TWL

Dr Peter Saul

Mae'r Doctor Peter Saul, sy’n hanu o Lerpwl, wedi byw a gweithio fel meddyg teulu ledled Cymru ers 30 o flynyddoedd. Mae Peter bellach yn gweithio'n rhan-amser fel meddyg teulu i Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru ym Mhractis Beech Avenue ger Wrecsam ac mae hefyd yn mentora'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn sgil ei rôl ag AaGIC (deoniaeth feddygol). Mae gwaith rhan-amser yn caniatáu iddo gyfochri’r swydd y mae'n ei charu gyda’i ddiddordeb mewn hedfan awyrennau ysgafn. 

“Cefais fy ngeni yn Lerpwl lle bues i'n byw am yr hanner cyntaf o’m bywyd. Ond mae gan fy mam wreiddiau Cymreig. Mae ei theulu yn dod o Bowys yng nghanolbarth Cymru a dyna lle cyneuwyd fy hoffter o Gymru. Roedd y dewis i gwblhau fy hyfforddiant meddyg teulu yng Nghymru, man geni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwlad o harddwch naturiol di-ben-draw, yn benderfyniad diamheuaeth i mi. 

“Rydw i bellach wedi gweithio a byw yma ers 30 mlynedd ac mae’r ymdeimlad cryf o gymuned, y personoliaethau heintus a’r diwylliant unigryw Cymreig yn cadw fy nhraed yn gadarn ar dir Gwalia. Byddai rhai’n dadlau nad yw'r Gwasanaeth Iechyd presennol yma'n berffaith. Ond pa Wasanaeth Iechyd sydd? I mi, mae'n ymwneud ag ysbryd cydweithio a chostau byw fforddiadwy yn gymysg â'r cydbwysedd cywir rhwng diwylliant a chyfleusterau gwledig a dinesig. Hyn sy’n gwneud Cymru yn le mor arbennig i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. 

“Mae gweithio o fewn y sector iechyd yng Nghymru hefyd yn cynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth wych, beth bynnag fo’ch cyfnod gyrfa. Wedi 30 mlynedd, rydw i'n ddigon ffodus bellach i weithio fel meddyg teulu rhan amser mewn practis lled-wledig ger Wrecsam. Mae hyn yn caniatáu imi gyfuno’r swydd ddyddiol gyda fy angerdd dros hedfan awyrennau ysgafn. Rydw i'n hedfan o Faes Awyr Y Trallwng lle mae modd imi fwynhau golygfeydd godidog o'r awyr yn ogystal ag ar y ddaear—pan mae fy nhraed yn gadarn ar y ddaear. Fodd bynnag, mae'n hawdd dod o hyd i fannau hardd i feicio—gyda'r mynyddoedd a glan y môr yn gymharol agos, ac rydw i’n gallu beicio i'r practis ar ddiwrnodau nad ydw i ar alwad. 

“Mae cael fy lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig y gorau o ddau fyd – porth agored i gefn gwlad rhyfeddol Cymru, yn ogystal ag agosrwydd at ddinasoedd mawr Lerpwl a Manceinion. Os ydw i wir eisiau dianc, mae maes awyr Manceinion 55 munud i ffwrdd mewn car. Ond eto, pam fuaswn i eisiau gwneud hynny?” 

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis