TWL

Dr David Moore

DavidMoore v2

Fel meddyg teulu sefydledig, penderfynodd David Moore a'i wraig symud i Gymru i chwilio am y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yr oedd y ddau wedi breuddwydio amdano. Bellach yn gweithio mewn practis pentref yn Llanidloes, mae David yn dweud mai dyma'r penderfyniad gorau y mae wedi'i wneud erioed.

Mae'n esbonio:

Yn yr ysgol, gwyddoniaeth oedd fy mhwnc cryfaf, felly fe wnaeth fy athrawon fy annog i astudio ymhellach yn y maes hwn. Ar y pryd, roedd dod yn feddyg yn cael ei ystyried yn binacl, o ran gyrfa. Roedd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud.

Es i ysgol feddygol ym Manceinion a mwynheais ochr ymarferol fy hyfforddiant yn arbennig. Yn benodol, cefais lawer o foddhad o weld effeithiau'r gofal a roddais i gleifion yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac fel meddyg teulu.

Roeddwn eisoes yn feddyg teulu cymwysedig pan benderfynodd fy ngwraig a minnau symud i Gymru. Ein prif gymhelliant dros ddewis Cymru oedd y cyfle i fyw bywyd gwledig clasurol. Mae cael cartref gwledig hyfryd, bod o gwmpas anifeiliaid a chael yr holl fanteision eraill o fyw yn y wlad yn apelio atom.

Roedd prisiau eiddo hefyd yn rhan fawr o’n penderfyniad i fyw yng Nghymru. Pan fyddwch yn ychwanegu hyn at y mannau gwyrdd hardd a’r ysbryd cymunedol anhygoel, mae Cymru’n ticio’r blychau i gyd.

Yn fy mywyd gwaith, rwyf wedi fy synnu gan faint o ymreolaeth a gaf yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi cael ei chynnig yma yn anhygoel. Er enghraifft, mae fy mhractis yn elwa o allu dibynnu ar Gydymaith Meddygol sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi a’m cydweithwyr. Byw a gweithio yma yw'r peth gorau i mi ei wneud erioed.

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis