Yng Nghymru, mae trawsnewid addysg a datblygiad fferyllol wedi hen ddechrau. Rydym yn arwain y ffordd mewn ymateb i ddiwygiadau mawr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), gyda modelau datblygu nodedig, gyda sicrwydd ansawdd ar gyfer fferyllwyr dan hyfforddiant, fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru, uwch ymarferwyr ac ymarferwyr ymgynghorol.
Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i fodloni disgwyliadau cynyddol graddedigion ac anghenion hirdymor GIG Cymru. Mae’r model amlsector unigryw yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu fferylliaeth hyblyg, gyda’r sgiliau a’r cymhwysedd, i ddefnyddio eu harbenigedd meddyginiaethau gwerthfawr yn gynyddol, yn yr ystod lawn o leoliadau gofal iechyd a chyflawni gweledigaeth Cymru Iachach.
“Gan mai Cymru oedd y wlad gyntaf i gynnig rhaglen hyfforddiant sylfaen amlsector i fferyllwyr dan hyfforddiant, dychwelais i Gymru i ddechrau fy ngyrfa.”
Sam, Fferyllydd Ysbyty
Yng Nghymru, mae ein rhaglen cylchdroi hyfforddiant amlsector unigryw, yn darparu tri lleoliad hyfforddi 4 mis i chi mewn fferyllfa gymunedol, practis meddyg teulu ac ysbyty. Mae hwn yn golygu y byddwch yn datblygu’r sgiliau, y profiad a’r hyder i weithio mewn unrhyw amgylchedd fferyllol.
Ble bynnag y byddwch yn hyfforddi yng Nghymru, bydd gennych un cyflogwr am gyfnod eich rhaglen hyfforddi. Mae hyn yn golygu mai dim ond un contract y bydd angen i chi ei lofnodi ar gyfer eich rhaglen hyfforddi a chael profiad pontio di-dor rhwng swyddi. Byddwch hefyd yn cael atebion cyflym a chyson i’ch ymholiadau, llai o gymhlethdod gyda’r Dreth a’r Yswiriant Gwladol a dalwch, a byddwch yn gallu manteisio ar gynllun Aberthu Cyflog y GIG a phecynnau Buddion Cyflogeion eraill sydd ar gael i weithwyr GIG Cymru.
Fel hyfforddai yng Nghymru, bydd eich profiad wedi’i gydlynu’n dda a bydd eich cynnydd yn cael ei fesur yn wrthrychol. Byddwch yn elwa o gael goruchwyliwr dynodedig ym mhob sector ymarfer, a fydd yn rhannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u harbenigedd mewn amgylchedd cyfeillgar a gwerth chweil.
Fel rhan o garfan o dros 100 o fferyllwyr dan hyfforddiant, mae gan Gymru grŵp cyfoedion gweithgar a bywiog. Byddwch yn dod i adnabod eich timau ar draws y gwahanol sectorau ymarfer yn ogystal â’ch cyfoedion yn eich sesiynau hyfforddi oddi ar y safle - gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu, rhwydweithio a chymdeithasu.
Mae Cymru’n cynnig dewis rhagorol o gyfleoedd hyfforddi sefydledig, o ansawdd, wedi’u strwythuro’n dda ac yn berthnasol. Byddwch hefyd yn cael cymorth gyrfa, hyd at ac ar ôl i chi gofrestru fel gweithiwr fferyllol proffesiynol, oherwydd yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) cymaint â chi.
Yng Nghymru, mae pob fferyllydd dan hyfforddiant yn cwblhau Achrediad Gwasanaethau Clinigol Cenedlaethol (NCSA) fel rhan o’u hyfforddiant, sy’n golygu y gallwch ddarparu’r holl wasanaethau clinigol cenedlaethol, os byddwch yn dewis trosglwyddo’n uniongyrchol i ymarfer cymunedol.
Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, mae llawer o gyfleoedd hefyd, trwy gyflogwyr lleol, i ymgymryd â’n Rhaglen Sylfaen Ôl-gofrestru a ariennir yn ganolog. Mae’r rhaglen yn cefnogi fferyllwyr sydd newydd gofrestru i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau, i ymarfer yn hyderus mewn unrhyw sector, ar Lefel Sylfaen Ôl-gofrestru cyffredinol. Mae’n darparu amser datblygu gwarchodedig i feithrin hyder a chymhwysedd wrth ymarfer, y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru fel fferyllydd, gyda chymorth ymarferwyr profiadol. Mae’n pontio’r cyfnod ar gyfer cofrestreion newydd, hyd nes y bydd y safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Fferyllwyr (IETP) newydd wedi’u gweithredu’n llawn (Gorffennaf 2026) ac mae’n cynnwys cyflawni statws Rhagnodi Annibynnol.
Mae opsiynau datblygu yng Nghymru yn cynnwys cyfleoedd i hyfforddi ar ein WCLTF sydd, yn rhaglen hyfforddiant ôl-gofrestru un flwyddyn ar gyfer fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnig y cyfle unigryw ar gyfer hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth a rheoli glinigol. Nod y cynllun yw recriwtio a datblygu darpar arweinwyr clinigol y dyfodol a rhoi iddynt yr ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i fod yn arweinwyr credadwy a dylanwadol mewn GIG modern yn y dyfodol.
Yng Nghymru, mae trawsnewid addysg a datblygiad fferyllol wedi hen ddechrau. Rydym yn arwain y ffordd mewn ymateb i ddiwygiadau mawr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), gyda modelau datblygu nodedig, gyda sicrwydd ansawdd ar gyfer fferyllwyr dan hyfforddiant, fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru, uwch ymarferwyr ac ymarferwyr ymgynghorol.
Fel gweithiwr fferyllol proffesiynol yng Nghymru, mae mynediad i ystod o adnoddau dysgu hunangyfeiriedig gan gynnwys pecynnau e-ddysgu, fideos, podlediadau a ‘fflach ffeithiau fferylliaeth” sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich ymarfer proffesiynol a’ch datblygiad proffesiynol parhaus – pob un ohonynt yn rhad ac am ddim.
“Mae cael cefnogaeth timau deinamig a chael eich amgylchynu gan olygfeydd arfordirol godidog, yn gwneud bod yn fferyllydd yng Nghymru yn ddewis hawdd.”
Reem, Fferyllydd, Meddygfa
Mae Cymru’n genedl fach, blaengar a chyfeillgar a thrwy weithio yma gallwch ymgymryd â rolau sy’n caniatáu mynediad i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol, fel y gallwch chi helpu Cymru i lunio dyfodol y gwasanaethau a ddarperir gennych.
Mae swyddi fferyllwyr mewn amrywiaeth o sectorau a lefelau, ar gael ledled Cymru. Rydym yn gweld cynnydd mewn swyddi fferylliaeth newydd mewn gofal sylfaenol, gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd mewn gofal eilaidd a llawer o rolau ysgogol mewn fferylliaeth gymunedol. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau y bydd pob fferyllydd mewn rolau clinigol ym mhob sector yn gallu hyfforddi a defnyddio eu sgiliau fel rhagnodwyr annibynnol, mewn lleoliadau cymunedol, practis cyffredinol a Byrddau Iechyd.
Yng Nghymru, rydym wedi cydgysylltu technoleg ar draws saith Bwrdd Iechyd cwbl integredig, sy’n golygu bod gennych fynediad at gofnodion meddygol practis cyffredinol ble bynnag yr ydych yn ymarfer. Mae hyn yn eich galluogi i weithio gyda gwybodaeth gywir a chyfredol, i ddarparu’r gofal gorau posibl.
Yng Nghymru, mae datblygiad proffesiynol parhaus wedi’i wreiddio mewn ymarfer ym mhob sector, gyda chyfleoedd a ariennir yn ganolog i’r rheini sy’n adeiladu portffolios lefel uwch ac ymgynghorol.
Bydd gennych ragolygon cyflogaeth rhagorol ar ôl i chi gymhwyso, pa bynnag sector neu rôl a ddewiswch, gan roi cyfle i chi roi eich arbenigedd ar waith. P’un a yw’n defnyddio’ch sgiliau clinigol i dderbyn atgyfeiriadau gan bractisau cyffredinol, mwynhau cydweithredu ffurfiol â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, neu ddefnyddio’ch sgiliau pobl i ddarparu gwasanaethau clinigol newydd, fel fferyllydd yng Nghymru. Bydd y cyfraniad sylweddol a wnewch at iechyd poblogaeth Cymru yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Fel fferyllydd yng Nghymru, byddwch yn gallu helpu eich technegwyr fferyllol a staff cymorth i gyrraedd eu llawn botensial, trwy eu cefnogi i wella eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau, i ymarfer yn ddiogel mewn unrhyw sector mewn gwasanaethau clinigol trwy fodilwau hyfforddiant seiliedig ar waith. Mae staff sy’n ymgymryd â rolau sydd ar frig eu cymhwysedd yn golygu y bydd gennych yr amser i wella’r gwasanaethau yr ydych yn eu darparu ac iechyd y rhai yn eich cymuned.
Darganfyddwch pam mae cymaint yn dewis hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Ewch i ein hadnoddau allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Darganfyddwch pa gyfleoedd DPP o ansawdd uchel sydd ar gael a sut i wneud cais yma.
Mae Deoniaeth Fferylliaeth, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi addysg a hyfforddiant cyn cofrestru ac ôl-gofrestru ar gyfer y gweithlu fferyllol cyfan yng Nghymru.
Mae Caerdydd yn dod i’r amlwg fel un o brifddinasoedd mwyaf egnïol Ewrop, mae Caerdydd yn cynnig siopa o’r radd flaenaf, bwyd arbennig a pharciau sydd wedi’u cadw’n dda a’r holl fanteision eraill y byddech chi’n eu disgwyl o fyw trefol fodern. Mae Casnewydd yn ddinas a adnewyddwyd gan fuddsoddiad, mae Abertawe yn apelio gyda’i maestrefi traeth ac mae gan dref farchnad Wrecsam adeiladau hanesyddol tra hefyd yn borth i Ogledd Cymru.
O arfordir byd-enwog Gŵyr yn y de, i Benrhyn Llŷn prydferth ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd, mae Cymru yn gartref i lawer o draethau gorau’r DU — mae pob un yn hygyrch ar hyd llwybr arfordirol parhaus o 870 milltir sy’n datgelu cildraethau, pentiroedd a baeau llawn bywyd gwyllt.
Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Ond ble bynnag yr ewch, mae natur o’ch cwmpas chi. O fynyddoedd anhygoel i gymoedd afonydd dramatig, traethau gwag i gopaon clogwyni garw, mae’r dirwedd naturiol yn cynnig cefndir trawiadol p’un a ydych mewn hwyliau am antur, yn edrych i ymlacio neu’n dilyn eich trefn ddyddiol
Mae cestyll yn diffinio tirwedd Cymru cymaint â’n bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae 641 o gestyll i gyd — rhai trawiadol, yn llawn hud a lledrith chwedlau — pob un yn cynnig cipolwg i’r gorffennol a’r cyfle i chi archwilio’r chwedlau o fewn eu waliau. Wrth fynd yn ôl hyd yn oed ymhellach, mae dwsinau o safleoedd cynhanesyddol i’w gweld hefyd, gan gynnwys rhai o’r rhyfeddodau Neolithig sydd wedi’u cadw orau yn y DU.
“Mae gan Gymru hefyd ddigonedd o lefydd i fynd â’m cŵn am dro, mwynhau cefn gwlad neu ymweld â dinasoedd prysur. Yr arfordir yw fy hoff beth, gan fod gan Gymru filltiroedd a milltiroedd o draethau godidog i’w gweld, gyda digonedd o fywyd gwyllt hefyd.”
Dhimant, Fferyllydd
Am fwy o ysbrydoliaeth, porwch ein tudalen Fyw i weld pam yng Nghymru, nid yn unig rydym yn cynnig gyrfa, rydym yn cynnig ffordd o fyw.
Tudalen BywMae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.
I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis