fy mod yn falch iawn o lwyddo i barhau gyda fy hyfforddiant tra’n magu teulu o 3 o blant bach 10, 6 a 19 mis oed. Rydyn ni i gyd yn byw yn y Rhath, Caerdydd ar hyn o bryd ac yn caru’r ardal hon yn arbennig gan ei bod yn rhan fywiog ac amrywiol iawn o’r ddinas. Rydym hefyd yn agos iawn at Barc a Llyn y Rhath, ac ar draws y ffordd o Lyfrgell a Chanolfan Gymunedol. Rwyf wrth fy modd yn mynd â’r plant i’r parc, gan ei fod yn lle mor anhygoel, diogel a gwyrdd iddynt chwarae ynddo. Mae fy ieuengaf hefyd yn chwarae criced i glwb criced iau lleol, ac mae cymaint o gyfleoedd i blant chwarae chwaraeon yn lleol.  

"Er nad oeddwn yn gwybod llawer am Gymru, ei hanes, ei hiaith a’i diwylliant cyn i mi symud yma, rwyf wedi cael y cyfle ers hynny i grwydro a dysgu am y wlad gyda fy nheulu – a wedi teithio i lefydd ym mhob rhan o Gymru lle gallwn fynd am dro tra’n mwynhau’r awyr agored Cymreig.  
 
"Rwyf yn credu bod Cymru yw un o’r lleoedd gorau yn y DU o ran harddwch naturiol, gweithgareddau awyr agored a chyfleoedd hyfforddi proffesiynol – mae’n lle hyfryd i fyw. Rwyf wedi mwynhau fy amser yn byw, yn hyfforddi ac yn gweithio yng Nghymru yn fawr iawn, yn enwedig o ystyried y cyfleoedd gweithio hyblyg sydd wedi fy ngalluogi i barhau â’m hyfforddiant a magu fy nheulu. Roeddwn hefyd yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda iawn o ran fy mhatrwm gweithio hyblyg, pe bai byth angen i mi newid fy mhatrwm gwaith oherwydd rhesymau teuluol. Mae'r rhaglen hyfforddi meddygon teulu yn dda iawn, o ran addysgu a datblygiad proffesiynol.  

"Mae cymaint o ddiddordebau a gweithgareddau hamdden i’w gwneud yma yng Nghymru gyda theulu ifanc. Gan fy mod yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, rwy'n gweld bod gan y ddinas fywiog lawer o fannau hyfryd i siopa a bwyta allan. O ran gweithgareddau i'r teulu cyfan, does ond rhaid i mi deithio awr o daith mewn car a gallaf gyrraedd draethau hardd, mynyddoedd ar gyfer heicio ac ymweld â thirnodau hanesyddol - yn dibynnu ar fy hwyliau.  

"Rwyf yn fy mlwyddyn olaf o hyfforddiant ar hyn o bryd, felly yn y dyfodol agos hoffwn fod yn Feddyg Teulu cymwys, ac yn gobeithio dal i fod yn gweithio yn ardal De Cymru, ac wrth gwrs yn treulio cymaint o amser ag y gallaf gyda fy nheulu."

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis