Swyddi yng Nghymru
Swyddi GIG yng Nghymru
Sicrhewch y cyfle i barhau â thraddodiadau'r GIG yng ngwlad ei eni, gan weithio gyda chyfleusterau modern gyda chefnogaeth, a chael dylanwad mawr ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
Swyddi gan Broffesiwn
Gallwch weld pob swydd wag ar wefan Wales Health Jobs UK .
GIG Cymru
Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau lleol drwy Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Mae pob un yn cael ei redeg fel sefydliad ar wahân. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob un ar eu gwefannau isod.
Byrddau Iechyd GIG Cymru
Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd priodol, gyda phob Bwrdd Iechyd yn cael ei redeg fel sefydliad ar wahân. Gallwch ddod o hyd i ragor am bob Bwrdd Iechyd unigol drwy'r dolenni canlynol: -
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Ymddiriedolaethau GIG yn gofalu am wasanaethau Iechyd y Cyhoedd, Ambiwlans, Canser a Gwaed.
Mae yna hefyd nifer o sefydliadau awdurdod iechyd arbenigol sy'n cefnogi GIG Cymru.
Mae gan rai sefydliadau Cymru gyfan rolau mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru, yn hytrach nag mewn un ardal.
Sefydliadau Cymru Gyfan
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Mae gan rolau mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a phlant yng Nghymru wefan benodol Gofalwn.cymru.