TWL

Siaradwch â ni am ymuno â'n timau nyrsio iechyd meddwl. 

Ydych chi'n gweithio ym maes iechyd meddwl ar hyn o bryd ac yn awyddus i wneud gwir-wahaniaeth? Mae gan GIG Cymru gyfleoedd ar draws ein gwasanaethau iechyd meddwl.

Cysylltwch â ni

Dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. 

Yn GIG Cymru, mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â'n gweithlu, wrth i ni lunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae ein bwriad yn syml, i fod y cyflogwr cyntaf o ran dewis. Drwy feithrin gyrfaoedd i’n staff sydd werth eu gwneud ac sy’n bodloni, gallwn sicrhau bod defnyddwyr ein gwasanaethau yn gallu dod o hyd i’r gofal gorau posibl, nawr ac yn y dyfodol.  

Hyfforddiant yng Nghymru

split image showing a lady at work and out for a run in her free time

Hyfforddiant nyrsys iechyd meddwl yng Nghymru

Mae Cymru yn cynnig y cyfle i hyfforddi fel nyrs iechyd meddwl mewn chwe phrifysgol ar draws y wlad: 

  • Aberystwyth 
  • Bangor 
  • Caerdydd 
  • Morgannwg 
  • Abertawe 
  • Wrecsam 

Hyd pob cwrs yw 2-4 blynedd, yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol ac a yw pob myfyriwr yn ymgymryd ag astudiaeth amser llawn neu ran-amser. Yn ystod hyfforddiant, bydd myfyrwyr yn derbyn ystod o ddysgu academaidd ac ymarferol, gyda lleoliadau clinigol o fewn dalgylch pob prifysgol. Ar gyfer nyrsys anghofrestredig, mae llawer o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cynnig llwybrau amgen i ddod o hyd i hyfforddiant nyrsio a chofrestru. 

Cymhellion

Ar hyn o bryd mae hyfforddiant nyrsio yng Nghymru yn cael ei ariannu gan gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Mae’r cynllun yn darparu hawl i gael bwrsariaeth ffioedd dysgu, grantiau cymorth a threuliau lleoliad. I fod yn gymwys, bydd angen i fyfyrwyr ymrwymo i weithio yng Nghymru am o leiaf 2 flynedd ar ôl cyflawni’r cwrs gradd. Ar gyfer nyrsys anghofrestredig sy’n ystyried hyfforddiant nyrsio rhan amser, gellir ceisio cyllid drwy’r bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth sy’n eu cyflogi.

Gweithio yng Nghymru

split image showing a man at work and him in his free time

Cyfleoedd

Mae Cymru yn darparu cyfleoedd i nyrsys weithio ar draws amrywiaeth o ardaloedd. Mae hyn yn eu galluogi i gynorthwyo pobl trwy gydol eu hoes. Mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cynnig amrywiaeth o fodelau cleifion mewnol. Yn eu plith mae derbyniadau dynodedig, triniaethau arhosiad hirach, adsefydliad, wardiau dwyster seiciatrig, wardiau diogelwch isel a chanolig. Yn ogystal, mae wardiau cleifion mewnol arbenigol, gan gynnwys dementia niwroseiciatrig a dementia cynnar.

Modelau cymunedol

Mae modelau cymunedol yr un mor amrywiol, gyda chyfleodd cyffrous i weithio mewn timau amlddisgyblaethol o fewn amrywiaeth o wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys y gymuned seiciatrig, gofal sylfaenol, hyfforddiant uwch-seiciatreg plant a’r glasoed (CAMHS), ymyriadau cynnar, cyffuriau ac alcohol, cyn-filwyr, ceiswyr lloches, asesiad y cof, triniaeth yn y cartref, mewngymorth a chyswllt carchardai.

Mae Cymru’n cynnig cyfle i nyrsys fod yn wahanol. Mae’n cynnig y cyfle iddynt fod yn sbardunwyr sy’n galluogi newid cadarnhaol ym mywydau pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, eu teuluoedd, a’r gymuned ehangach.

Datblygiad gyrfa

Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ar draws Cymru yn cynnig tiwtoriaeth 6 mis. Mae hyn ar gyfer nyrsys sydd newydd gofrestru, nyrsys sy’n dychwelyd i ymarfer, a nyrsys cofrestredig heb brofiad iechyd meddwl a allai ddymuno gweithio o fewn gwasanaethau iechyd meddwl. Tra yn y swydd, mae nyrsys yn cael y cyfle i ddysgu gan nyrsys ymroddedig a phrofiadol. Mae hyn yn ogystal ag elwa ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd ar gael gan weithio ar y cyd ag aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol ehangach. Mae llawer o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’n cynnig rhaglen datblygu carlam. Dyma le mae nyrsys yn cael y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, o fewn fframwaith cymwyseddau dynodedig sy’n galluogi dilyniant gyrfa gyflymach.

Mae Cymru’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu wedi’u hariannu. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau are gyfer rhagnodi annibynnol, uwch-ymarferwyr nyrsio a nyrsys ymgynghorol. Yn ogystal, mae’n cynnig ystod o gymwysterau cwnsela a therapi arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), therapi ymddygiad dialectig (DBT) a dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau’r llygaid (EMDR) ynghyd â chymwysterau rheoli ac arwain.

Byw yng Nghymru

a lady looking out to the sea, admiring the view

Bywyd trefol

Gan ddod i'r amlwg yn gyflym fel un o brifddinasoedd mwyaf egnïol Ewrop, mae Caerdydd yn cynnig siopa o’r radd flaenaf, bwytai ffasiynol, parciau hardd a’r holl fanteision eraill y byddech chi’n eu disgwyl o fywyd trefol modern. Mae Casnewydd yn ddinas wedi’i hadnewyddau gan fuddsoddiad. Mae Abertawe’n apelio gyda’i maestrefi traethol ac mae tref farchnad Wrecsam yn cynnig adeiladau hanesyddol a dyma’r porth i ogledd Cymru.

Bywyd traethol

O arfordir byd-enwog Gŵyr yn y de, i benrhyn hardd Llŷn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yn y gogledd, mae Cymru’n gartref i lawer o draethau gorau’r DU. Mae modd dod o hyd i bob un ohonynt ar hyd llwybr arfordirol 870 milltir barhaus sy’n datgelu cildraethau, pentiroedd a baeau sy’n gorlifo â bywyd gwyllt.

Yr awyr agored

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru. Lle bynnag yr ewch chi, mae natur o’ch cwmpas. O fynyddoedd prydferth i ddyffrynnoedd afonydd dramatig, traethau gwag i gopaon clogwyni garw, mae’r dirwedd naturiol yn cynnig cefndir syfrdanol. Mae hyn p’un a ydych yn yr hwyl am antur, yn edrych i ymlacio neu dim ond yn dilyn eich trefn ddyddiol.

Cestyll a chwedlau

Mae cestyll yn diffinio’r dirwedd Gymreig lawn cymaint â’n bryniau a’n cymoedd. Mae 641 i gyd - y mawreddog-chwedlonol a’r adfeilion. Mae pob un yn cynnig cipolwg ar y gorffennol a’r cyfle i chi archwilio’r chwedlau o fewn eu waliau. Gan fynd yn ôl hyd yn oed ynghynt, mae yna ddwsinau o safleoedd cynhanesyddol i'w gweld hefyd, gan gynnwys rhai o’r rhyfeddodau Neolithig sydd wedi’u cadw orau yn y DU.

lady on a hike in the mountains

Straeon bywyd go iawn

“Gyrfa rydw i'n ymfalchio ynddi a swydd rydw i'n ei charu."

Darllenwch stori James

Split image showing James at work and in his leisure time

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a polisi cwcis