Nyrsio a Bydwreigiaeth
Oes o gyfleoedd dysgu
Mae'r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i chi. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus ar draws ystod eang o lwybrau, sy'n cynnwys popeth o hyfforddiant yn y gweithle i gyrsiau ôl-gofrestru arbenigol. Yng Nghymru nid yw'r dysgu byth yn dod i ben, lle mae sgiliau a gwybodaeth yn cael eu rhannu'n agored, arloesedd yn cael ei groesawu a'ch cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.
Gall bydwragedd newydd gymwysedig gael budd o'n rhaglen preceptoriaeth Cymru Gyfan. Mae hyn yn eich helpu i atgyfnerthu eich profiad ym mhob maes ymarfer. Cefnogir bydwragedd drwy gydol eu gyrfa gan y Fframwaith Goruchwyliwr Clinigol ar gyfer bydwragedd. Mae hyn yn golygu bod goruchwyliwr penodol, goruchwyliaeth grŵp a chymorth un-i-un ar gyfer cyfleoedd i fyfyrio a dysgu ar y cyd ar gyfer pob bydwraig.
Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru
Yng Nghymru rydym wedi cadwr fwrsariaeth GIG ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiau a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae'r pecyn cymorth hwn yn gyrru neges glir am faint ydym ni yn gwerthfawrogi ein gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.
Addysg bellach sy'n ticio bob bocs
Mae nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wedi'u cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant cyn ac ar cofrestru. Drwy ddewis hyfforddi yng Nghymru, gallwch gael mynediad i bob maes nyrsio a bydwreigiaeth mae'r dewisiadau'n wirioneddol ysbrydoledig.
Fel nyrs sydd newydd gymhwyso, gallwch ddewis y lleoliad clinigol yr hoffech ddechrau eich gyrfa nyrsio ynddo - gyda gwasanaethau trydyddol arbenigol fel llosgiadau, a llawfeddygaeth gardiaidd, i dimau cymunedol medrus neu mewn practis meddyg teulu. Neu fel bydwraig newydd gymhwyso yng Nghymru, gallwch weithio ar draws sbectrwm lawn yr amgylcheddau geni - popeth o wasanaethau meddygaeth y ffetws arbenigol i ganolfannau geni annibynnol a gwasanaethau integredig sy'n rhoi profiad cymunedol ac mewn ysbytai i chi.
Rydym yn croesawu amrywiaeth, felly ble bynnag y byddwch yn astudio byddwch yn darganfod amgylchedd dysgu sy'n fywiog, yn gyfeillgar ac yn gynhwysol.
Hyfforddiant i raddedigion y gallwch ddibynnu arno
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i addysgu ei holl nyrsys a bydwragedd i lefel gradd. Felly does unman yn cymryd eich datblygiad proffesiynol mor ddifrifol ni. Mae ansawdd uchel ein hyfforddiant yn cael ei gydnabod ledled y byd.
Llwybr clir at ymarfer uwch
Mae gan Gymru fframwaith gyrfa i roi llwybr clir i chi at y cymwysterau ol-raddedig sydd eu hangen i ddod yn uwch ymarferydd nyrsio. Mae'r fframwaith wedi'i seilio ar bedwar maes craidd:
- ymarfer clinigol
- addysg
- arweinyddiaeth a rheolaeth
- ymchwil ac arloesi.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd i gefnogi rhaglen arweinyddiaeth flynyddol, fel y gallwch ddatblygu eich sgiliau arwain a'u rhoi ar waith.
Cyfleusterau addysg a hyfforddiant rhagorol
Bydd gennych fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau cynadledda a llyfrgell rhagorol a reolir gan dim ymroddedig o staff profiadol.
Datblygu eich gyrfa gydag ymchwil blaengar
Rydym yn ariannu'r Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC), i ddatblygu capasiti ymchwil o fewn y gweithlu nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i ymchwilwyr newydd a phrofiadol ym maes nyrsio a bydwreigiaeth gael cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil a gynlluniwyd i lunio dyfodol y proffesiwn.
Angen mwy o wybodaeth neu oes gennych gwestiwn penodol?
Cyflwynwch ymholiad yma.
Ein nod yw ymateb i ymholiadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.