TWL

Dr Ravikiran Shetty

Mae Dr Ravikiran Shetty yn feddyg teulu cymwysedig sy'n gweithio yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. Yn wreiddiol o Dde India, symudodd Ravikiran i Gymru i anturio bywyd dramor a mwynhau llwybr gyrfa a chefnogaeth dda iddo. Mae bellach wedi ymgartrefu yma gyda'i deulu ifanc ac mae ganddo'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yr oedd wastad wedi dyheu amdano.

Eglura Dr Shetty:

“Cwblheais fy hyfforddiant meddygol mewn Prifysgol yn India yn 2000 ac roeddwn yn parhau â'm hastudiaethau ôl-raddedig pan benderfynais yr hoffwn danio fy ngyrfa yn rhywle hollol newydd. Roedd ffrind i mi wedi symud i Gymru ac wedi sôn wrthyf fi am y cymorth adleoli a oedd ar gael yno. Symudais yma yn 2005 gan gymhwyso fel meddyg teulu yn 2010, ac rydw i wedi bod yma byth ers hynny. 
  
“I ddechrau, cwblheais ddiploma ôl-raddedig mewn Offthalmoleg ac yna penderfynais barhau â'm gyrfa yng Nghymru a gwneud cais am swydd Ymarfer Cyffredinol. Ers cymhwyso, mae fy ngwraig a minnau wedi dechrau teulu. Rydw i wedi bod yn ffodus o gael hyblygrwydd gwaith, sy'n golygu bod modd imi lywio llwybr fy ngyrfa o amgylch fy mlaenoriaethau allgyrsiol. 

“Un o'r pethau gorau am hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru yw'r amrywiaeth gynhwysfawr o gyrsiau DPP sydd ar gael i hyfforddeion a’r cymorth ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Rydw i wedi cwblhau nifer o gymwysterau ychwanegol, gan gynnwys MRCSEdn mewn Offthalmoleg, Diploma mewn Meddygaeth Geriatrig a Diploma mewn Obstetreg a Gynaecoleg. Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u teilwra i’m llwybr astudio dewisol, ac mae wedi bod yn anhygoel archwilio'r pethau sydd o ddiddordeb mawr i mi a darganfod gyrfa sy'n gweddu i mi. 

“Yng Nghymru, mae ysbryd cymunedol go iawn a diwylliant lle mae sgiliau a gwybodaeth yn cael eu rhannu'n agored. Yn ystod fy chwe mis cychwynnol yn gweithio yng Nghymru, roedd y staff o'm cwmpas mor gymwynasgar ac agos-atoch; roeddwn i'n teimlo'n gartrefol iawn ac roedd wir yn fy nghymell i ganlyn fy ngyrfa yma. Ers hynny, mae cyngor a chymorth wedi bod wrth law, a chyda'r cymorth hwn rydw i wedi adeiladu portffolio rydw i’n falch iawn ohono. 

“Y rheswm pennaf dros symud i Gymru yn fy achos i oedd y cyfle i fyw mewn gwlad groesawgar a chefnogol. Mae Cymru’n gwireddu’r dymuniad hwn ac yn cynnig llawer o fanteision eraill o ran ffordd o fyw, gan gynnwys gweithgareddau hwyliog ac ymlaciol sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd ifanc. Mae cyfle hefyd i adeiladu gyrfa lwyddiannus yng Nghymru gyda chefnogaeth ddi-ben-draw i’ch hannog ar hyd y daith. Byddwn yn argymell yn gryf i’r rhai sydd am gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa feddygol i roi Cymru ar frig eu rhestr. 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis