Mae'r GIG yng Nghymru yn ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i chi. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus ar draws ystod eang o lwybrau, sy'n cwmpasu popeth o hyfforddiant yn y gweithle i gyrsiau ôl-gofrestru arbenigol. Mae Cymru yn lle nad yw'r dysgu byth yn dod i ben, lle mae sgiliau a gwybodaeth yn cael eu rhannu'n agored, arloesedd yn cael ei groesawu a bod eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Gall bydwragedd sydd newydd gymhwyso elwa o'n rhaglen tiwtoriaeth Cymru gyfan. Bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich profiad ym mhob maes ymarfer. Cefnogir bydwragedd drwy gydol eu gyrfa gan y goruchwyliwr clinigol ar gyfer fframwaith bydwragedd. Mae hyn yn darparu goruchwyliwr, goruchwyliaeth grŵp a chefnogaeth un i un i bob bydwraig ar gyfer cyfleoedd myfyrio a dysgu ar y cyd.
Yng Nghymru, rydym wedi cynnal bwrsariaeth y GIG ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn anfon neges glir am faint rydym yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau cynadledda a llyfrgell ardderchog a reolir gan dîm ymroddedig o staff profiadol.
“Roedd penderfynu ar hyfforddi i fod yn nyrs yn fy ngalluogi i gymryd rhan mewn gyrfa lle teimlaf fy mod yn gwneud gwahaniaeth, tra’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a theimlo’n wirioneddol fy mod i’n helpu pobl”
Arwel, Nyrs Staff
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i addysgu ei holl nyrsys a bydwragedd i lefel graddedigion. Felly nid oes unman yn cymryd eich datblygiad proffesiynol mor ddifrifol â ni. Mae ein hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael ei gydnabod ledled y byd.
Rydym yn ariannu'r Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC), i ddatblygu gallu ymchwil o fewn y gweithlu nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae'r fenter yn rhoi cyfle i ymchwilwyr newydd a phrofiadol ym maes nyrsio a bydwreigiaeth, gael cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil sydd wedi'u cynllunio i lunio dyfodol y proffesiwn.
Mae sawl sefydliad addysg uwch yng Nghymru wedi'u cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant cyn ac ar ôl cofrestru. Drwy ddewis hyfforddi yng Nghymru, gallwch gael mynediad i bob maes nyrsio a bydwreigiaeth - mae'r dewisiadau'n wirioneddol ysbrydoledig. Fel nyrs sydd newydd gymhwyso gallwch ddewis y lleoliad clinigol yr hoffech ddechrau eich gyrfa nyrsio ynddo – gyda gwasanaethau trydyddol arbenigol fel llosgiadau, llawdriniaeth ar y galon, timau cymunedol neu practisau meddyg teulu. Fel bydwraig sydd newydd gymhwyso yng Nghymru, gallwch weithio ar draws sbectrwm llawn amgylcheddau geni – popeth o wasanaethau meddygaeth ffetws arbenigol i ganolfannau geni annibynnol a gwasanaethau integredig – gan roi profiad cymunedol ac ysbyty i chi. Rydym yn croesawu amrywiaeth, felly ble bynnag yr ydych yn astudio, byddwch yn darganfod amgylchedd dysgu sy'n fywiog, yn gyfeillgar ac yn gynhwysol.
Cymru yw'r genedl gyntaf yn Ewrop i gyflwyno deddfwriaeth sy'n amddiffyn lefelau staffio nyrsio - gan sicrhau y bydd nyrsys yn cael yr amser i ofalu'n sensitif am gleifion. Mae disgwyl i bob uned famolaeth yng Nghymru gydymffurfio â 'Birth-rate Plus' - gan sicrhau bod y nifer gywir o fydwragedd ar gael i'r menywod sy'n derbyn gofal.
Mae gyrfa yng Nghymru yn llawn posibiliadau. Gall bydwragedd symud ymlaen i fod yn fydwragedd arbenigol, ymgynghorol a phenaethiaid rolau bydwreigiaeth. Gall nyrsys symud ymlaen i rolau nyrsio clinigol, uwch ymarferydd nyrsio a rolau nyrsio ymgynghorol. Gallwch hefyd ddilyn llwybrau arweinyddiaeth, o rolau arwain ward a thîm i uwch rolau.
Drwy weithio yng Nghymru, gallwch fanteisio ar ystod o drefniadau gweithio arloesol sydd wedi'u cynllunio i helpu i gyd-bwyso eich gwaith o amgylch eich bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys oriau gwaith hyblyg, cynlluniau talebau gofal plant, mentrau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleusterau meithrin ar y safle.
Os ydych chi am ddod i Gymru i weithio o wlad wahanol, gall ein byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau gynnig amrywiaeth o becynnau adleoli i'ch helpu chi a'ch teulu i ymgartrefu mor hawdd â phosib.
“Rwyf wedi gweld bod pawb yn wirioneddol gefnogol i fy nodau a’m dyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol, ac rwyf wedi cael fy nghefnogi tuag at bopeth yr wyf wedi dymuno ei gyflawni’n broffesiynol.”
Bryony, Bydwraig
Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru yn cynnal gwobrau cyflawniad staff i gydnabod staff sy'n gwneud cyfraniadau eithriadol i redeg a gwella gwasanaethau. Mae'r Gynhadledd Prif Swyddog Nyrsio blynyddol, Gwobrau GIG Cymru a Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru a Gwobrau Bydwraig y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Bydwragedd, i gyd yn cynnig cyfleoedd i chi gael eich cydnabod am eich ymroddiad a'ch arloesedd.
Rydym yn croesawu nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sydd am ddod yn ôl i'r proffesiwn. Mae bwrsariaeth o £1,000 ar gael i nyrsys, ymwelwyr iechyd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol sy'n hyfforddi yng Nghymru. Mae bwrsariaeth o £1,500 hefyd ar gael i fydwragedd sy'n dilyn cwrs dychwelyd i ymarfer yng Nghymru.
Darganfyddwch pam mae cymaint yn dewis hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Ewch i’n hadnoddau allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ddod yn nyrs neu fydwraig, gwybodaeth ar gyfer nyrsys a bydwragedd presennol
Mae Caerdydd yn dod i’r amlwg fel un o brifddinasoedd mwyaf egnïol Ewrop, mae Caerdydd yn cynnig siopa o’r radd flaenaf, bwyd blasus, parciau wedi’u cadw’n dda a’r holl fanteision eraill y byddech chi’n eu disgwyl o fywyd trefol modern. Mae Casnewydd yn ddinas a adnewyddwyd gan fuddsoddiad, mae Abertawe yn apelio gyda’i maestrefi traeth ac mae gan dref farchnad Wrecsam adeiladau hanesyddol tra hefydn yn borth i Ogledd Cymru.
O arfordir byd-enwog Gŵyr yn y de, i Benrhyn Llŷn prydferth ar ymyl Parc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd, mae Cymru yn gartref i lawer o draethau gorau’r DU — pob un yn hygyrch ar hyd llwybr arfordirol parhaus o 870 milltir sy’n datgelu cildraethau, pentiroedd a baeau yn llawn bywyd gwyllt.
Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Ond ble bynnag yr ewch, mae natur o’ch cwmpas chi. O fynyddoedd anhygoel i gymoedd afonydd dramatig, traethau gwag i gopaon clogwyni garw, mae’r dirwedd naturiol yn cynnig cefndir anhygoel p’un a ydych mewn hwyliau am antur, yn edrych i ymlacio neu’n dilyn eich trefn ddyddiol.
Mae cestyll yn diffinio tirwedd Cymru cymaint â’n bryniau a’n dyffrynnoedd. Mae yna 641 i gyd — maent yn drawiadol, yn llawn hud a lledrith chwedlau — pob un yn cynnig cipolwg i’r gorffennol a’r cyfle i chi archwilio’r chwedlau o fewn eu waliau. Wrth fynd yn ôl hyd yn oed ymhellach, mae dwsinau o safleoedd cynhanesyddol i’w gweld hefyd, gan gynnwys rhai o’r rhyfeddodau Neolithig sydd wedi’u cadw orau yn y DU.
“Rwyf wedi bod ym Mhowys drwy gydol fy ngyrfa. Mae Bannau Brycheiniog ar garreg fy nrws ac mae'n wych magu'r plant mewn ardal sy'n cynnig y fath o gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Mae pawb mor gyfeillgar, ac mae gennym ni gymuned wych.”
Emma, Nyrs Staff
Am fwy o ysbrydoliaeth, porwch ein tudalen Fyw i weld pam yng Nghymru, nid yn unig rydym yn cynnig gyrfa, rydym yn cynnig ffordd o fyw
Tudalen FywMae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.
I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis