Nyrsio a Bydwreigiaeth
Cynnal y gorffennol a llunio'r dyfodol
Pan sefydlodd Aneurin Bevan y GIG ym 1948, gwnaeth hynny ar egwyddorion mynediad cyfartal a bod y gwasanaeth yn seiliedig ar angen, nid ar y gallu i dalu.
Drwy ddatblygu eich gyrfa yng Nghymru, byddwch yn gallu parhau traddodiadau hyn a helpu i lunio dyfodol eich proffesiwn.
Mae Cymru wedi lansio ei gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer y dyfodol - Gofal Mamolaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi bydwragedd i ddarparu gofal o ansawdd a phrofiadau sy'n canolbwyntio ar y teulu, wrth weithio a hyfforddi yn aml-broffesiynol i ddatblygu gwasanaethau diogel ac effeithiol.
Byddwch yn elwa ar lefelau staffio gwell
Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno deddfwriaeth sy'n diogelu lefelau staff nyrsio - gan sicrhau y bydd nyrsys yn cael amser i ofalu'n sensitif am gleifion.
Disgwylir i bob uned famolaeth yng Nghymru gydymffurfio â system ‘Birth-rate plus’ - gan sicrhau bod y nifer priodol o fydwragedd ar gael i'r merched sy'n derbyn gofal.
Un gyrfa, sawl llwybr
Mae gyrfa yng Nghymru yn llawn posibiliadau. Gall bydwragedd symud ymlaen i fod yn fydwragedd arbenigol, ymgynghorwyr a phenaethiaid rolau bydwreigiaeth. Gall nyrsys symud ymlaen i rolau arbenigol nyrsys clinigol, ymarferwyr nyrsio uwch a nyrsys ymgynghorol. Gallwch hefyd ddilyn llwybrau arwain, yn amrywio o arwain ward neu dîm i uwch swyddi.
Oriau hyblyg sy’n addas i’ch teulu
Trwy weithio yng Nghymru, gallwch fanteisio ar amrywiaeth o drefniadau gweithio newydd i’ch helpu i drefnu eich gwaith o gwmpas eich bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, cynlluniau talebau gofal plant, mentrau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleusterau gofal plant ar y safle.
Cael cefnogaeth wrth adleoli
Os ydych am ddod i Gymru i weithio o wlad wahanol, gall ein byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau gynnig amrywiaeth o becynnau adleoli i'ch helpu chi a'ch teulu i ymgartrefu mor ddidrafferth phosibl.
Gweithio hyblyg sy'n addas i'ch teulu
Rydyn ni'n croesawu nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sydd am ddychwelyd i’r proffesiwn.
Mae bwrsariaeth o £1,000 ar gael ar gyfer nyrsys, ymwelwyr iechyd a nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol, sy'n hyfforddi yng Nghymru. Mae bwrsariaeth o £1,500 hefyd ar gael i fydwragedd sy'n dilyn cwrs dychwelyd i ymarfer yng Nghymru.
Eisiau darganfod mwy? Lawrlwythwch ein llyfryn isod:
Angen mwy o wybodaeth neu oes gennych gwestiwn penodol?
Cyflwynwch ymholiad yma.
Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.