Dr Muhammad Aslam
Ysgwyddodd y Meddyg Muhammad Aslam rôl Patholegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol mewn ysbyty yng Ngogledd Cymru oherwydd ei fod yn chwilio am heriau a chyfleoedd newydd. Gyda chefnogaeth ei fwrdd iechyd, mae nid yn unig wedi trawsnewid ei adran ei hun ond hefyd wedi helpu i foderneiddio prosesau adrodd byd-eang ym maes patholeg.
Eglura Dr Aslam:
“Pan fwriais iddi gyda fy hyfforddiant meddygol ym 1995, penderfynais arbenigo mewn patholeg oherwydd roeddwn wrth fy modd gyda’r holl liwiau, y microsgopeg ac roedd y cyfuniad o gelfyddyd a gwyddoniaeth yn fy nghyfareddu. Symudais i'r DU o Bacistan yn 2001 a chwblhau fy hyfforddiant yng Nglannau Merswy lle bûm yn gweithio mewn sawl ysbyty cyn adleoli i Ddwyrain Sir Gaerhirfryn gyda fy nheulu ddeng mlynedd yn ôl. Roeddem yn hapus yn byw yn Blackburn, ond roedd angen her newydd arnaf felly fe wnaethon ni adleoli i Ogledd Cymru.
“Mae fy nhîm rheoli wedi bod yn hynod gefnogol o'r prosiectau rydw i wedi'u cyflwyno, ac rydyn ni wedi gweld newidiadau a gwelliannau mawr yn yr adran o ganlyniad. Mae fy mwrdd iechyd hefyd yn gefn i mi tra fy mod yn astudio ar gyfer MBA Gweithredwr Gofal Iechyd, gan ganiatáu i mi gymryd amser rhydd ar gyfer darlithoedd ac aseiniadau. Rwy'n mwynhau addysgu a mentora yn fawr ac maen nhw’n elfennau yr hoffwn ymwneud mwy â nhw yn y dyfodol. Cwblheais fy MBA yn llwyddiannus a chefais fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Clinigol Rheolaeth Gogledd Cymru, gan ategu gwasanaethau megis patholeg, radioleg, awdioleg, niwroffisioleg a ffiseg feddygol fel arweinydd clinigol. Bydd fy nghymhwyster o fudd mawr i mi yn ogystal â’r sefydliad a’n cleifion. Ni allwn fod wedi cyflawni hyn heb anogaeth y bwrdd iechyd a'r cyfleoedd datblygu gyrfa a gynigiwyd i mi yma.
“Rydw i wedi gweithio mewn sawl ysbyty wahanol yng Ngogledd-Orllewin Lloegr ond fy ysbyty bresennol yng Nghymru yw'r un fwyaf cefnogol a chydweithredol. Ledled Cymru mae amryw o gyfleoedd i weithio gyda byrddau iechyd eraill ar brosiectau ar y cyd, ac mae cyllid ar gyfer treialon a allai esgor ar ddatblygiadau arloesol ar gyfer gwaeleddau fel canser. Mae Cymru yn lle gwych i weithio, yn enwedig i feddygon sy’n awyddus i ymhel mwy ag ymchwil a helpu i lywio dyfodol gofal iechyd.
“Mae ein hadran batholeg yn un tra arbenigol mewn rhai ffyrdd—rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig mwy. Rydym wedi torri tir newydd gydag astudiaeth flaenllaw sy'n chwyldroi prosesau cofnodi canlyniadau patholeg, gan ddisodli sleidiau gwydr traddodiadol gyda delweddau digidol. Dyma'r tro cyntaf i'r dechnoleg newydd delweddu sleid gyfan hon gael ei threialu ledled Cymru, gyda chyfranogiad 22 o batholegwyr a chwe bwrdd iechyd. Mae’r math hwn o brosiect heb ei debyg yng ngweddill y DU ac o bosibl drwy’r byd. Bydd yn gwella gwasanaethau i feddygon, byrddau iechyd a chleifion os caiff y ffordd newydd hon o adrodd ei mabwysiadu ar draws y sector. Nawr mae'r adran yn gweithio'n weithredol ar gyflwyno AI (deallusrwydd artiffisial), i wella ansawdd y broses adrodd a hybu effeithlonrwydd y system.
“Byddwn yn bendant yn argymell Cymru i feddygon eraill fel lle gwych i weithio a lle gwych i fyw. Mae golygfeydd eithriadol o hardd yng Ngogledd Cymru yn arbennig, ac mae modd ichi feithrin bywyd gwerthfawr yma. Ar y penwythnosau, mae fy ngwraig a minnau'n mynd â'n meibion i gerdded a beicio, neu rydyn ni'n mynd i weld golygfeydd oherwydd eu bod mor anhygoel. Mae'n wych i deuluoedd yma, mae yna lu o gyfleoedd gwahanol. Mae'r cydbwysedd rhwng bywyd teuluol a gwaith yn dda hefyd. Rydw i wedi cynnig hyblygrwydd i'm tîm ac mae rhai ohonynt yn gweithio gartref ar liniadur sy’n eu helpu i ymdopi ag ymrwymiadau gofal plant. Mae'n bwysig cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac mae’n beth ardderchog bod y bwrdd iechyd a GIG Cymru yn rhoi'r adnoddau i chi gyflawni hyn.â€