TWL

Dr Majd Protty

MajdProtty v2

Yn wreiddiol o Birmingham, mae Majd Protty, hyfforddai Trac Academaidd Clinigol Cymru (WCAT), yn dweud bod gweithio a hyfforddi yng Nghymru yn bodloni ei holl anghenion - academaidd, clinigol a phersonol. Mae'n bwriadu aros yng Nghymru a datblygu ei yrfa ym maes cardioleg glinigol-academaidd.

Mae'n esbonio:

“Cefais fy magu yn Birmingham ac arhosais yno i wneud fy hyfforddiant meddygol gan mod i’n nabod y lle erbyn hynny, ac roeddwn i’n hoffi bod mewn dinas fawr. Fodd bynnag, ar ôl i mi orffen ysgol feddygol yn 2013, symudais i Gymru oherwydd bod ganddi raglen sylfaen academaidd ddeniadol ac mae’n darparu ar gyfer fy niddordebau mewn cardioleg. 

“Penderfynais aros ymlaen yng Nghymru ar ôl fy mlynyddoedd sylfaen, oherwydd ei fod yn cynnig rhaglen arbenigedd clinigol academaidd rhagorol sy’n rhedeg drwodd – cynllun WCAT. Mae'r rhaglen hon yn unigryw i Gymru gan ei bod yn cludo hyfforddeion trwy hyfforddiant craidd ac arbenigol ac yn darparu cyllid ar gyfer PhD i gyfuno gweithgareddau academaidd a chlinigol. Roedd hyn yn apelio’n fawr ataf oherwydd fy awydd i symud ymlaen i fod yn arweinydd mewn meddygaeth academaidd. 

“Galluogodd strwythur y rhaglen hyfforddi unigryw hon i mi dreulio 80% o fy amser yn gweithio mewn ymarfer clinigol ar draws ysbytai yng Nghymru, ac 20% ym Mhrifysgol Caerdydd. Caniataodd hyn i mi ddilyn fy niddordebau ymchwil gyda grwpiau o safon fyd-eang a arweiniodd at ddyfarnu cymrodoriaeth nodedig GW4-CAT Ymddiriedolaeth Wellcome i ariannu fy PhD a gwblheais yn llwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2021. Mae'r cymysgedd o hyfforddiant academaidd a chlinigol yn ei hanfod yn golygu fy mod yn glinigwr sy'n dod â gwyddoniaeth o fainc y labordy i ochr y gwely a does byth eiliad ddiflas wrth wneud hynny. 

“Bydd fy rhaglen hyfforddi bresennol yn mynd â mi drwy fy ngyrfa ôl-ddoethurol hyd at lefel ymgynghorydd/uwch ddarlithydd gydag amser ymchwil penodol. Mae'r gymuned academaidd yng Nghymru yn gefnogol iawn. Fy nghynllun yw symud ymlaen i fod yn gardiolegydd academaidd gan gymryd rôl arweiniol yng Nghymru ar gyfer meddygaeth gardiofasgwlaidd glinigol-academaidd. 

“Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd, ac mae’r gefnogaeth heb ei hail. Rwy'n teimlo fy mod wedi fy nghefnogi yn fawr gan fy nghydweithwyr academaidd a chlinigol, sy'n fy nysgu ac yn fy arwain i'm helpu i gyflawni'r hyn yr wyf am ei gyflawni. Rwyf hefyd yn cael llawer iawn o gymorth gan Ddeoniaeth Feddygol AaGIC, sydd wedi bod yn hyblyg iawn ac yn hawdd mynd ato wrth ganiatáu i mi deilwra fy nghynllun hyfforddi a lleoliadau i’m hanghenion. 

“Y tu allan i waith, rwy’n teimlo bod cymaint i’w wneud yng Nghymru. Mae Caerdydd ac Abertawe yn cynnig bywyd dinesig gwych gyda bonws traethau a mynyddoedd anhygoel ar garreg eu drws. Yn fy amser i ffwrdd, rwy’n mentro allan i Ddinbych-y-pysgod, y Gŵyr neu Fannau Brycheiniog i dreulio amser gyda’r teulu i ffwrdd o fwrlwm ymrwymiadau dyddiol. Mae yna rywbeth at ddant pawb yng Nghymru yn fy marn i.” 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis