Swyddi yng Nghymru
Swyddi GIG yng Nghymru
Sicrhewch y cyfle i barhau â thraddodiadau'r GIG yng ngwlad ei eni, gan weithio gyda chyfleusterau modern gyda chefnogaeth, a chael dylanwad mawr ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
Swyddi gan Broffesiwn
Gallwch weld pob swydd wag ar wefan Wales Health Jobs UK.
GIG Cymru
Mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau lleol drwy Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Mae pob un yn cael ei redeg fel sefydliad ar wahân. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob un ar eu gwefannau isod.
Byrddau Iechyd GIG Cymru
Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn eu hardaloedd priodol, gyda phob Bwrdd Iechyd yn cael ei redeg fel sefydliad ar wahân. Gallwch ddod o hyd i ragor am bob Bwrdd Iechyd unigol drwy'r dolenni canlynol:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Ymddiriedolaethau GIG yn gofalu am wasanaethau Iechyd y Cyhoedd, Ambiwlans, Canser a Gwaed.
Mae yna hefyd nifer o sefydliadau awdurdod iechyd arbenigol sy'n cefnogi GIG Cymru.
Mae gan rai sefydliadau Cymru gyfan rolau mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru, yn hytrach nag mewn un ardal.
Sefydliadau Cymru Gyfan
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST)
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP)
Mae gan rolau mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a phlant yng Nghymru wefan benodol Gofalwn.cymru.