TWL

Dr Peter Saul

Yn wreiddiol o Lerpwl, mae Doctor Peter Saul, wedi byw a gweithio fel meddyg teulu ledled Cymru am y 30 mlynedd diwethaf. Mae Peter bellach yn gweithio’n rhan-amser fel Meddyg Teulu i Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru ym Mhractis Beech Avenue ger Wrecsam ac mae hefyd yn mentora’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yng Nghaerdydd o dan ei rôl AaGIC (deoniaeth feddygol). Mae gwaith rhan-amser yn caniatáu iddo ffitio'r swydd y mae'n ei charu o amgylch ei hobi o hedfan awyrennau ysgafn.

“Ces i fy ngeni yn Lerpwl lle ro’n i’n byw am hanner cyntaf fy mywyd, ond mae gan fy mam wreiddiau Cymreig. Daw ei theulu o Bowys yn y canolbarth a dyna lle y dechreuodd fy hoffter o Gymru. Roedd y dewis i orffen fy hyfforddiant meddyg teulu yng Nghymru, man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwlad o harddwch naturiol di-ben-draw, yn amlwg iawn i mi.

“Rwyf bellach wedi gweithio a byw yma ers 30 mlynedd a’r ymdeimlad cryf o gymuned, personoliaethau heintus a diwylliant Cymreig nodedig sy’n fy nghadw’n gadarn yma. Efallai y bydd rhai yn dadlau nad yw'r Gwasanaeth Iechyd presennol yma yn berffaith. Ond wedyn beth yw Gwasanaeth Iechyd? I mi, mae’n ymwneud yn fwy ag ysbryd cydweithredu a chostau byw fforddiadwy, yn gymysg â’r cydbwysedd cywir rhwng diwylliant a chyfleusterau gwledig a dinesig sy’n gwneud Cymru yn lle mor arbennig i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.

“Mae gweithio yn sector iechyd Cymru hefyd yn rhoi hyblygrwydd a dewis gwych, beth bynnag fo’ch cyfnod gyrfa. Ar ôl 30 mlynedd, rydw i nawr yn ddigon ffodus i weithio fel meddyg teulu rhan amser mewn practis lled-wledig ger Wrecsam. Mae hyn yn fy ngalluogi i briodi'r swydd bob dydd gyda fy angerdd dros hedfan awyren ysgafn. Rwy’n hedfan allan o Faes Awyr y Trallwng lle gallaf fwynhau golygfeydd Cymreig gwych o’r awyr yn ogystal â’r ddaear, pan fydd fy nhraed yn gadarn ar y ddaear. Fodd bynnag, mae’n hawdd dod o hyd i fannau prydferth i feicio gyda’r mynyddoedd a glan y môr yn gymharol agos, a gallaf feicio i’m practis ar ddiwrnodau nad wyf ar alwad.

“Mae bod wedi’ch lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig y gorau o ddau fyd – mynediad llawn i gefn gwlad hyfryd Cymru, yn ogystal ag agosrwydd at ddinasoedd mawr Lerpwl a Manceinion. Os ydw i wir eisiau dianc, mae maes awyr Manceinion 55 munud i ffwrdd mewn car. Ond wedyn pam fyddwn i eisiau gwneud hynny?”

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis