TWL

Kirsty Pomeroy

Kirsty Pomeroy

Mae Kirsty Pomeroy yn Nyrs Practis o Dde Cymru. Ar ôl symud yn ôl i Gymru o Gyprus i fod yn nes at ei theulu, mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau yn y wlad y mae’n ei charu.

Mae hi'n esbonio:

“Rwy’n dod yn wreiddiol o Dde Cymru a phenderfynais gwblhau fy rhaglen nyrsio cyn cofrestru yno hefyd oherwydd roeddwn yn gwybod bod GIG Cymru yn cynnig cyfleoedd dysgu gydol oes. Ar ôl cymhwyso yn 2012, fe wnes i ddewis symud i Gyprus a gweithio fel nyrs yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Penderfynodd fy ngŵr a minnau symud yn ôl i Gymru dair blynedd yn ddiweddarach i setlo i lawr, a dechreuais weithio fel nyrs gymunedol.

“Fy rôl bresennol yw Nyrs Practis o fewn Practis Meddyg Teulu ym Mhontypridd, De Cymru. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau gwahanol yn ystod ac ar ôl fy hyfforddiant, ond mae’n wych bod mewn practis lleol lle mae’r gwaith yn hyblyg i weddu i’m hanghenion. Rwyf wedi cael fy nghefnogi gyda fy natblygiad proffesiynol er mwyn i mi allu datblygu fy ngyrfa ar y cyflymder y dymunaf yn ogystal â bodloni fy ngofynion ailddilysu NMC.

“Fe wnaeth gweithio yng Nghyprus fy ngwthio y tu allan i’m parth cysurus a dysgais sut i ddelio â staff a chleifion lle’r oedd y rhwystr iaith yn anodd ei reoli ar y dechrau. Mae gofal iechyd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn seiliedig ar egwyddorion y GIG ac mae’r profiad hwn wedi bod o fudd i’m hyder a’m set sgiliau ers symud yn ôl i Gymru.

“Mae bod mewn practis meddyg teulu llai yn wahanol i amgylchedd ysbyty mwy ac rydw i wrth fy modd. Mae yna ymdeimlad o gymuned a pherthyn, ac nid yw’r dysgu byth yn dod i ben. Yr elfen fwyaf buddiol o weithio yng Nghymru yw’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith nad yw bob amser wedi bod ar gael i mi. Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mynd â’m cŵn am dro hir ar draws mynyddoedd gwych Bannau Brycheiniog ac yn gwneud y gorau o’r dirwedd hardd o’n cwmpas; mae'n antur wych.

“I mi, mae ymarfer yng Nghymru wedi rhoi rhyddid i mi. Mae'r cyfleusterau yma heb eu hail ac mae pawb yn cael y cyfle i ddilyn gyrfa amrywiol gyda chyfleoedd i symud ymlaen. Os ydych chi am weithio mewn cymuned gyfeillgar lle mae amgylchedd dysgu bywiog, byddwn yn bendant yn argymell dewis Cymru fel eich cam nesaf.”

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis