TWL

Bryony Barnacal

Bryony Split 1

Ganed Bryony yn Swydd Gaerloyw, Lloegr cyn symud i Abertawe, Cymru yn 18 i fynd i Brifysgol. Er iddi astudio Ffotonewyddiaduraeth yn wreiddiol, ysgogodd taith i India  newid gyrfa, ac felly dechreuodd ei thaith i ddod yn fydwraig. Mae Bryony bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin gyda’i gŵr a’i phlant ac yn gweithio fel bydwraig y gymuned leol.

Dywed Bryony:

"Dechreuais  astudio ffotonewyddiaduraeth, ond penderfynais newid fy llwybr gyrfa gan fy mod yn teimlo nad oedd fy newis gwreiddiol yn rhoi'r cyfle i mi helpu pobl cymaint ag yr oeddwn yn dymuno. Yna dargangyddais fy ngwir angerdd mewn bywyd sef bydwreigiaeth.

"Yn 2013 penderfynais ymgeisio i astudio i fod yn fydwraig ym Mhrifysgol Abertawe a chymhwysais yn 2017. Yna dechreuais weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan dreulio fy mlwyddyn gyntaf yn gweithio yn yr ysbyty, cyn mynd allan i'r gymuned. Rwy’n mwynhau’r agwedd addysgol ar fy ngwaith yn arbennig, gan fy mod yn gallu grymuso pobl a gwneud newidiadau cadarnhaol tuag at eu hiechyd, ac iechyd eu babi.

"Roedd canolbwyntio ar iechyd y gymuned leol yn union beth yr oeddwn am ei wneud gyda fy ngyrfa, ond fel bydwraig gymunedol newydd gymhwyso ac ymarferydd ymreolaethol, roedd yn ychydig yn anodd i ddechrau - gan fod yn rhaid i mi wneud yr holl benderfyniadau fy hun, gyda chefnogaeth cydweithwyr. Fe wnes i hyn am flwyddyn ac roeddwn i wrth fy modd gyda'r profiad, wrth gefnogi menywod trwy gydol eu taith beichiogrwydd, ac mae cwrdd â'u babanod ar ôl iddynt gael eu geni yn deimlad o foddhad mawr.

"Yn dilyn genedigaethau fy mhlant  yn 2019 a 2021, penderfynais gymryd swydd yn agosach at adref yn fy nghymuned leol. Ar yr un pryd roeddwn yn ffodus iawn i gael cymorth ariannol gan y bwrdd iechyd i ymgymryd â rhaglen arweinyddiaeth gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM). Roeddwn yn gwerthfawrogi’n fawr sut y buddsoddodd fy nghyflogwr ynof i helpu i ddatblygu fy ngyrfa ac yn teimlo y bydd yr addysg ychwanegol hon yn datblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau i ddod yn arweinydd tîm yn y dyfodol.

"Rwyf hefyd wedi gallu meithrin rhwydweithiau a pherthynas werthfawr â bydwragedd eraill o bob rhan o Gymru fel rhan o  raglen . Mae wedi bod yn brofiad anhygoel ac wedi adeiladu ar yr hyn rwy’n ei fwynhau am fod yn fydwraig gymunedol, yn ogystal â datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth.

"Er cefais fy magu yn Lloegr yn wreiddiol, roeddwn wrth fy modd ag ardal Abertawe pan symudais yno i astudio yn y brifysgol, ac yn wrth fy modd pa mor agos oedd hi at y traeth a’r bywyd cymdeithasol anhygoel. Unwaith i mi symud i Abertawe, roeddwn i wir yn teimlo effeithiau cadarnhaol byw yng Nghymru a byth eisiau gadael. Nid yn unig oherwydd bod ganddi rai o'r traethau gorau yn y DU, mae ganddi hefyd bobl hynod gyfeillgar,a  llawn ysbryd cymunedol.

"Os ydych chi'n caru'r awyr agored, nid yn unig mae gennych chi'r traethau, ond mae gennych chi hefyd gefn gwlad a mynyddoedd anhygoel, sy'n wych i  archwilio gyda’r teulu. Roedd fy rhieni yn caru Cymru gymaint pan ddaethant i ymweld, maent bellach wedi symud yma ac ond yn byw 12 munud i ffwrdd erbyn hyn. Er ein bod yn mwynhau cefn gwlad, mae dinas fawr Abertawe ar garreg ein drws, gyda phrifddinas Caerdydd awr yn unig i ffwrdd.

"Rwyf wedi canfod bod pawb yn wirioneddol gefnogol i fy nodau a’m dyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol, ac rwyf wedi cael fy nghefnogi tuag at bopeth rwyf wedi dymuno ei gyflawni’n broffesiynol – sydd wedi fy helpu i feithrin fy hyder wrth ddatblygu fy ngyrfa.

"Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio cwblhau fy ngradd Meistr a dod yn arweinydd tîm, a bu'n rhaid i mi oedi ychydig oherwydd y pandemig a chanolbwyntio ar fy mhlant. Ond gan fod gennym ni gysylltiadau proffesiynol mor dda â’r prifysgolion, gwn y gallaf fynd yn ôl a’i gwblhau pan fyddaf yn barod.

"Yn bersonol, byddwn i wrth fy modd yn prynu mwy o dir er mwyn i mi allu cael mwy o anifeiliaid. Rwy'n meddwl bod dysgu plant am gynaliadwyedd ac o ble y daw eu bwyd yn sgil bwysig i'w ddysgu, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad o fod  yn hunangynhaliol.

"Byddwn yn argymell Cymru yn llwyr i unrhyw un sy'n ystyried hyfforddi neu weithio fel bydwraig. Rydym mor ffodus yng Nghymru, gan ein bod yn genedl fach ac yn gallu cynnig y math o brofiad a hyfforddiant personol i fyfyrwyr sydd eu hangen ar fydwraig go iawn.

"Er na chefais fy magu yng Nghymru, ni fyddwn byth  eisiau gadael yma a gobeithio y byddaf yma am weddill fy oes!"

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis