TWL

Dr Andrew McKnight

Mae Dr Andrew McKnight yn feddyg teulu sy'n gweithio yn Abertawe. Wedi’i fagu yng Nghymru, roedd yn benderfyniad hawdd iddo gyflawni ei hyfforddiant pellach yma, lle mae bellach yn mwynhau ffordd gytbwys a chymdeithasol o fyw.

Eglura Dr McKnight:

“Rydw i’n hanu o Abertawe yn wreiddiol ac roeddwn i wastad yn mwynhau bod yng nghwmni pobl pan oeddwn i'n iau. Gwyddoniaeth oedd un o fy mhynciau cryfaf yn ystod yr ysgol, felly bu i’r cyfuniad o’r ddau grisialu fy mhenderfyniad i ymgeisio am le mewn ysgol feddygol. Hyfforddais yn Llundain yn Ysbyty Sant Bartholomew, cyn dod yn ôl i Gymru ar gyfer fy mlynyddoedd sylfaen. Fe wnes i ganlyn rhai swyddi cymrawd clinigol yn Lloegr cyn penderfynu dychwelyd i Gymru. 

“Penderfynodd llawer o fy ffrindiau aros yng Nghymru ar ôl cwblhau eu hyfforddiant felly roedd yn naturiol imi wneud cais am hyfforddiant meddyg teulu yng ngwlad fy ngeni. Roeddwn hefyd wedi profi bod gweithio yn Ne Cymru yn llawer mwy ymarferol, sef un o’m hoff agweddau ar y rôl. Mae amgylchedd tîm cryf iawn yma, nad ydw i wedi dod o hyd iddo yn unman arall. 

“Ar hyn o bryd rydw i’n feddyg teulu cyflogedig mewn practis lle bu imi gwblhau fy hyfforddiant meddyg teulu. Mae tîm AaGIC (y ddeoniaeth feddygol) wedi bod yn gefn mawr imi drwy gydol yr hyfforddiant meddyg teulu a thu hwnt. Rydw i wedi gallu ymofyn cyngor gan ymgynghorwyr clinigol pa bryd bynnag roedd ei angen arnaf ac rydw i wedi elwa'n aruthrol yn sgil diwrnodau hyfforddi cenedlaethol a rhanbarthol y mae Cymru'n eu cynnig i hyfforddeion—sydd wedi bod yn hynod dreiddiol ac wedi bod o fudd mawr i'm gyrfa fel meddyg teulu. Rydw i’n chwilio am rolau newydd i’w canlyn yn rhinwedd fy swydd bresennol, i gynorthwyo gyda lles cleifion a staff yn ogystal â darparu gwasanaethau. Mae llawer iawn i ddewis o’u plith!  

“Symudais yn ôl i Gymru i gael ffordd gytbwys o fyw ac i fod yn agosach at fy ffrindiau a'm teulu. Mae prisiau tai hefyd yn fforddiadwy yng Nghymru, a dylanwadodd hynny’n fawr ar fy mhenderfyniad i ymgartrefu yma. Rydw i’n cymryd rhan yn aml mewn rasys parc a thriathlonau. Rydw i hefyd wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar sawl achlysur. Mae cyfleoedd lu i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Os ydych chi ar drywydd ffordd gytbwys o fyw, byddwn yn eich annog i ddewis Cymru.” 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis